Y Grawys

Defod yn y calendr litwrgaidd Cristnogol yw'r Grawys (hefyd Garawys) . Mae'n dechrau ar Ddydd Mercher y Lludw ac yn dod i ben tua chwe wythnos yn ddiweddarach, cyn Sul y Pasg. Pwrpas y Grawys yw paratoi'r crediniwr ar gyfer y Pasg trwy weddi, penyd , darostwng y cnawd, edifeirwch pechodau, ymbil, a gwadu'r hunan . Gwelir y digwyddiad hwn yn yr Eglwysi Anglicanaidd, Uniongred Dwyreiniol, Lutheraidd, Methodistaidd, Morafaidd, Diwygiedig, Eglwysi'r Tri Cyngor a'r Eglwys Babyddol.[1][2][3] Mae rhai eglwysi Ailfedyddiedig ac Efengylaidd hefyd yn cadw'r Grawys.[4][5]

Mae'n ymddangos mai 'Caraŵys' oedd ffurf wreiddiol y gair 'Grawys', a'i fod wedi tarddu o'r Lladin Quadragesima sy'n golygu 'deugeinfed'. Daw'r enghraifft gynharaf ohono yn y Gymraeg o'r 12g ac mae ffurfiau tebyg iddo i'w cael mewn ieithoedd Celtaidd eraill: 'koraiz' yn Llydaweg a 'corgus' mewn Hen Wyddeleg.[6]

Yr Wythnos Sanctaidd, gan ddechrau gyda Sul y Blodau, yw wythnos olaf y Grawys. Yn dilyn hanes y Testament Newydd, mae croeshoeliad Iesu yn cael ei goffáu ar ddydd Gwener y Groglith, ac ar ddechrau'r wythnos nesaf mae llawenydd Sul y Pasg yn cofio Atgyfodiad Iesu Grist.

Dros gyfnod y Grawys, byd llawer o Gristnogion yn ymrwymo i ymprydio, yn ogystal ag ildio rhai danteithion a moethusbethau er mwyn adlewyrchu yr aberth a wnaeth Iesu Grist pan aeth i'r anialwch am 40 diwrnod;[7] [8] [9] caiff hyn ei adnabod fel aberth y Grawys.[10] Mae llawer o Gristnogion hefyd yn cyflwyno elfennau o ddisgyblaeth ysbrydol dros gyfnod y Grawys, fel darllen defosiynol dyddiol neu weddïo trwy galendr y Grawys, i ymagosáu at Dduw. [11] [12] Mae Gorsafoedd y Groes, sef coffâd defosiynol o Grist yn cario'r Groes ac o'i ddienyddiad, hefyd yn aml yn rhan o'r Grawys. Mae llawer o eglwysi Pabyddol a rhai eglwysi Protestannaidd yn tynnu blodau o'u hallorau, a chroesau, cerfluniau crefyddol, a symbolau crefyddol cywrain eraill yn cael eu cuddio dan ddeunydd fioled. Ledled y Byd Cristnogol - yn arbennig ymhlith Lutheriaid, Catholigion Rhufeinig ac Anglicaniaid - bydd nifer yn nodi'r tymor trwy ymataliad rhag bwyta cig, . [13] [14]

Yn draddodiadol, mae'r Grawys yn parhau am gyfnod o 40 diwrnod, i goffáu'r 40 diwrnod y treuliodd Iesu ymprydio yn yr anialwch a chael ei demtio gan Satan, yn ôl Efengylau Mathew, Marc a Luc. [15] [16] Gan ddibynnu ar yr enwad Cristnogol ac arferion lleol, daw'r Grawys i ben naill ai ar nos Iau Cablyd,[17] neu ar fachlud dydd Sadwrn y Pasg, gyda dathlu Gwylnos y Pasg.[18] Naill ffordd neu'r llall, mae arferion y Grawys yn cael eu cynnal hyd at nos Sadwrn y Pasg.[19]

Cyfeiriadau