Ansawdd aer dan do

ansawdd aer mewn adeiladau

Ansawdd aer dan do (yn rhyngwladol: IAQ) yw ansawdd yr aer o fewn ac o amgylch adeiladau a strwythurau eraill. Mae'n hysbys bod IAQ yn effeithio ar iechyd, iechyd meddwl, cysur a lles deiliaid adeiladau. Mae ansawdd aer gwael wedi'i gysylltu â'r hyn a elwir yn "syndrom adeiladu sâl", llai o waith neu gynhyrchiant, a diffyg dysgu mewn ysgolion. Mae llygryddion cyffredin aer dan do'n cynnwys: mwg tybaco ail-law, radon, llwydni (ffwng) ac alergenau eraill, carbon monocsid, cyfansoddion organig anweddol, legionella a bacteria eraill, ffibrau asbestos, carbon deuocsid,[1] osôn a gronynnau. Gellir hidlo'r aer, a defnyddio awyru i wanhau halogion er mwyn gwella ansawdd yr aer dan do yn y rhan fwyaf o adeiladau.

Ansawdd aer dan do
Y math o facteria sy'n byw yn yr aer mewn adeilad tamp
Enghraifft o'r canlynolmesur Edit this on Wikidata
Mathindoor environment quality Edit this on Wikidata
Rhan oHVAC, indoor environment Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae canfod safon yr IAQ yn cynnwys casglu samplau aer, monitro amlygiad dynol i lygryddion, casglu samplau ar arwynebau adeiladau, a modelu llif aer y tu mewn i adeiladau ar gyfrifiadur. Gall goleuadau, ansawdd gweledol, acwsteg, a chysur thermol) hefyd effeithio ar ansawdd yr aer.[2]

Mae gweithleoedd dan do i'w cael mewn llawer o amgylcheddau gwaith megis swyddfeydd, mannau gwerthu, ysbytai, llyfrgelloedd, ysgolion a chyfleusterau gofal plant cyn ysgol. Mewn gweithleoedd o'r fath, ni chyflawnir unrhyw dasgau sy'n ymwneud â sylweddau peryglus, ac nid ydynt yn cynnwys ardaloedd sŵn uchel. Serch hynny, gall gweithwyr gynnwys symptomau sy'n perthyn i'r syndrom adeilad sâl fel llosgi'r llygaid, gwddf crafu, trwyn wedi'i rwystro, a chur pen. Yn aml ni ellir priodoli'r cystuddiau hyn i un achos, ac mae angen dadansoddiad cynhwysfawr yn ogystal â phrofi ansawdd yr aer. Mae'n rhaid caniatáu ar gyfer ffactorau megis dyluniad y gweithle, goleuo, sŵn, amgylchedd thermol, ymbelydredd ïoneiddio ac agweddau seicolegol a meddyliol hefyd. Gall adroddiad gan Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol Yswiriant Damweiniau Cymdeithasol yr Almaen gefnogi ymchwiliad systematig i broblemau iechyd unigol sy'n codi mewn gweithleoedd dan do, a chanfod atebion ymarferol.[3]

Hidlydd aer yn cael ei lanhau

Ceir adroddiadau ar ansawdd yr aer yn gyffredinol gan bob cyngor y g Nghymru, ond nid o dan do. https://airquality.gov.wales/about-air-quality/ Mae radon yn broblem mawr yng Nghymru, fel ag y mae llwydni hefyd, yn enwedig mewn tai rhad megis fflatiau ayb.

Mae llygredd aer dan do yn berygl enfawr mewn gwledydd sy'n datblygu a chyfeirir ato'n gyffredin fel "llygredd aer y cartref" yn y cyd-destun hwnnw.[4] Mae'n ymwneud yn bennaf â dulliau coginio a gwresogi trwy losgi tanwydd biomas, ar ffurf pren, siarcol, tail, a gweddillion cnwd, dan do mewn cartref sydd heb ei awyru'n briodol. Mae miliynau o bobl, menywod a phlant yn bennaf, yn wynebu risgiau iechyd difrifol. Yn gyfan gwbl, mae tua thri biliwn o bobl mewn gwledydd sy'n datblygu yn cael eu heffeithio gan y broblem hon. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amcangyfrif bod llygredd aer dan do sy'n gysylltiedig â choginio yn achosi 3.8 miliwn o farwolaethau blynyddol. [5] Amcangyfrifodd yr astudiaeth Baich Clefydau Byd-eang fod nifer y marwolaethau yn 2017 yn 1.6 miliwn. [6]

Yn Ionawr 2023, cyhoeddwyd awgrymiadau ar gyfer lleihau llygredd aer dan do wrth ddefnyddio stôf nwy, sy'n gysylltiedig â risg uwch o asthma a salwch posibl eraill, yn y New York Times.[7]

Llygryddion cyffredin

Radon

Mae radon yn nwy atomig anweledig, ymbelydrol sy'n deillio o ddadfeiliad ymbelydrol radiwm, y gellir ei ddarganfod mewn ffurfiannau creigiau o dan adeiladau neu mewn rhai deunyddiau adeiladu eu hunain. Mae'n debyg mai radon yw'r perygl difrifol mwyaf treiddiol i aer dan do yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop, ac mae'n debyg ei fod yn gyfrifol am ddegau o filoedd o farwolaethau o ganser yr ysgyfaint bob blwyddyn.[8] Mae yna becynnau prawf cymharol syml ar gyfer profion nwy radon, ond os yw cartref ar werth rhaid i'r profion gael eu gwneud gan berson trwyddedig yng Nghymru. Mae nwy radon yn mynd i mewn i'r adeiladau fel nwy pridd ac mae'n nwy trwm ac felly bydd yn tueddu i gronni ar y lefel isaf. Yn Rhuthun, er enghraifft, mae radon difrifol o uchel yng ngwaelodion y dre (llawr y ddyfryn), a fawr ddim yn rhan ucha'r dre, ger y ddwy ysgol uwchradd.

Gall radon hefyd gael ei gyflwyno i adeilad trwy ddŵr yfed, yn enwedig o gawodydd ystafell ymolchi. Gall deunyddiau adeiladu fod yn ffynhonnell radon brin, ond ychydig o brofion a wneir ar gyfer cynhyrchion carreg, craig neu deils a gludir i safleoedd adeiladu; mewn cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n dda y mae'r croniad radon mwyaf gan nad yw'n medru gadael yr adeilad. Hanner oes radon yw 3.8 diwrnod, sy'n dangos, unwaith y bydd y ffynhonnell yn cael ei thynnu, y bydd y perygl yn cael ei leihau'n fawr o fewn ychydig wythnosau. Mae dulliau lliniaru radon yn cynnwys selio lloriau slabiau concrit, sylfeini islawr, systemau draenio dŵr, neu drwy gynyddu awyru.[9] Maent fel arfer yn gost-effeithiol a gallant leihau neu hyd yn oed ddileu'r halogiad a'r risgiau iechyd cysylltiedig.

Llwydni ac alergenau eraill

Gall llwydni ddeillio am sawl rheswm, ond mae dau ddosbarth cyffredin: (a) lleithder a (b) sylweddau naturiol sy'n cael eu rhyddhau i'r aer ee paill planhigion. Mae llwydni bob amser yn gysylltiedig â lleithder a diffyg haul,[10] a gellir atal ei dwf trwy gadw lefelau lleithder o dan 50%. Gall lleithder y tu mewn i adeiladau ddeillio o damprwydd yn treiddio i groen yr adeilad drwy blymio gwael neu do'n gollwng. Gall anwedd oherwydd diffyg awyruei achosi hefyd, neu o leithder daear sy'n codi oherwydd insiwleiddio lloriau gwael. Gall hyd yn oed rhywbeth mor syml â sychu dillad dan do ar reiddiaduron gynyddu’r risg o ddod i gysylltiad ag Aspergillus (ymhlith pethau eraill) – llwydni hynod beryglus a all fod yn angheuol i ddioddefwyr asthma a’r henoed.

Carbon monocsid

Un o'r halogion aer (dan do) mwyaf gwenwynig yw carbon monocsid (CO), nwy di-liw a heb arogl sy'n sgil-gynnyrch hylosgiad anghyflawn. Ffynonellau cyffredin o garbon monocsid yw mwg tybaco, gwresogyddion sy'yn defnyddio tanwydd ffosil, ffwrneisi gwres canol diffygiol a peipen fwg ceir. Trwy amddifadu'r ymennydd o ocsigen, gall lefelau uchel o garbon monocsid arwain at gyfog, mynd yn anymwybol a marwolaeth. Yn ôl Cynhadledd America o Hylenwyr Diwydiannol Llywodraethol (ACGIH), y terfyn amser cyfartalog (TWA) ar gyfer carbon monocsid (630-08-0) yw 25 ppm.

Clefyd y llengfilwyr

Mae clefyd y llengfilwyr yn cael ei achosi gan facteriwm (Legionella) a gludir gan ddŵr sy'n tyfu orau mewn dŵr cynnes sy'n symud yn araf neu'n llonydd. Y prif lwybr yw trwy greu effaith aerosol, yn fwyaf cyffredin o dyrau oeri anweddol neu bennau cawod. Un ffynhonnell gyffredin o Legionella mewn adeiladau masnachol yw tyrau oeri anweddol sydd wedi'u gosod neu eu cynnal yn wael, sy'n aml yn rhyddhau dŵr mewn aerosol a allai fynd i mewn i gyfarpar awyru. Ceir sawl achosn mewn cyfleusterau meddygol a chartrefi nyrsio, lle mae gan y cleifion imiwnedd isel.

Ffibrau asbestos

Mae llawer o ddeunyddiau adeiladu cyffredin a ddefnyddiwyd cyn 1975 yn cynnwys asbestos, megis rhai teils llawr, teils nenfwd, byrddau atal tân, systemau gwresogi, stwff lapio pibelli, mastig, a deunyddiau inswleiddio eraill. Fel arfer, ni fydd gollyngiadau sylweddol o ffibr asbestos yn digwydd oni bai bod tarfu arno, megis trwy ei dorri, ei lyfnu gyda phapur llyfnu, drilio neu ailfodelu adeiladau. Nid yw cael gwared ar ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos bob amser yn gwneud synnwyr, oherwydd gall y ffibrau gael eu lledaenu i'r aer yn ystod y broses o'u symud. Yn aml, argymhellir rhaglen reoli ar gyfer deunyddiau cyfan sy'n cynnwys asbestos yn lle hynny: prese ddrud iawn i'r perchennog!

Cyfeiriadau

Ffynonellau

Dolenni allanol