Tesla Model Y

un o gerbydau Tesla

Mae Model Y Tesla yn SUV trydan maint canolig batri a adeiladwyd gan Tesla, Inc. ers 2020.

Tesla Model Y
Enghraifft o'r canlynolmodel y cerbyd Edit this on Wikidata
Mathcrossover, Car trydan Edit this on Wikidata
Màs2,003 cilogram Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Rhagflaenwyd ganTesla Model 3 Edit this on Wikidata
GwneuthurwrTesla Edit this on Wikidata
Hyd4,750 milimetr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.tesla.com/modely Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Model Y yn seiliedig ar lwyfan sedan y Model 3,[1] ac mae 75 y cant o'i rannau'n gyffredin a llwyfan Model 3 Tesla,[2] gan gynnwys dyluniad mewnol ac allanol tebyg a'i seilwaith trydan. Mae'r Model Y yn llai costus na Model X Tesla canolig. [3] Fel y Model X, mae'r Model Y yn cynnig trydedd rhes o seddi, fel opsiwn.[4]

Dadorchuddiwyd y car ym Mawrth 2019 a dechreuodd y gwaith o'i gynhyrchu yn Ffatri Tesla yn Fremont yn mis Ionawr 2020,[5][6] agan ei ddosbarthu ar 13 Mawrth 2020.[7]

Yn chwarter cyntaf ac ail 2023, gwerthodd y Model Y yn well na'r Toyota Corolla, gan ddod y car sy'n gwerthu orau yn y byd, y cerbyd trydan cyntaf erioed i hawlio'r teitl hwnnw.[8][9]

Model Tesla 3 (chwith) a Tesla Model Y (dde) ochr yn ochr
Golygfa o'r cefn

Manylion technegol

Pwmp gwres

Model Y yw cerbyd cyntaf Tesla i ddefnyddio pwmp gwres ar gyfer gwresogi caban mewnol y car.[10][11] [12] [13] Gall y pwmp gwres fod hyd at 300% yn fwy effeithlon na'r gwresogi gwrthiant trydan a arferid ei ddefnyddio.[14]

Roedd rhai cerbydau trydan gan weithgynhyrchwyr eraill, gan gynnwys y Nissan Leaf, Renault Zoe, BMW i3, Jaguar I-Pace, Audi e-tron, a Kia Niro, eisoes wedi defnyddio pympiau gwres yn eu ceir trydan.[15] Mae pympiau gwres Tesla, fodd bynnag, wedi cael eu canmol yn arw am ddefnyddio llawer llai o rannau.[16]

Radar

Nid oedd gan grbydau a gynhyrchwyd ers mis Mai 2021 radar ar gyfer adaptive cruise control.[17] Yn Chwefror 2022, agorodd y Weinyddiaeth Diogelwch Traffig Priffyrdd Cenedlaethol (National Highway Traffic Safety Administration yr UD) ymchwiliad i frecio diangen yn y cerbydau newydd hyn.+[18]

Fe wnaeth diwedddariad meddalwedd 20 Medi 2022 drawsnewid y ceir oedd a radar i Tesla Vision. Mae'r cymorth llywio wedi'i gyfyngu i 85 mya (137 km/awr), i lawr o 90 mya (140 km/awr) ac mae'r lleiafswm y pellter rhwng dau gar wedi'i newid i ddau hyd car (i lawr o un hyd car).

Derbyniad

Mae Model Y wedi cael derbyniad da iawn ar y cyfan gyda'r beirniaid yn canmol ymddangosiad y car, ei gyflymiad cyflym, y tu mewn ac ystod eang eraill o bethau. Fodd bynnag, fe feirniadwyd y modd yr oedd y cerbyd yn cael ei lywio a'i reid anesmwyth.[19] Yn ôl Top Gear, mae'r Model Y yn "gar gwych i fyw gydag ef".[20] Cyfeiriwyd at y Model Y hefyd fel yr arweinydd yn ei ddosbarth,[21] ond mae adolygwyr yn nodi bod cystadleuaeth yn cynyddu gyda nifer o ddewisiadau amgen yn dod i'r farchnad gan weithgynhyrchwyr eraill.[22]

Gwobrau

Yn 2023, enillodd Model Y Tesla 'Wobr Gwerth Gweddilliol Grŵp Autovista' yn y categori 'Compact and Large Battery-Electric Vehicle (BEV) SUV'.[23] Enillodd Model Y hefyd wobr 'y Car Cwmni Gorau' yng Ngwobrau Ceir Gorau Carbuyer 2024. [24]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau