Neidio i'r cynnwys

Unol Daleithiau America

Oddi ar Wicipedia
Unol Daleithiau America
United States of America
ArwyddairIn God We Trust Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwladwriaeth gyfansoddiadol, gweriniaeth ddemocrataidd, gwladwriaeth ffederal, Uwchbwer, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlYr Amerig Edit this on Wikidata
PrifddinasWashington Edit this on Wikidata
Poblogaeth332,278,200 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 Mai 1784 (cydnabyddwyd annibynniaeth gan y famwlad, Treaty of Paris (1783)) Edit this on Wikidata
AnthemThe Star-Spangled Banner Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJoe Biden Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGogledd America Edit this on Wikidata
Arwynebedd9,826,675 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Arctig, Y Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMecsico, Canada Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.828175°N 98.5795°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngres yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethJoe Biden Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJoe Biden Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$23,315,081 million, $25,462,700 million Edit this on Wikidata
Ariandoler yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Canran y diwaith6.7 ±0.001 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.8615 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.921 Edit this on Wikidata

Gweriniaeth ffederal yng Ngogledd America yw Unol Daleithiau America (Saesneg: United States of America) neu'r Unol Daleithiau (hefyd, yn enwedig ar lafar, "America"). Mae hanner cant o daleithiau yn yr undeb. Lleolir y 48 talaith gyfagos rhwng Canada i'r gogledd a Mecsico i'r de. Lleolir Alaska yng ngogledd-orllewin y cyfandir i'r gorllewin o Ganada. Ynysfor yng nghanol y Cefnfor Tawel yw'r dalaith arall, sef Hawaii. Ceir hefyd 326 neilldiroedd Amerindiaidd (Indian reservations). Gydag arwynebedd o 3.8 miliwn milltir sgwâr hi yw'r drydedd neu'r bedwaredd wlad fwyaf yn y byd. Mae'n ffinio gyda Chanada i'r gogledd a Mecsico i'r de yn ogystal â ffiniau morwrol cyfyngedig gyda'r Bahamas, Cuba, a Rwsia.[1]

Ymfudodd y paleo-Amerindiaid i dir mawr Gogledd America o leiaf 12,000 o flynyddoedd yn ôl, a dechreuodd gwladychu Ewropeaidd yn yr 16g. Daeth yr Unol Daleithiau yn annibynnol o Loegr wedi sawl anghydfod â Phrydain Fawr ynghylch trethiant a chynrychiolaeth wleidyddol at Ryfel Annibyniaeth America (1775–1783), a ddaeth ag annibyniaeth i'r genedl. Serennod y Cymro Richard Price pan ddechreuodd Rhyfel Annibyniaeth America ar 9 Ebrill 1775 a bu'n allweddol yn cynghori'r Llywodreth newydd sut i greu system ariannol newydd.

Ar ddiwedd y 18g, dechreuodd yr Unol Daleithiau ehangu ar draws Gogledd America, gan feddiannu tiriogaethau newydd yn raddol, weithiau trwy ryfel neu drwy ddisodli Americanwyr Brodorol yn aml, gan eu troi'n daleithiau newydd; erbyn 1848, roedd yr Unol Daleithiau yn rhychwantu'r Gogledd America, ar wahan i'r gwledydd a elwir heddiw'n Ganada ac Alaska.

Roedd caethwasiaeth yn gyfreithlon yn ne'r Unol Daleithiau tan ail hanner y 19g, pan arweiniodd Rhyfel Cartref America at ei ddiddymu. Daeth yr Unol Daleithiau'n bwer mawr yn dilyn Rhyfel Sbaen-America a Rhyfel Byd Cyntaf, statws a gadarnhawyd gan ganlyniad yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y Rhyfel Oer, ymladdodd yr Unol Daleithiau Ryfel Corea a Rhyfel Fietnam ond osgowyd gwrthdaro milwrol uniongyrchol â'r Undeb Sofietaidd. Cystadlodd y ddau bŵer yn y Ras Ofod, gan arwain Rwsia'n llwyddo i roi dyn yn y gofod, ac yna yr UDA yn llwyddo i roi dyn ar y lleuad. Daeth diddymiad yr Undeb Sofietaidd ym 1991 a'r Rhyfel Oer i ben, gan adael yr Unol Daleithiau fel unig bŵer-enfawr y byd.

Mae'r Unol Daleithiau yn weriniaeth ffederal ac yn ddemocratiaeth gynrychioliadol gyda thair cangen ar wahân o lywodraeth, gan gynnwys deddfwrfa ddwyochrog. Mae'n aelod sefydlog o'r Cenhedloedd Unedig, Banc y Byd, y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Sefydliad Taleithiau America, NATO, a sefydliadau rhyngwladol eraill. Mae hefyd yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Caiff ei hystyried yn dawddlestr o ddiwylliannau ac ethnigrwydd, ac mae ei phoblogaeth wedi cael ei siapio gan ganrifoedd o fewnfudo. Mae'r UD yn uchel mewn mesurau rhyngwladol o ryddid economaidd, ansawdd bywyd, addysg a hawliau dynol, er bod ganddi record ofnadwy o lofruddiaethau gynnau, niferoedd mewn carchar, problemau cyffuriau ayb. a beirniadir y wlad am yr anghydraddoldeb sy'n gysylltiedig â hil, cyfoeth ac incwm a diffyg gofal iechyd cyffredinol.

Mae'r Unol Daleithiau yn wlad ddatblygedig iawn, mae'n cyfrif am oddeutu chwarter y CMC byd-eang, a hi yw economi fwyaf y byd yn ôl CMC ar gyfraddau cyfnewid y farchnad . Yn ôl gwerth, yr Unol Daleithiau yw mewnforiwr nwyddau mwy'r byd ac allforiwr nwyddau ail-fwyaf. Er mai dim ond 4.2% o gyfanswm y byd yw ei phoblogaeth, mae'n dal 29.4% o gyfanswm cyfoeth y byd, y gyfran fwyaf sydd gan unrhyw wlad. Gan ffurfio mwy na thraean o'r gwariant milwrol byd-eang, hwn yw'r pŵer milwrol mwyaf blaenllaw yn y byd ac mae'n rym gwleidyddol, diwylliannol a gwyddonol, yn rhyngwladol.[2]

Hanesgolygu cod

Prif: Hanes yr Unol Daleithiau

Cyn glaniad yr Ewropeiaid cyntaf roedd y diriogaeth gyfandirol yn gartref i sawl llwyth o Americanwyr brodorol, e.e y Sioux a'r Navajo.

Roedd y 13 talaith wreiddiol yn wladfeydd Prydeinig hyd yr 1700au cyn iddynt ennill eu hannibyniaeth yn sgil Gwrthryfel America (17761783).

Bryd hynny, roedd Florida a thiriogaethau eraill yn y de a'r de-orllewin (Texas, Califfornia, Arizona a. y. y. b.) yn perthyn i Sbaen; roedd rhan sylweddol o'r tir yng nghanol y cyfandir i'r gorllewin o Afon Mississippi hyd at ffin Canada yn perthyn i Ffrainc, ac roedd Alaska yn perthyn i Rwsia. Yn 1803 prynodd yr Unol Daleithiau y tir Ffrengig am 60 miliwn o ffranciau, neu tua 15 miliwn o ddoleri (Pryniant Louisiana) a dwblodd hynny faint y wlad. Yn 1836 cafodd Texas annibyniaeth oddi wrth Mecsico ac ar ôl naw mlynedd fel Gweriniaeth Texas ymunodd y dalaith â'r undeb. Ar ôl y rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico, roddodd Cytundeb Guadeloupe-Hidalgo (1848) 200,000 milltir sgwar o dir, sydd heddiw yn cynnwys y rhan fwyaf o daleithiau New Mexico, Arizona, Califfornia, Colorado, Utah a Nevada, i'r Unol Daleithiau.

Ymladdwyd Rhyfel Cartref America (1861–1865) rhwng unarddeg talaith yn y de oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau a'r gweddill o'r wlad. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn etholiad Abraham Lincoln yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 1861. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; yr oedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle roedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Tra nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Dewisodd y gwrthryfelwyr Jefferson Davis fel Arlywydd.

Dechreuodd yr ymladd ar 12 Ebrill, 1861, pan ymosododd y gwrthryfelwyr ar Fort Sumter yn nhalaith De Carolina. Erbyn 1862 yr oedd brwydro ar raddfa eang wedi datblygu, gyda niferoedd mawr yn cael eu lladd. Ym mis Medi 1862, cyhoeddodd Lincoln ryddid y caethion. Erbyn hyn yr oedd y de wedi darganfod cadfridogion o athrylith yn Robert E. Lee a "Stonewall" Jackson, ac enillasant nifer o fuddugoliaethau dros yr Undebwyr. Lladdwyd Jackson mewn camgymeriad gan ei filwyr ei hun ym mrwydr Chancellorsville ym Mai 1863, a gorchfygwyd Lee ym Mrwydr Gettysburg yn nhalaith Pennsylvania ym mis Gorffennaf 1863. Yn y gorllewin, cipiodd byddin dan Ulysses S. Grant Vicksburg yn nhalaith Mississippi, a thrwy hynny enillodd yr Undebwyr reolaeth ar Afon Mississippi. Bu brwydro ffyrnig rhwng Grant a Lee yn nhalaith Virginia yn ystod haf 1864 a chipiodd William Tecumseh Sherman Atlanta, Georgia. Ar fore'r 9fed o Ebrill 1865, ildiodd Lee ei fyddin i Grant yn Appomattox a daeth y rhyfel i ben. Rhyddhawyd y caethion i gyd.

Yn 1868 gwerthodd Rwsia Alaska i'r Unol Daleithiau am 7,200,000 o ddoleri; roedd llawer o bobol yn y Senedd yn meddwl bod hynny'n ormod i'w dalu am "greigiau ac iâ", ond mae llawer o aur ac olew wedi dod o Alaska ers hynny.

Daearyddiaethgolygu cod

Ceir sawl cadwyn o fynyddoedd yng ngorllewin y wlad megis y Rockies a'r Sierra Nevada. Lleolir Mynyddoedd Appalachia ger yr arfordir dwyreiniol. Rhwng y Rockies a'r Appalachians, ceir basn afonydd Mississippi a Missouri, y Llynnoedd Mawr a'r Gwastadeddau Mawr.

O ddiystyried Hawaii ac Alaska, mae gan y 48 talaith arwynebedd o 3,119,885 milltir sgwâr (8,080,470 km sg). O'r ardal yma, mae 2,959,064 mi sg yn dir cyffiniol (ontiguous land,) sef 83.65% o gyfanswm arwynebedd tir yr UD.[3][4] Mae Hawaii, sy'n ynysfor yng nghanol y Môr Tawel, i'r de-orllewin o Ogledd America, yn 10,931 mi sg. Ceir pum tiriogaeth boblog ond anghorfforedig: Puerto Rico, Samoa Americanaidd, Guam, Ynysoedd Gogledd Mariana, ac Ynysoedd Virgin yr Unol Daleithiau gyda'i gilydd yn gorchuddio 9,185 mi sg.[5] Wedi'i fesur yn ôl arwynebedd tir yn unig, mae'r Unol Daleithiau yn drydydd o ran maint y tu ôl i Rwsia a Tsieina, ac ychydig o flaen Canada.[6]

Mae Mynyddoedd Appalachia yn rhannu'r arfordir dwyreiniol oddi wrth y Llynnoedd Mawr a glaswelltiroedd y Midwest.[7] Afon Mississippi - Missouri, yw'r pedwaredd system afon hiraf y byd, yn rhedeg yn bennaf o'r gogledd i'r de trwy ganol y wlad. Mae'r paith ffrwythlon, fflat y Gwastadeddau Mawr yn ymestyn i'r gorllewin, ond caiff ei groedorri gan ucheldir y de-ddwyrain.[7]

Bywyd gwyllt a chadwraethgolygu cod

A bald eagle
Mae'r eryr moel wedi bod yn aderyn cenedlaethol yr Unol Daleithiau er 1782.[8]

Mae'r UD yn un o 17 o wledydd cyfoethog eu hamrywiaeth (megadiverse) sy'n cynnwys llawer iawn o rywogaethau endemig neu frodorol: ceir tuag 17,000 o rywogaethau o blanhigion fasgwlaidd yn yr Unol Daleithiau ac Alaska, ac mae mwy na 1,800 o rywogaethau o blanhigion blodeuol i'w cael yn Hawaii.[9] Mae'r Unol Daleithiau yn gartref i 428 rhywogaeth o famaliaid, 784 rhywogaeth o adar, 311 rhywogaeth o ymlusgiaid, a 295 rhywogaeth o amffibiaid,[10] yn ogystal â thua 91,000 o rywogaethau o bryfed.[11]

Gorwedd 62 o barciau cenedlaethol a channoedd o barciau eraill, coedwigoedd ac ardaloedd o anialwch a mannau eraill a reolir yn ffederal. At ei gilydd, mae'r llywodraeth yn berchen ar oddeutu 28% o arwynebedd tir y wlad,[12] a hynny'n bennaf yn nhaleithiau'r gorllewin. Mae'r rhan fwyaf o'r tir hwn wedi'i warchod, er bod rhywfaint yn cael ei brydlesu ar gyfer drilio olew a nwy, mwyngloddio, coedwigo, neu ransio gwartheg, a defnyddir bron i un y cant at ddibenion milwrol.[13][14]

Mae materion amgylcheddol yn cynnwys dadleuon ar olew ac <a href="./Ynni%20niwclear" rel="mw:WikiLink" data-linkid="undefined" data-cx="{&quot;userAdded&quot;:true,&quot;adapted&quot;:true}">ynni niwclear</a>, delio â llygredd aer a dŵr, costau economaidd amddiffyn bywyd gwyllt, coedwigo a datgoedwigo[15][16] a newid hinsawdd.[17][18] Yr asiantaeth amgylcheddol amlycaf yw'r Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd (EPA), a grëwyd trwy orchymyn arlywyddol ym 1970.[19] Bwriad Deddf Rhywogaethau mewn Perygl 1973 yw amddiffyn rhywogaethau sydd dan fygythiad ac mewn perygl a'u cynefinoedd, ac sy'n cael eu monitro gan Wasanaeth Pysgod a Bywyd Gwyllt yr Unol Daleithiau.[20]

Mae'r Unol Daleithiau yn safle 24 ymhlith cenhedloedd yn y Mynegai Perfformiad Amgylcheddol.[21] Ymunodd y wlad â Chytundeb Paris ar newid yn yr hinsawdd yn 2016 ac mae ganddi lawer o ymrwymiadau amgylcheddol eraill.[22] Diolch i Donald Trump, gadawodd Gytundeb Paris yn 2020,[23] ond ailymunodd ag ef yn 2021.[24]

Taleithiaugolygu cod

Ceir Rhestr taleithau'r Unol Daleithiau yn ôl arwynebedd a rhestr ohonynt yn ôl eu huchder.

Undeb ffederal o 50 talaith yw'r Unol Daleithiau. Lleolir y brifddinas, Washington D.C., mewn ardal ffederal sydd ddim yn perthyn i unrhyw dalaith.

Taleithiau

Dinasoeddgolygu cod

Dinasoedd mwyaf yr Unol Daleithiau
RhifPrif ddinasTalaithPobl.Rhif yr ardal ddinesigPobl, ardal ddinesig.[25]Rhanbarth[26]
Dinas Efrog Newydd
Dinas Efrog Newydd
Los Angeles
Los Angeles
1Dinas Efrog NewyddEfrog Newydd8,250,567118,818,536Gogledd-ddwyrain
2Los AngelesCaliffornia3,849,378212,950,129Gorllewin
3ChicagoIllinois2,833,32139,505,748Canol-orllewin
4HoustonTexas2,169,24865,539,949De
5PhoenixArizona1,512,986134,039,182Gorllewin
6PhiladelphiaPennsylvania1,448,39455,826,742Gogledd-ddwyrain
7San AntonioTexas1,296,682291,942,217De
8San DiegoCaliffornia1,256,951172,941,454Gorllewin
9DallasTexas1,232,94046,003,967De
10San JoseCaliffornia929,936301,787,123Gorllewin
Amcangyfrifon o'r Ganolfan Cyfrifiad, 2006

Cosbgolygu cod

Map o statudau Gwladwriaeth Cosb Marwolaeth yn yr Unol Daleithiau. Glas: Dim statud cosb marwolaeth gyfredol Oren: Cosbi drwy farwolaeth yn anghyfansoddiadol
Melyn: Ni ddienyddiwyd neb er 1976
Coch: Wedi cyflawni dienyddiad er 1976


Cynnydd o: 800% mewn 40 mlynedd

Ymgyrch 'Y Rhyfel
yn Erbyn Cyffuriau'
Nifer y carcharorion yn UDA rhwng 1925 a 2012.

Mae gan Unol Daleithiau America fwy o garcharorion nag unrhyw wlad arall yn y byd. Yn ogystal â hyn, mae'r niferoedd y pen yn uwch nag unrhyw wlad – ar wahân i Seychelles.[27][28] Yn 2012 roedd y nifer yn 707 oedolyn am bob 100,000 o'r boblogaeth.[29]

Roedd y trobwynt oddeutu 1971, y flwyddyn y laniswyd eu hymgyrch yn erbyn cyffuriau.

Ar 3 Chwefror 2014 cafwyd anerchiad yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau gan Shelia Jackson Lee a ddywedodd: "5% yn unig o boblogaeth y byd sydd yn byw yn yr Unol Daleithiau, ond eto, er hyn, rydym wedi carcharu oddeutu chwarter holl garcharorion y byd".[30][31]

Incwm, cyfoeth, a thlodigolygu cod

Er bod gan UD 4.24% o boblogaeth y byd, mae eithrigolion yn meddu ar 29.4% o gyfanswm cyfoeth y byd, y ganran fwyaf o unrhyw wlad.[32][33] Mae'r UD hefyd yn safle cyntaf yn nifer y biliwnyddion a'r miliwnyddion yn y byd, gyda 724 biliwnydd a 10.5 miliwn o filiwnyddion yn 2020.[34][35] Cyn pandemig byd-eang SARS-CoV-2 2019–2021, roedd Credit Suisse yn rhestru bod gan 18.6 miliwn o ddinasyddion yr UD werth net o fwy na $1 miliwn.[36] Yn 2020, nododd y 'Mynegai Diogelwch Bwyd' fod yr Unol Daleithiau yn 11eg mewn diogelwch bwyd, gan roi sgôr o 77.5 / 100 i'r wlad.[37] Ar gyfartaledd mae gan Americanwyr fwy na dwywaith cymaint o le byw i bob annedd ac i bob person na thrigolion yr Undeb Ewropeaidd.[38] Ar gyfer 2019, graddiodd Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig yr Unol Daleithiau yn 17fed allan o 189 o wledydd yn ei Mynegai Datblygiad Dynol (HDI) a'r 28fed allan o 151 o wledydd yn ei HDI (IHDI) wedi'i addasu gan anghydraddoldeb.[39]

Roedd tua 567,715 o bobl ddigartref yn yr UD yn Ionawr 2019, gyda bron i ddwy ran o dair yn aros mewn lloches argyfwng neu raglen dai drosiannol.[40] Yn 2011, roedd 16,700,000 o blant yn byw mewn cartrefi lle nad oedd sicrwydd o fwyd, tua 35% yn fwy na lefelau 2007.[41] Roedd 40 million bobl, tua 12.7% o boblogaeth yr UD, yn byw mewn tlodi, gan gynnwys 13.3 miliwn o blant. O'r rhai tlawd, mae 18.5 million byw mewn tlodi mawr (incwm teulu islaw hanner y trothwy tlodi) ac mae dros bum miliwn yn byw "dan amodau 'Trydydd Byd'.[42] Yn 2017, y taleithiau neu;r ardaloedd a oedd â'r cyfraddau tlodi isaf ac uchaf oedd New Hampshire (7.6%) a Samoa Americanaidd (65%), yn y drefn honno.[43][44][45][46]

Ynnigolygu cod

Mae marchnad ynni'r Unol Daleithiau tua 29,000 o oriau terawat y flwyddyn. Yn 2018, daeth 37% o'r egni hwn o betroliwm, 31% o nwy naturiol, a 13% o lo. Cyflenwyd y gweddill gan ffynonellau ynni niwclear ac adnewyddadwy.[47]

Poblogaethgolygu cod

Poblogaeth hanesyddol
CyfrifiadPoblogaeth% ±
17903,929,214-
18005,308,48335.1%
18107,239,88136.4%
18209,638,45333.1%
183012,866,02033.5%
184017,069,45332.7%
185023,191,87635.9%
186031,443,32135.6%
187038,558,37122.6%
188050,189,20930.2%
189062,979,76625.5%
190076,212,16821.0%
191092,228,49621.0%
1920106,021,53715.0%
1930123,202,62416.2%
1940132,164,5697.3%
1950151,325,79814.5%
1960179,323,17518.5%
1970203,211,92613.3%
1980226,545,80511.5%
1990248,709,8739.8%
2000281,421,90613.2%
2010308,745,5389.7%
2020331,449,2817.4%

Adroddodd Swyddfa Cyfrifiad yr UD fod 331,449,281 o drigolion ar Ebrill 1, 2020.[48] Nid yw'r ffigwr hwn yn cynnwys y pum tiriogaeth anghorfforedig (Puerto Rico, Guam, Ynysoedd Virgin yr UD, Samoa America, ac Ynysoedd Gogledd Mariana) a mân ynysoedd eraill.[49] Yr Unol Daleithiau yw'r drydedd genedl fwyaf poblog yn y byd, ar ôl Tsieina ac India. Yn 2020, canolrif oed poblogaeth yr Unol Daleithiau oedd 38.5 mlynedd.[50]

Crefyddgolygu cod

Map of the U.S. depicting greater religiosity in the Southern United States
Canran yr ymatebwyr yn yr Unol Daleithiau sy'n dweud bod crefydd yn "bwysig iawn" neu'n "eithaf pwysig" yn eu bywydau (2014)[51]

Mae Gwelliant Cyntaf Cyfansoddiad yr UD yn gwarantu ymarfer crefydd yn rhydd ac yn agored.

Gan yr Unol Daleithiau mae'r boblogaeth Gristnogol fwyaf y byd.[52] Mewn arolwg yn 2014, nododd 70.6% o oedolion yn yr Unol Daleithiau eu hunain yn Gristnogion;[53] gyda Phrotestaniaid yn cyfrif am 46.5% a Chatholigion am 20.8%.[54] Yn 2014, dewisiodd 5.9% o boblogaeth oedolion yr UD grefydd arall.[55] Mae'r rhain yn cynnwys Iddewiaeth (1.9%), Islam (0.9%), Hindŵaeth (0.7%), a Bwdhaeth (0.7%).[55] Nododd yr arolwg hefyd fod 22.8% o Americanwyr wedi disgrifio eu hunain fel agnostig, anffyddiwr neu ddim crefydd o gwbwl - o 8.2% yn 1990.[54][56][57] Syrthiodd aelodaeth mewn tai addoli o 70% ym 1999 i 47% yn 2020.[58][59]

Iechydgolygu cod

The Texas Medical Center, a cluster of contemporary skyscrapers, at night
Canolfan Feddygol Texas yn Downtown Houston yw'r cymhleth meddygol mwyaf yn y byd.

Adroddodd y Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau (CDC) fod gan yr Unol Daleithiau ddisgwyliad oes cyfartalog ar enedigaeth o 77.3 blynedd yn 2020 (74.5 mlynedd i ddynion ac 80.2 mlynedd i fenywod), i lawr 1.5 mlynedd o 2019. Yn ôl ffigurau dros dro, hwn oedd y disgwyliad oes cyfartalog isaf yn yr UD a gofnodwyd gan y CDC er 2003, y dirywiad cyffredinol cyntaf ers 2018, a'r "dirywiad blwyddyn mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd." Priodolwyd rhyw dri chwarter y gostyngiad i farwolaethau o'r pandemig COVID-19, gyda'r mwyafrif o'r gweddill oherwydd damweiniau a gorddosau cyffuriau.[60] Mae gan y wlad hefyd un o'r cyfraddau hunanladdiad uchaf ymhlith gwledydd cyfoethog.[61][62] Gan ddechrau ym 1998, roedd disgwyliad oes cyfartalog yr Unol Daleithiau y tu ôl i ddisgwyliad gwledydd diwydiannol cyfoethog eraill, ac mae bwlch "anfantais iechyd" Americanwyr wedi bod yn cynyddu byth ers hynny.[63] Rhwng 1999 a 2019, bu farw mwy na 770,000 o Americanwyr o orddos o gyffuriau.[64] Roedd disgwyliad oes ar ei uchaf ymhlith Asiaid a Sbaenaidd ac ar ei isaf ymhlith y bobl dduon.[65][66]

Cyfrannodd gordewdra cynyddol yn yr Unol Daleithiau at ostwng safle'r wlad o ran disgwyliad oes o'r 11eg yn y byd ym 1987 i 42ain yn 2007. Yn 2017, roedd gan yr Unol Daleithiau y disgwyliad oes isaf ymhlith Japan, Canada, Awstralia, y Deyrnas Unedig, a saith gwlad arall yng ngorllewin Ewrop.[67][68] Mae cyfraddau gordewdra wedi mwy na dyblu yn ystod y 30 mlynedd diwethaf a nhw yw'r uchaf yn y byd diwydiannol.[69][70] Mae tua thraean o'r boblogaeth oedolion yn ordew ac mae traean ychwanegol 'dros bwysau'.[71][72]

Yr Unol Daleithiau yw'r unig genedl ddatblygedig o hyd heb system gofal iechyd cyffredinol.[73] Yn 2017, nid oedd gan 12.2% o'r boblogaeth yswiriant iechyd[74] Mae pwnc Americanwyr heb yswiriant a than yswiriant yn fater gwleidyddol o bwys.[75][76] Fe wnaeth y Ddeddf Gofal Fforddiadwy (ACA), a basiwyd yn gynnar yn 2010 ac a elwir yn anffurfiol fel "ObamaCare", haneru cyfran y boblogaeth heb yswiriant o'r boblogaeth yn fras. Mae'r bil a'i effaith yn y pen draw yn dal i fod yn faterion dadleuol yn yr Unol Daleithiau.[77][78] Mae system gofal iechyd yr UD yn llawer mwy na gwariant unrhyw genedl arall, wedi'i fesur mewn gwariant y pen ac fel canran o'r CMC.[79] Fodd bynnag, mae'r UD yn arweinydd byd-eang ym maes arloesi meddygol.[80]

Addysggolygu cod

The Low Library, a neoclassical building, with fountain
Mae Prifysgol Columbia, a sefydlwyd ym 1754, yn un o'r colegau trefedigaethol a'r pumed sefydliad hynaf o addysg uwch yn yr Unol Daleithiau.

Mae addysg gyhoeddus America yn cael ei gweithredu gan lywodraethau gwladol a lleol a'i reoleiddio gan Adran Addysg yr Unol Daleithiau trwy gyfyngiadau ar grantiau ffederal. Yn y rhan fwyaf o daleithiau, mae'n ofynnol i blant fynychu'r ysgol o bump neu chwech oed nes eu bod yn 18 oed (gan ddod â nhw trwy'r ddeuddegfed radd fel arfer, ddiwedd yr ysgol uwchradd). O fewn rhaiae rhai taleithiau caniateir i fyfyrwyr adael yr ysgol yn 16 neu'n 17 oed.[81]

Llyfrgell Gates Chili High School, Efrog Newydd

Yn 2012 roedd tua 12% o blant wedi'u cofrestru mewn ysgolion preifat a 3.4% o blant yn cael addysg yn y cartref.[82] Rhwng 2016-2017 gwariodd yr UD $12,794 y flwyddyn ar gyfartaledd ar bob myfyriwr ysgolion elfennol ac uwchradd cyhoeddus.[83] Mae tua 80% o fyfyrwyr coleg yr UD yn mynychu prifysgolion cyhoeddus.[84][85]

O'r Americanwyr 25 a hŷn, graddiodd 84.6% o'r ysgol uwchradd, mynychodd 52.6% rai colegau, enillodd 27.2% radd baglor, ac enillodd 9.6% raddau graddedig.[86] Mae'r gyfradd llythrennedd sylfaenol oddeutu 99%[87][88] y 12fed goar un y byd yn ôl y Cenhedloedd Unedig.[89]

Mae gan lawer o'r sefydliadau addysg gorau yn y UD gysylltiadau Cymreig ac yn eu plith y mae Prifysgol Yale yn New Haven, Connecticut, a sefydlwyd gan roddion ariannol Elihu Yale c fe'i gladdwyd ym mynwent Eglwys San Silyn yn Wrecsam.

Diwylliantgolygu cod

Mae'r Unol Daleithiau yn grochan o ddiwylliannau gwahanol ac amrywiaeth eang o grwpiau, traddodiadau a gwerthoedd ethnig.[90][91] Ar wahân i bobl Brodorol America, Brodorion Hawaii ac Alaska , mewnfudodd bron pob Americanwr neu eu hynafiaid neu eu cludo yma fel caethweision yn ystod y pum canrif ddiwethaf.[92] Diwylliant Gorllewinol yw diwylliant prif ffrwd yr UD, sy'n deillio i raddau helaeth o draddodiadau mewnfudwyr Ewropeaidd gyda dylanwadau o lawer o ffynonellau ee traddodiadau a ddygwyd yno gan gaethweision o Affrica.[90][93] Mae mewnfudo mwy diweddar o Asia ac yn enwedig o America Ladin wedi ychwanegu at y gymysgedd.[90]

Mae'r Freuddwyd Americanaidd, neu'r canfyddiad bod Americanwyr yn mwynhau symudedd cymdeithasol uchel, yn chwarae rhan allweddol wrth ddenu mewnfudwyr.[94] Ceir cryn drafodaeth a yw hyn yn gywir ai peidio.[95][96][97] Er bod diwylliant prif ffrwd yn honni bod yr Unol Daleithiau yn gymdeithas ddi-ddosbarth,[98] ceir gwahaniaethau sylweddol rhwng dosbarthiadau cymdeithasol y wlad, gan effeithio ar gymdeithasu, iaith a gwerthoedd.[99] Mae Americanwyr yn tueddu i werthfawrogi cyflawniad economaidd-gymdeithasol yn fawr.[100]

Llenyddiaeth, athroniaeth, a chelf weledolgolygu cod

Photograph of Mark Twain
Mark Twain, awdur a ddefnyddiai hiwmor Americanaidd

Yn y 18fed a dechrau'r 19g, dylanwadodd Ewrop ar gelf a llenyddiaeth America. Sefydlodd awduron fel Washington Irving, Nathaniel Hawthorne, Edgar Allan Poe, a Henry David Thoreau lais llenyddol Americanaidd nodedig erbyn canol y 19g. Roedd Mark Twain a’r bardd Walt Whitman yn ffigyrau mawr yn ail hanner y ganrif. Cydnabyddir Emily Dickinson, a oedd bron yn anhysbys yn ystod ei hoes, bellach yn fardd Americanaidd o bwys.[101] Ymhlith y gweithiau sy'n dal agweddau sylfaenol o'r 'cymeriad cenedlaethol' y mae: Moby-Dick (1851), The Adventures of Huckleberry Finn (1885), The Great Gatsby (1925) gan F. Scott Fitzgerald a To Kill a Mockingbird (1960) gan Harper Lee - a elwir yn aml yn "Nofel Fawr America." [102]

Mae 13 o ddinasyddion yr UD wedi ennill y Wobr Nobel mewn Llenyddiaeth ac enwir William Faulkner, Ernest Hemingway a John Steinbeck yn aml ymhlith awduron mwyaf dylanwadol yr 20g.[103] Datblygodd genres llenyddol poblogaidd fel ffilmiau cowbois a throsedd caled yn yr Unol Daleithiau. Agorodd awduron Cenhedlaeth y Bitniciaid ddulliau llenyddol newydd, ynghyd ag awduron ôl-fodernaidd fel John Barth, Thomas Pynchon, a Don DeLillo.[104]

Gweler hefydgolygu cod

Cyfeiriadaugolygu cod

Dolenni allanolgolygu cod

🔥 Top keywords: Main PageSpecial:SearchWikipedia:Featured picturesYasukeHarrison ButkerRobert FicoBridgertonCleopatraDeaths in 2024Joyce VincentXXXTentacionHank AdamsIt Ends with UsYouTubeNew Caledonia2024 Indian general electionHeeramandiDarren DutchyshenSlovakiaKingdom of the Planet of the ApesAttempted assassination of Robert FicoLawrence WongBaby ReindeerXXX: Return of Xander CageThelma HoustonFuriosa: A Mad Max SagaMegalopolis (film)Richard GaddKepler's SupernovaWicked (musical)Sunil ChhetriXXX (2002 film)Ashley MadisonAnya Taylor-JoyPlanet of the ApesNava MauYoung SheldonPortal:Current eventsX-Men '97