Totalitariaeth

System wleidyddol yw totalitariaeth lle nad yw'r wladwriaeth, sydd gan amlaf o dan unben, carfan, neu blaid unigol, yn cydnabod unrhyw gyfyngiadau i'w hawdurdod ac yn ceisio rheoli pob agwedd o fywyd cyhoeddus a phreifat pan fo'n bosib. Gan amlaf nodweddir totalitariaeth gan gyfuniad o awdurdodaeth ac ideoleg.[1]

Mao Zedong (Gweriniaeth Pobl Tsieina) a Joseff Stalin (Yr Undeb Sofietaidd), ysgwydd wrth ysgwydd mewn seremoni i ddathlu pen=blwydd Stalin yn 71 oed ym Moscow yn Rhagfyr 1949.

Mae llywodraethau totalitaraidd yn aros mewn grym gwleidyddol trwy bropaganda a ledaenir gan gyfryngau torfol a reolir gan y wladwriaeth. Arfau eraill a ddefnyddir gan wladwriaethau totalitaraidd i reoli eu dinasyddion yw: rheolaeth un-blaid (a nodir yn aml gan gwlt personoliaeth carismatig), rheolaeth dros yr economi, rheolaeth dros ryddid mynegiant a chyfyngiant arno, gwyliadwriaeth dorfol a'r defnydd o derfysgaeth wladwriaethol.

Crewyd y cysyniad o dotalitariaeth yn gyntaf yn y 1920au gan Weimar German a datblygwyd hwn gan y Natsi academaidd Carl Schmitt a Ffasgwyr Eidalaidd. Y term a ddefnyddiodd Schmitt oedd Totalstaat (1927), a hynny o fewn ei waith dylanwadol 'Cysyniad y Wleidyddiaeth' ar wladwriaeth eithriadol o gryf ac oblygiadau cyfreithiol i wlad o'r fath.[2] Yn ystod y Rhyfel Oer daeth y gwaith hwn yn hynod boblogaeidd, yn enwedig o fewn propaganda gwrth-gomiwnyddol, er mwyn ceisio dangos y tebygrwydd rhwng yr Almaen Natsiaidd a gwladwriaethau Ffasgiaidd eraill ar y naill law a gwladwriaethau Sofietaidd y Blaid Gomiwnyddol ar y llall.[3]

Cyfeiriadau