Tylluan

math o adar (rhywogaeth)
Tylluanod
Tylluan Wen (Tyto alba)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Aves
Is-ddosbarth:Neornithes
Inffradosbarth:Neognathae
Uwchurdd:Neoaves
Urdd:Strigiformes
Wagler, 1830
Teuluoedd
Cyfystyron

Strigidae sensu Sibley & Ahlquist

Aderyn ysglyfaethus nosol yw tylluan (hefyd gwdihŵ), sy'n perthyn i urdd y Strigiformes.

Mae tua 229 o rywogaethau a geir bron ym mhob gwlad yn y byd.[1] Mae tylluanod yn hela mamaliaid bach, pryfed ac adar eraill ac mae ychydig o rywogaethau'n dal pysgod.[2]

Dosberthir tylluanod yn ddau isurdd: yr isurdd hwn, y Strigidae, neu'r ‘gwir dylluanod’ ac isurdd y Tytonidae, neu'r ‘dylluanod gwynion’ (barn-owls).

Mae'r dylluan mewn mytholeg clasurol yn symbol o wybodaeth, ond mewn mytholeg Geltaidd fe'i hystyrir yn aderyn marwolaeth. Trowyd Blodeuwedd yn dylluan, fel dial am odineb gyda Gronw Pebr. Ceir ei hanes ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, sef Math fab Mathonwy. Cynllwyniodd Blodeuwedd gyda'i chariad Gronw Pebr, arglwydd Penllyn, i ladd Lleu, ac fel cosb cafodd hi ei throi'n dylluan gan Gwydion.

Rhestr rannol o rywogaethau

Rhestr Wicidata:

teuluenw tacsondelwedd
CordylluanGlaucidium passerinum
Cordylluan BolifiaGlaucidium bolivianum
Cordylluan BrasilGlaucidium brasilianum
Cordylluan CiwbaGlaucidium siju
Cordylluan HardyGlaucidium hardyi
Cordylluan dorchogGlaucidium brodiei
Cordylluan fannogGlaucidium perlatum
Cordylluan frongochGlaucidium tephronotum
Cordylluan resog AsiaGlaucidium cuculoides
Cordylluan y GogleddGlaucidium gnoma
Cordylluan y goedwigGlaucidium radiatum
Cordylluan yr AndesGlaucidium jardinii
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.