Alemanni

Roedd yr Alemanni, Allemanni neu Alamanni yn wreiddiol yn gynghrair o lwythau Almaenig oedd yn byw o amgylch rhan uchaf Afon Main, yn awr yn yr Almaen. Bu llawer o frwydro rhwng yr Alemanni a'r Ymerodraeth Rufeinig o'r 3g ymlaen; gyda'r Alamanni yn aml yn croesi'r ffin i ymosod ar dalaith Germania Superior. O'r 5g ymlaen, ehangodd eu tiriogaethau, gan symud i mewn i Alsace a chyrraedd dyffrynnoedd yr Alpau erbyn yr 8g. Ffurfiasant wlad Alemannia, oedd ar brydiau yn annibynnol ond yn amlach na pheidio dan reolaeth y Ffranciaid. Collodd Allemania ei hunaniaeth pan ymgorfforodd Siarl Martel y wlad yn yr Ymerodraeth Ffrancaidd yn gynnar yn yr 8g.

Alemanni
Enghraifft o'r canlynolgrwp ethnig hanesyddol, cydffederasiwn Edit this on Wikidata
Olynwyd ganAlamannia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tiriogaethau yr Alamanni, a safleoedd brwydrau rhwng yr Alamanni a'r Rhufeiniaid, 3ydd i 6ed ganrif

Daw'r enw "Yr Almaen" am y wlad o enw'r Alamanni, ac felly hefyd yn Ffrangeg (Allemagne) ac yn Sbaeneg (Alemania).

Alemannia (melyn) a Bwrgwyn Uchaf (gwyrdd) tua 1000.

Rhestr o reolwyr yr Alemanni

Brenhinoedd
  • Chrocus 306
  • Mederich (tad Agenarich, brawd Chnodomar)
  • Chnodomar 350, 357
  • Vestralp 357, 359
  • Ur 357, 359
  • Agenarich (Serapio) 357
  • Suomar 357, 358
  • Hortar 357, 359
  • Gundomad 354 (cyd-frenin Vadomar)
  • Ursicin 357, 359
  • Makrian 368 - 371
  • Rando 368
  • Hariobaud 4th c.
  • Vadomar 354 - 360
  • Vithicab 360 - 368
  • Priarius ? - 378
  • Gibuld (Gebavult) c. 470
Dugiaid dan reolaeth y Ffranciaid
  • Butilin 539 - 554
  • Leuthari I cyn 552 - 554
  • Haming 539 - 554
  • Lantachar hyd 548 (esgobaeth Avenches)
  • Magnachar 565 (esgobaeth Avenches)
  • Vaefar 573 (esgobaeth Avenches)
  • Theodefrid
  • Leutfred I hyd 588
  • Uncilin 588 - 607
  • Gunzo 613
  • Chrodobert 630
  • Leuthari II 642
  • Gotfrid hyd 709
  • Willehari 709 - 712 (yn Ortenau)
  • Lantfrid 709 - 730
  • Theudebald 709 - 744