Troed y gywen

Lythrum portula
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Plantae
Ddim wedi'i restru:Angiosbermau
Ddim wedi'i restru:Ewdicotau
Urdd:Myrtales
Teulu:Lythraceae
Genws:Lythrum
Rhywogaeth:L. portula
Enw deuenwol
Lythrum portula
Carl Linnaeus
Cyfystyron

Peplis portula

Llysieuyn blodeuol lluosflwydd sy'n tyfu yn Ewrop yw Troed y gywen sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Lythraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Lythrum portula a'r enw Saesneg yw Water purslane.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Troed y Gywen, Porpin, Pwrpin.

Mae'n tyfu i uchder o 15 cm, fel arfer mewn gwlyptir. Gosodir y dail mewn parau cyferbyn a'i gilydd, a thyf petalau'r blodyn o wefus tiwb y blodamlen (y calycs). Mae'r blodau'n nodweddiadol o'r teulu hwn gan fod y petalau wedi'u crychu fel hen femrwn.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: