Lerpwl

dinas yng Nglannau Merswy, Lloegr

Dinas yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Lerpwl (Saesneg: Liverpool). Saif ar lannau Afon Merswy.

Lerpwl
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Lerpwl, Dinas Lerpwl, Dinas Lerpwl
Poblogaeth513,441 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1207 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJoanne Anderson Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirGlannau Merswy
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd111.84 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr70 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Merswy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.4075°N 2.9919°W Edit this on Wikidata
Cod postEdit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJoanne Anderson Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd Lerpwl fel dinas gan y brenin Seisnig John yn 1207 gyda dim ond 500 o bobl, ac arhosodd yn gymharol fach tan ddechrau'r Chwyldro Diwydiannol; ar un adeg, oherwydd fod yma cymaint o Gymry Cymraeg, fe elwid y lle yn "Brifddinas Gogledd Cymru". Tyfodd drwy ddatblygu dociau enfawr. Un ffynhonnell sylweddol o arian oedd y masnach mewn caethweision o'r Affrig; a cheir arddangosfa ar hyn lawr yn y dociau. Poblogaeth Lerpwl ydyw 439,473 (Cyfrifiad 2001).

Heddiw y ddinas ydyw ardal canolog Glannau Merswy (Saesneg: Merseyside). Yr ardaloedd eraill ydyw Knowsley, Sefton, St Helens a Chilgwri (Saesneg: Wirral). Mae pobl tu allan i Lannau Merswy yn aml yn defnyddio 'Lerpwl' (mewn ffordd anghywir) i ddisgrifio'r holl ardal.

Adnabyddir poblogaeth Lerpwl fel 'Scousers' ar ôl y cawl cynhenid o'r enw scouse, sy'n debyg i gawl Cymreig. Symbol Lerpwl ydyw aderyn sy'n edrych yn debyg i filidowcar o'r enw Liver Bird (ynghanir fel 'Laifr'). Hen enw Cymraeg ar y ddinas yw Llynlleifiad. Mae rhai yn tybio mai hyn yn cyfeirio at yr aderyn 'Lleifr', hen enw am filidowcar. Os felly, 'Llyn y Bilidowcar' yw enw'r ddinas. Ond mae yna llawer o theoriau eraill am darddiad yr enw - does neb yn siŵr o ble y daeth.

Roedd yn brifddinas answyddogol i Ogledd Cymru am gyfnod maith ac mae llawer o'r boblogaeth presennol o gefndir Gymreig. Surodd y berthynas rhwng Cymru a Lerpwl pan foddwyd Capel Celyn a Chwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl ym 1965 er mwyn creu cronfa dŵr i gyflenwi dŵr i'r ddinas. Dywed rhai nad oedd angen boddi'r cwm o gwbl.[1]

Mae nofel Marion Eames Hela Cnau yn rhoi hanes dynes ifanc a aeth i weini o Ogledd Cymru i Lerpwl.

Diwylliant

Lerpwl oedd Dinas Diwylliant Ewrop 2008.

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Lerpwl ym 1884, 1900 a 1929. Am wybodaeth bellach gweler:

Adeiladau ac adeiladwyr

Mae dros 2500 o adeiladau rhestredig yn y ddinas, gan gynnwys 25 sydd yn Gradd I.

Rhai o’r adeiladau nodedig

tu mewn Llyfrgell William Brown
Neuadd San Siors
  • Adeilad Liver
  • Banc Lloegr Lerpwl
  • Doc Albert
  • Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd
  • Eglwys Gadeiriol Gatholig
  • Llyfrgell Ganolog Lerpwl
  • Llyfrgell Picton
  • Llyfrgell William Brown
  • Neuadd San Siors
  • Neuadd Speke
  • Neuadd y Ddinas
  • Neuadd Croxteth
  • Oriel Walker
  • Siambrau Croxteth
  • Y Lyceum

Adeiladau Richard Owen

Plac ar wal hen gapel ar gornel Edge Lane a Bradfield Street, Lerpwl.

Un o bensaeri enwocaf y ddinas oedd Richard Owen (1831 - 24 Rhagfyr 1891).

Roedd yn un o benseiri mwyaf toreithiog capeli Cymreig[2] a thai teras yn Lerpwl. Yn ôl yr hanesydd Dan Cruickshank Roedd Owens mor llwyddiannus gallai bod yn gyfrifol am (gynllunio) mwy o dai teras yng ngwledydd Prydain Oes Victoria na neb arall.[3]

Trafnidiaeth

Gorsaf reilffordd Lime Street Lerpwl

Mae Merseytravel yn cydlynu trafnidiaeth yn ardal Glannau Merswy, gan gynnwys y ddinas.

Rheilffyrdd

Gorsaf reilffordd Lime Street Lerpwl yw'r brif orsaf sydd yn cysylltu Lerpwl gyda gweddill Lloegr a'r Alban. Mae trenau trydanol yn mynd o Lerpwl i Birmingham a Llundain ers 1 Ionawr 1962[4]. Cwblhawyd trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Lerpwl a Manceinion ym Mai 2015. Mae gwasanaethau lleol yn cysylltu'r orsaf a Warrington, Preston a Wigan. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am wasanaethau rhwng Lerpwl, Caer a Wrecsam trwy Runcorn ers 19eg Mai 2019.[5]

Gorsaf Merseyrail Moorfields

Merseyrail

Mae gwasanaethau ar y Llinell Gogleddol yn gweithredu o Hunts Cross yn y de o Lerpwl, drwy dwnnel o orsaf Brunswick drwy Lerpwl Canolog a Moorfields, i Southport. Mae gwasanaethau hefyd yn rhedeg o Lerpwl Canolog i Ormskirk a Kirkby.

Mae gwasanaethau ar y Llinell Cilgwri yn gweithredu o'r ddolen drwy Dwnnel Reilffordd Merswy i orsaf Hamilton Square ym Mhenbedw. Oddi yno, naill ai eu bod yn rhedeg i'r de i Hooton, lle maent yn parhau i naill ai Gaer neu Ellesmere Port, neu i'r gorllewin i ogledd Benbedw, lle mae'r llinell yn rhannu i New Brighton a West Kirby.

Mae trenau’r Llinell y Ddinas i gyd yn gadael Lime Street, ac yn mynd at Wigan neu at Fanceinion, Caer a Wrecsam neu Gryw; maent yn wasanaethau rheilffyrdd eraill yn hytrach na threnau Merseyrail.

Royal Iris of the Mersey

Fferiau

Mae gwasanaeth fferi rhwng Lerpwl a Seacombe, a drefnir gan Mersey Ferries. Mae hefyd taith 50 munud ar Afon Merswy[6] Mae ganddynt ddau gwch, 'Snowdrop' a 'Royal Iris of the Mersey'.

Bysiau

Gweithredir mwyafrif gwasanaethau bysiau’r ardal gan gwmni Arriva, er bod cymnïau llai yn gweithio yn yr ardal hefyd, megis Cumfybus, HTL a Bysiau Avon.

Maes Awyr

Saif Maes Awyr John Lennon ar lan Afon Merswy, 6.5 cilomedr i'r de-ddwyrain o ganol y ddinas[7]. Enw gwreiddiol y maes awyr oedd Maes Awyr Speke; ailenwyd y maes awyr yn 2001. Mae awyrennau’n mynd o Lerpwl i Ewrop, gogledd Affrica a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae cerflun o John Lennon yn sefyll uwchben y neuadd ‘check in’, a gwelir ar y nenfwd y geiriau ‘Above us, only sky’, llinell o’r gân Imagine.


Chwareuon

Athletau

Mae Parc Chwareuon Wavertree yn gartref i glwb athletaidd Liverpool Harriers.

Bocsio

Mae bocsio’n boblogaidd yn Lerpwl, ac mae 22 o glybiau bocsio yn y ddinas.

Criced

Mae Clwb Criced Swydd Gaerhirfryn yn chwarae gemau yn Lerpwl bob tymor.[8] Mae Cystadleuaeth Criced Lerpwl a Chylch yn un bwysig.

Golff

Lleolir Clwb Golff Brenhinol Lerpwl yn Hoylake, ar Gilgwri. Cynhaliwyd y Bencampwriaeth Agored a Chwpan Walker yno sawl gwaith.

Gymnasteg

Mae Canolfan Gymnasteg Heol y Parc yn cynnig hyfforddiant o safon uchel.

Nofio

Agorwyd canolfan nofio ym Mharc Chwareuon Wavertree yn 2008. Mae Clwb Nofio Dinas Lerpwl wedi bod yn bencampwyr y cynghrair genedlaethol wythwaith yn ystod yr un ar ddeg mlynydd diwethaf.

Pêl-droed

Mae gan Lerpwl 2 dîm yn chwarae yn Uwch Gyngrair Lloegr, Liverpool F.C., sydd yn chwarae yn Anfield, ac Everton F.C., sydd yn chwarae ym Mharc Goodison.

Pêl fas

Mae Lerpwl yn un o 3 dinas ym Mhrydain lle chwareuir pêl fas (Caerdydd a Chas-Newydd yw’r lleill) Y clwb hynaf ym Mhrydain yw Liverpool Trojans.

Pêl fasged

Ymunodd Everton Tigers, yn cysylltiedig â’r club pêl-droed, â Chynghrair Brydeinig Pêl fasged yn 2007, yn chwarae yn Academi Chwareuon Greenbank, cyn symud i Arena Echo.Torrwyd y cysylltiad gyda’r clwb pêl-droed yn 2010, ac ail-enwyd y clwb Mersey Tigers.

Rasio ceffylau

Cynhelir y Grand National yn Aintree bob mis Ebrill.

Seiclo

Mae clybiau seiclo yn y ddinas, megys Liverpool Century, yn ogystal â nifer o glybiau seiclo cymdeithasol.[9]

Tenis

Mae Clwb Criced Lerpwl wedi cynnal Cystadleuaeth Rhyngwladol Tenis Lerpwl ers 2014[10]. Mae Rhaglen Ddatblygu Tenis Lerpwl, cynhaliwyd yng Nghanolfan Tenis Wavertree, yn un o’r mwyaf ym Mhrydain.

Gefeilldrefi

Preswylyddion enwog

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Dolennau allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Glannau Merswy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato