Wicipedia:Beth ydy erthygl

Tudalen yw erthygl ar Wicipedia sydd yn cynnwys gwybodaeth gwyddoniadurol neu almanac (rhestri, llinellau amser, tablau, siartau, ayyb.). Ceir rhestr o'r erthyglau ar Wicipedia ar 'Pob Erthygl'.

Nid erthygl yw tudalen yn un o'r parthau a ddefnyddir at bwrpas arbennig, megis:

  • y parth Wicipedia, ar gyfer materion Wicipedia e.e. Wicipedia:Ystadegau Wicipedia Cymraeg a'i thudalen siarad Sgwrs Wicipedia:Ystadegau Wicipedia Cymraeg.
  • y parth Sgwrs ar gyfer trafod cynnwys y dudalen berthnasol, e.e. Sgwrs:Hafan
  • y parth Arbennig ar gyfer tudalennau a grëir gan y meddalwedd yn ôl y gofyn.
  • y parth MediaWici ar gyfer testun y rhyngwyneb ar Wicipedia, e.e. MediaWici:Removedwatch.
  • y parth Nodyn ar gyfer nodion y gellir eu gosod mewn nifer o erthyglau ar unwaith. Pan newidir y nodyn newidir yr holl erthyglau sy'n defnyddio'r nodyn ar unwaith, e.e. Nodyn:Cymraeg.
  • y parth Categori a ddefnyddir i fynegeio a threfnu erthyglau Wicipedia, e.e. Categori:Categorïau.
  • y parth Defnyddiwr ar gyfer tudalennau lle gall defnyddwyr cofrestredig ysgrifennu, pob un a'i dudalen ei hunan; gweler rhestr y defnyddwyr
  • y parth Delwedd ar gyfer lluniau, e.e. enghraifft.

At hynny nid ystyrir bod pob tudalen yn y prif barth ar gyfer erthyglau yn erthygl. Nid erthyglau yw'r canlynol:

  • yr Hafan
  • tudalennau heb gyswllt wici mewnol ynddynt.
  • tudalennau gwahaniaethau a ddefnyddir i wahaniaethu rhwng ystyron gwahanol un gair.
  • tudalennau ailgyfeirio sy'n cynorthwyo'r darllenydd i ddod o hyd i erthygl.

Diffiniad erthygl ar gyfer y meddalwedd ar Arbennig:Ystadegau yw tudalen sydd yn y prif barth nad ydy'n dudalen ailgyfeirio ac sy'n cynnwys o leiaf un cyswllt wici. Mae'r diffiniad yn cynnwys egin erthyglau a thudalennau gwahaniaethu.

Mae tudalennau yn y parthau uchod heblaw am y prif barth yn ymddangos ar sgrin lliw melyn (pan mae'r meddalwedd wedi cael ei osod i wneud hyn), ond mae tudalennau normal y prif barth yn ymddangos ar sgrin gwyn.

Gweler hefyd: Wicipedia:Cwestiynau Cyffredin