Adam Mickiewicz
Llenor Pwylaidd[1][2] oedd Adam Bernard Mickiewicz (24 Rhagfyr 1798 yn Zaosie ger Nowogródek, Ymerodraeth Rwsia – 26 Tachwedd 1855 yng Nghaergystennin, Ymerodraeth yr Otomaniaid). Roedd yn fardd, dramodydd, traethodydd, cyfieithydd, cyhoeddwr, ac awdur gwleidyddol, ac ystyrir yn fardd cenedlaethol Gwlad Pwyl.[3]
Adam Mickiewicz | |
---|---|
Ganwyd | Adam Bernard Mickiewicz 24 Rhagfyr 1798 Zavosse |
Bedyddiwyd | 12 Chwefror 1799 |
Bu farw | 26 Tachwedd 1855 o colera Istanbul |
Man preswyl | Navahrudak, Vilnius, Cawnas, St Petersburg, Odesa, Moscfa, Crimea, Dresden, Paris, Lausanne, Caergystennin |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Gwlad Pwyl, Lithwania |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro cadeiriol, bardd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, dramodydd, awdur ysgrifau, cyfieithydd, ysgrifennwr, person cyhoeddus, academydd, libretydd, llyfrgellydd |
Swydd | athro cadeiriol |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Pan Tadeusz, Dziady, Zima miejska, Ode to Youth, Pieśń filaretów, Ballads and Romances, Романтизм, Kartofla, Sonnets from the Crimea, Llyfrgell y Pwyliaid, Konrad Wallenrod |
Arddull | traethawd, barddoniaeth naratif |
Prif ddylanwad | Andrzej Towiański, Ignacy Krasicki, George Gordon Byron, Henryk Rzewuski, Jakub Wujek |
Mudiad | Rhamantiaeth |
Tad | Mikołaj Mickiewicz |
Mam | Barbara Mickiewicz, née Majewska |
Priod | Celina Szymanowska |
Partner | Maryla Wereszczakówna, Ksawera Deybel |
Plant | Władysław Mickiewicz, Maria Gorecka |
Llinach | House of Mickiewicz |
llofnod | |
Adnabyddir ef fel un o Dri Bardd mwyaf yng nghyfnod Rhamantaidd Gwlad Pwyl (ynghyd â Juliusz Słowacki a Zygmunt Krasiński) ac fel un o lenorion gorau Gwlad Pwyl yn gyffredinol[4][5][6] a hyd yn oed yn Ewrop gyfan.[7] Yn ôl nifer, Mickiewicz yw'r bardd gorau yn holl lenyddiaeth Bwyleg.[4][5][6] Ymhlith ei weithiau mwyaf adnabyddus y mae baledi, nofelau barddonol, y ddrama fydryddol Dziady a'r arwrgerdd genedlaethol Pan Tadeusz a ystyrir fel arwrgerdd olaf diwylliant bonedd Cymanwlad Gwlad Pwyl a Lithwania.