Winston Roddick

Bargyfreithiwr Cymreig yw George Winston Roddick, CB, QC (ganwyd 2 Hydref 1940),[1] a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf Heddlu Gogledd Cymru. Roedd yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond rhedodd fel ymgeisydd annibynnol ac ymddiswyddodd o'r blaid wedi ei ethol.

Winston Roddick
CB QC
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru
Yn ei swydd
15 Tachwedd 2012 – 5 Mai 2016
Manylion personol
GanwydGeorge Winston Roddick
(1940-10-02) 2 Hydref 1940 (83 oed)[1]
Caernarfon[1]
Plaid wleidyddolAnnibynnol

Bywyd cynnar

Ganwyd a magwyd Roddick yng Nghaernarfon,[1] a'i haddysgwyd yn Ysgol Forwrol Frenhinol Tal-Handaq, Malta ac Ysgol Ramadeg Syr Hugh Owen, Caernarfon.

Ar ôl hyfforddi a gweithio fel heddwas yn Lerpwl, aeth i wneud gradd yn y gyfraith yngNgholeg Prifysgol Llundain.

Gyrfa

Gyrfa gyfreithiol

Fe hyfforddodd fel bargyfreithiwr a fe'i galwyd i'r bar yn 1968.[2] Yn un o fargyfreithwyr mwyaf blaenllaw Cymru, derbyniodd sidan yn 1986 a daeth yn gofiadur Llys y Goron,[2] a daeth yn Gwnsel Cyffredinol Cymru rhwng 1998 a 2004, gan weithredu fel uwch ymgynghorydd ar yr holl faterion cyfreithiol perthnasol i bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol. Penodwyd yn Arweinydd Cylchdaith Cymru a Chaer yn 2007. Daeth yn Gofiadur Anrhydeddus cyntaf Tref Frenhinol Caernarfon yn 2001.

Gyrfa wleidyddol

Safodd Roddick ddwywaith yn etholiadau Seneddol dros y Blaid Ryddfrydol ond roedd yn aflwyddiannus: yn Ynys Môn yn Etholiad Cyffredinol y DU, 1970 UK , ac yn Ne Caerdydd a Phenarth yn 1983. Roedd yn gadeirydd Plaid Ryddfrydol Cymru yn y 1980au cynnar.[3]

Comisiynydd Heddlu a Throsedd

Yn Nhachwedd 2012, safodd fel ymgeisydd yn yr etholiad am Gomisiynydd Heddlu a Throsedd ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, gan guro Tal Michael o Lafur yn yr ail rownd.[4] Ar ôl yr etholiad, fe'i beirniadwyd am fod yn ymgeisydd annibynnol er ei fod yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda Phlaid Lafur Cymru yn ei gyhuddo o 'guddio' ei deyrngarwch am resymau gwleidyddol.[5] Cyhoeddodd yn Mawrth 2016 y byddai'n gadael ei swydd am resymau teuluol a na fyddai'n sefyll eto yn etholiadau'r Comisiynydd yn Mai 2016.[6]

Arall

Yn 1997, apwyntiwyd Roddick fel aelod o'r Independent Television Commission, a rhwng 2004 a 2012 roedd yn aelod o Awdurdod S4C.

Bywyd personol

Mae'n aelod o Gorsedd y Beirdd, noddwr Clwb Rygbi Caernarfon, Aelod Anrhydeddus am oes o Glwb Cefnogwyr o C.P.D. Tref Caernarfon Town, Llywydd Anrhydeddus GISDA (elusen ar gyfer pobl ifanc digartref yng Ngwynedd), ac Is Lywydd Côr Meibion Caernarfon.

Anrhydeddau

Mae Roddick yn Gydymaith Urdd y Baddon ac yn Gymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth

Cyfeiriadau

Dolenni allanol