Awdurdodaeth (gwleidyddiaeth)

Ffurf llywodraeth sydd yn seiliedig ar ufudd-dod llwyr i awdurdod yn hytrach na rhyddid personol yw awdurdodaeth. Mewn trefn awdurdodaidd, câi grym ei grynhoi ym meddiant arweinydd neu elît, ac nid yw'r hynny yn gyfansoddiadol ddarostyngedig i gydsyniad y bobl. Nodweddir system wleidyddol awdurdodaidd gan ddiffyg lluosogaeth, defnydd o rym canolog cryf i gadw a chynnal y status quo, a chyfyngiadau ar reol y gyfraith, rhaniad pwerau, a democratiaeth. Mae arweinwyr awdurdodaidd yn aml yn arfer grym yn fympwyol ac heb barch at y broses gyfreithiol. Dan drefn tra-awdurdodaidd, nid oes modd i'r llywodraeth gael ei dymchwel drwy'r broses wleidyddol. Weithiau, caniateir pleidiau eraill a chynhelir etholiadau, ond defnyddir trais a thwyll i sicrhau nad yw'r llywodraeth yn colli grym.[1]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.