Neidio i'r cynnwys

Via Egnatia

Oddi ar Wicipedia
Via Egnatia
Mathffordd filwrol, ffordd Rufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladTwrci Edit this on Wikidata

Roedd y Via Egnatia (Groeg: Εγνατία Οδός) yn ffordd Rufeinig yn y Balcanau a adeiladwyd gan y Rhufeiniaid yn yr 2ail ganrif CC. Roedd yn croesi taleithiau Rhufeinig Illyria, Macedonia, a Thrace, gan redeg trwy diriogaeth sydd heddiw'n rhan o Albania, Gweriniaeth Macedonia, Gwlad Groeg, a rhan Ewropeaidd Twrci.

Gan ddechrau yn ninas Dyrrachium (Durrës heddiw, Albania) ar lan Môr Adria, dilynai'r ffordd lwybr anodd ar hyd afon Genusus (Afon Skhumbini), dros fynyddoedd Candaviae ac ymlaen i'r ucheldiroedd o gwmpas Llyn Ohrid. Roedd yn troi i'r de wedyn, gan ddilyn sawl bwlch uchel i gyrraedd arfordir gogleddol Môr Aegea yn Thessalonica. O fan 'na rhedai ymlaen trwy Thrace i ddinas Byzantium (Istanbul heddiw). Ei hyd oedd tua 1,120 km (696 milltir fodern / 746 milltir Rufeinig).

Hanesgolygu cod

Adeiladwyd y Via Egnatia i gysylltu'r gwladfeydd Rhufeinig rhwng Môr Adria a'r Bosphorus. Gorweddai pennau'r Via Egnatia a'r Via Appia, yn arwain i ddinas Rhufain ei hun, gyferbyn â'u gilydd ar Fôr Adria. Felly roedd y ffordd yn gysylltiad uniongyrchol rhwng gwladfeydd de'r Balcanau a Rhufain. Yn ogystal roedd yn gyswllt hanfodol i'r tiriogaethau Rhufeinig yn Asia Leiaf; cyn i ffordd fwy gogleddol gael ei hagor gan Augustus hon oedd prif gyswllt Rhufain ar dir â'i thiriogaethau yn nwyrain Môr y Canoldir.

Chwareodd ran bwysig yn hanes Rhufain. Teithiodd byddinoedd Iŵl Cesar a Pompey ar hyd y Via Egnatia yn y rhyfel cartref, ac yn ddiweddarach aeth Marc Antoni ac Octavian ar ôl Cassius a Brutus i'w hymladd ym Mrwydr Philippi. Atgyweirwyd y ffordd gan Trajan cyn ei ymgyrch yn OC 113 yn erbyn y Parthiaid. Ond erbyn y 5g roedd y ffordd mewn cyflwr gwael.

Cafodd ei hatgyweirio eto gan y Bysantiaid ond ni ddaeth yn ôl i'w hen ogoniant. Heddiw mae'r ffordd Εγνατία Οδός yn dilyn ei chwrs yng Ngwlad Groeg.

Prif drefi ar y Via Egnatiagolygu cod

(wedi'u rhestri o'r gorllewin i'r dwyrain)

Enw hynafolEnw diweddarGwlad bresennol
Dyrrachium, wedyn EpidamnosDurrësAlbania
ClaudianaPeqinAlbania
ApolloniaGer pentref Pojani (7 km i'r gorllewin o Fier)Albania
Masio ScampaElbasanAlbania
LychnidosOhridGweriniaeth Macedonia
Heraclea Lyncestis2 km of BitolaGweriniaeth Macedonia
FlorinaFlorinaGwlad Groeg
EdessaEdessaGwlad Groeg
PellaPellaGwlad Groeg
ThessalonicaThessalonikiGwlad Groeg
PydnaEfallai Kitros, ger PydnaGwlad Groeg
AmphipolisAmpifoliGwlad Groeg
Philippi14 km o KavalaGwlad Groeg
NeapolisKavalaGwlad Groeg
TraianoupolisTraianoupoliGwlad Groeg
KypselaİpsalaTwrci
AenusEnezTwrci
Aproi (neu Apros, Apris, Aprī,...)Pentref KermeyanTwrci
Perinthus, wedyn HeracleaMarmaraereğlisiTwrci
RhegionKüçük Çekmece, ger IstanbulTwrci
Adrianople (Adrianopolis)EdirneTwrci
CaenophruriumÇorluTwrci
Melantiassafle anhysbysTwrci
Byzantium, wedyn Caer GystenninIstanbulTwrci

Llyfryddiaethgolygu cod

  • Michele Fasolo: La via Egnatia I. Da Apollonia e Dyrrachium ad Herakleia Lynkestidos, Istituto Grafico Editoriale Romano, II ediz., Roma 2005

Dolenni allanolgolygu cod

  • (Saesneg) Hanes Ffeil PDF
🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanWicipedia:Cysylltwch â niXxx: State of The UnionCarles PuigdemontArbennig:SearchFfilm llawn cyffroDisturbiaJean SimmonsXHamsterEagle EyeCadwyn BlocUnol Daleithiau AmericaVirgin TerritoryThe Salton SeaYr Ail Ryfel BydWicipedia:CymorthTlws AdranWicipedia:Gwadiad CyffredinolSpecial:SearchArbennig:RecentChangesWicipedia:Ynglŷn â WicipediaTudur OwenDelwedd:XXx REACTIVADO Conferencia de Prensa.jpgThe Inbetweeners MovieMET-ArtWicipedia:Y CaffiWicipedia:Porth y GymunedWikipediaBig BoobsBig Fat LiarBeirdd y TywysogionAdran Gyfiawnder yr Unol DaleithiauCategori:Materion cyfoesSaesnegMeilir GwyneddDefnyddiwr:Stefanik/Pwll TywodSefydliad elusennolWicipedia:Cyflwyniad