Trysor

Casgliad o gyfoeth yw trysor (o'r Lladin: thesaurus o'r iaith Groeg θησαυρός thēsauros, "storfa drysor") [2] [3] - yn aml yn tarddu o hanes hynafol - sy'n cael ei ystyried ar goll a/ neu wedi'i anghofio hyd nes y caiff ei ailddarganfod. Mae rhai awdurdodaethau yn diffinio trysor yn gyfreithiol, fel yn Neddf Trysor Prydain 1996.

Trysor Villena, un o ddarganfyddiadau llestri aur cynhanesyddol pwysicaf Ewrop . [1]

Mae chwilio am drysor cudd yn thema gyffredin mewn chwedlau; mae helwyr trysor yn bodoli, a gallant chwilio am gyfoeth coll i ennill eu bywoliaeth.

Mae trysor sydd wedi'i gladdu yn rhan bwysig o gredoau poblogaidd sy'n gysylltiedig â môr-ladron. Tybiwyd bod môr-ladron yn claddu eu cyfoeth mewn lleoedd anghysbell, gan fwriadu dychwelyd i'w nôl yn ddiweddarach (yn aml trwy ddefnyddio mapiau trysor). Serch hynny, prin iawn yw'r achosion ar gofnod o fôr-ladron yn claddu trysor mewn gwirionedd, ac nid oes unrhyw achosion hanesyddol o fap trysor o'r fath.[4]

Mae map trysor yn fath o fap sy'n nodi lleoliad trysor sydd wedi'i gladdu, mwyngloddfa goll, cyfrinach werthfawr neu leoliad cudd. Un o'r enghreifftiau cynharaf y gwyddys amdani o ddogfen oedd yn nodi lleoliad trysor yw'r sgrôl copr, a gafodd ei ddarganfod ymhlith Sgroliau'r Môr Marw ger Qumran yn 1952. Ond, ar y cyfan, roedd mapiau trysor yn fwy cyffredin mewn ffuglen nag mewn gwirionedd.

Mae mapiau trysor wedi cymryd nifer o ffurfiau mewn llenyddiaeth a ffilm, fel siart llyfrïog ystrydebol gyda "X" anferth i ddynodi lleoliad y trysor, a wnaed yn boblogaidd gan Robert Louis Stevenson yn ei nofel Treasure Island (1883), neu bos cryptig (yn" The Gold-Bug " (1843) gan Edgar Allan Poe).

Mae 'helfa drysor' yn ffurf boblogaidd o adloniant ble bydd y rhai sy'n cymryd rhan ynddi yn cael casgliad o gliwiau neu bosau a fydd yn eu harwain ar drywydd penodol. Cynhelir helfeydd trysor ar droed ac mewn ceir, a bydd y rhai sy'n cymryd rhan fel arfer yn ymgynnull ar ei diwedd.

Cyfeiriadau