Y Tŷ Glas

Swyddfa weithredol a chartref swyddogol Arlywydd Gweriniaeth Corea yw'r Tŷ Glas (Coreeg: 청와대; Hanja 靑瓦臺; Cheong Wa Dae; yn llythrennol "pafiliwn y teils gleision")[1][2][3], a saif yn y brifddinas, Seoul. Mewn gwirionedd, cyfres o adeiladau yw'r Tŷ Glas, a adeiladwyd yn arddull draddodiadol pensaernïaeth Corea gyda rhai elfennau modern.

Y Tŷ Glas
Mathadeilad gweinyddiaeth gyhoeddus, presidential palace Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1991 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1991 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirJongno District Edit this on Wikidata
GwladBaner De Corea De Corea
Cyfesurynnau37.586692°N 126.974864°E Edit this on Wikidata
Cod post03048 Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethDe Corea Edit this on Wikidata
Tŷ Croeso'r Tŷ Glas ym mis Awst 2010

Fe'i adeiladwyd ar safle gardd frenhinol Brenhinlin Joseon (1392–1897) ac nawr mae'n cynnwys Neuadd y Brif Swyddfa (Coreeg: 본관; Hanja 本館), Cartref yr Arlywydd, Tŷ Croeso'r Wlad (Coreeg: 영빈관; Hanja: 迎賓館), Neuadd Wasg y Chunchugwan (Coreeg: 춘추관; Hanja: 春秋館) ac Adeiladau'r Ysgrifenyddiaeth. Mae'r adeiladau i gyd yn sefyll ar ryw 250,000 o fetrau sgwâr neu 62 o erwau o dir.

Hanes

Saif Cheong Wa Dae ar safle fila brenhinhol yn ninas Hanyang, sef y ddinas fodern Seoul, prifddinas ddeuheuol Brenhinlin Goryeo (918–1392). Fe'i adeiladwyd gan y Brenin Sukjong (teyrnasai 1095–1105) ym 1104. Roedd prif brifddinas Goryeo yn Kaesŏng ac roedd ganddi prifddinas orllewinol hefyd yn Pyongyang a phrifddinas ddwyreiniol yn Gyeongju.

Ar ôl i Frenhinlin Joseon (1392–1910) symud ei phrifddinas i Hanyang, adeiladwyd Palas Gyeongbok ym 1395, pedwaredd flwyddyn teyrnasiad y Brenin Taejo (teyrnsai 1392–1398) yn brif balas i'r frenin, a daeth tir y fila brenhinol yn ardd gefn i'r palas. Câi ei ddefnyddio fel safle arholiadau'r gwasanaeth sifil a hyfforddiant milwrol.

Wedi i Ymerodraeth Japan gyfeddiannu Ymerodraeth Corea ym 1910, roedd Llywodraethwr Cyffredinol Corea yn defnyddio tiroedd y Gyeongbokgung ar gyfer prif adeilad gweithredol y llywodraeth. Ym 1939, adeiladodd Japan tŷ neu swyddfa swyddogol i'r Llywodraethwr Cyffredinol ar safle'r Tŷ Glas. Fe chwalwyd hwn yn nes ymlaen yn ystod arlywyddiaeth Kim Young-sam's presidency ym 1993.

Pan sefydlwyd Gweriniaeth Corea ym 1948, rhoddod yr Arlywydd Syngman Rhee yr enw "Gyeongmudae" (Coreeg: 경무대; Hanja: 景武臺) ar yr adeilad, a oedd yn enw un o'r ychydig o adeiladau oedd yno. Roedd yn defnyddio hwn fel ei swyddfa a'i dŷ. Newidiodd Yun Bo-seon yr enw i "Cheong Wa Dae" ar ôl cael ei urddo yn Arlywydd ym 1960.

Ym 1968, bu bron i asiantau cudd Gogledd Corea gyrraedd yr adeilad er mwyn llofruddio'r arlywydd Park Chung-hee yn ystod Cyrch y Tŷ Glas. Yn y ffrwgwd, fe laddwyd 28 o Goreaid y Gogledd, 26 o Goreaid y De a phedwar o Americanwyr.

Bu'r Arlywyddion Park Chung-hee, Choi Kyu-ha a Chun Doo-hwan yn ei ddefnyddio fel eu swyddfa a'u tŷ swyddogol hefyd. Tra oedd yr Arlywydd Roh Tae-woo mewn grym, adeiladwyd swyddfa, tŷ swyddogol a chanolfan i'r wasg newydd, o'r enw Chunchugwan. Agorwydd adeilad y brif swyddfa ym mis Ebrill 1991.

Lleoliad

Gerddi ar dir y Cheong Wa Dae

Mae ardal y Tŷ Glas o bwys yn nhyb daearddewiniaid ers amser maith. Cadarnhawyd y gred hon gan arysgrifiad ar wal gerrig sydd yn dweud "Y Lle Bendigedicaf ar y Ddaear" a ddarganfuwyd y tu ôl i dŷ swyddogol yr arlywydd wrth godi adeilad newydd ym 1990.

I'r gogledd o hugiwawa, mae mynydd Bukhansan, rhwng dau fynydd, Naksan ar y chwith, sy'n symboleiddio'r Ddraig Las, ac Inwangsan ar y dde, sy'n symboleiddio'r Teigr Gwyn. I'r de, mae Namsan, mynydd amddifynnol y brifddinas, ac o'i flaen mae nant Cheonggyecheon ac afon Han.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol