Tatŵ

Ffurf o addurno'r corff yw tatŵ (lluosog: tatŵau, tatŵs) trwy roi inc annileadwy i mewn i'r croen i newid ei liw.

Aelod o Lynges yr Unol Daleithiau yn rhoi tatŵ i forwr arall, 1944.
Rhaff ac angor: darlun ar y chwith a ddefnyddiwyd gan yr artist i greu'r tatŵ ar fraich person

Defnyddir tatŵio mewn nifer o ddiwylliannau ar draws y byd, gan gynnwys yr Ainu, y Berberiaid, y Celtiaid, y Ffichtiaid, y Maorïaid, y Polynesiaid, a grwpiau cymdeithasol megis morwyr, moto-beicwyr, isddiwylliannau cerddorol, a charcharorion. Gan amlaf mae gan datŵau bwrpas esthetig neu ddiwylliannol, ond weithiau fe'i ddefnyddir am resymau meddygol neu er enghraifft i farcio carcharorion, megis yng ngwersylloedd difa'r Natsïaid.

Cefn dyn o Japan c. 1875.

Gellir cael tatŵ damweiniol, er enghraifft os yw pensil yn treiddio ac yn gadael graffit dan y croen.[1]

Daw'r gair Cymraeg trwy'r Saesneg tattoo, a ddaw o'r gair Polyneseg tatau, sy'n golygu "ysgrifennu".[2]

Tatŵs amatur a phroffesiynol

Tatŵs pobl Koita yn Papua Gini Newydd, sy'n cychwyn pan mae'r plentyn yn 5 oed. Llun: 1912.

Yn Papua Gini Newydd mae'r plant yn derbyn eu tatŵ cyntaf wedi iddyn nhw gyrraedd eu pen-blwydd yn 5 oed, ac un marc pob blwyddyn wedi hynny; cânt datŵ siap 'V' ym mlwyddyn eu glasoed, sy'n cyfleu eu bod yn ddigon hen i gael cymar. Mae'r tatŵ iddynt, felly, yn un o gerrig milltir (rites of passage) mawr bywyd ac yn symbol o statws a safle o fewn cymdeithas. Gall hefyd fod yn symbol o ddefosiwn crefyddol, rhywiol, ffrwythlondeb neu dewrder mewn rhai diwylliannau. Mae'n medru hysbysu pobl fod y peson yn caru rhywun, neu'n perthyn i un grwp arbennig a.y.b.[3] Mae'r Maorïaid yn Seland Newydd yn dal i datŵio'r 'moko' cywrain ar ei wynebau. Yn Cambodia, Laos, a Gwlad Tai, mae'r tatŵ 'yantra' yn cael ei wigo i amddiffyn y person oddi wrth drygioni ac ysbrydion drwg neu i gael lwc dda. Weithiau, mae'r tatŵ'n ddyfyniad allan o gerdd neu lenyddiaeth, o'r Beibl neu ddyfyniad o ffilm - yn enwedig yn y Gorllewin. Y mwyaf poblogaidd gan Gristnogion ydy Ioan 3:16, Philippians 4:13, a Salm 23.[4]

Yn y Philipinau mae rhai llwythi'n credu fod priodweddau lledrithiol yn perthyn i rai tatŵs, sy'n amddiffyn y person sy'n ei wisgo ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ddatganiad i'r byd o gyrhaeddiadau'r person, sef yr hyn y mae wedi'i gyflawni.

Gweler hefyd

  • Sian Davies: model sydd wedi ymddangos ar glawr Skin Deep dair gwaith

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am tatŵ
yn Wiciadur.