Sefydliad Iechyd y Byd
Asiantaeth dan y Cenhedloedd Unedig yw Sefydliad Iechyd y Byd (Ffrangeg: Organisation mondiale de la santé, OMS; Saesneg: World Health Organisation, WHO) sy'n gyfrifol am iechyd cyhoeddus rhyngwladol drwy gyfarwyddo a chyd-drefnu materion sy'n ymwenud ag iechyd ar draws y byd. Mae'n gyfrifol am roi arweiniad ar faterion iechyd byd-eang, gosod yr agenda ar gyfer ymchwil i iechyd, gosod safonau ac ymarferau, cynnig opsiynau polisi iechyd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, rhoi cefnogaeth dechnolegol i wledydd y byd a monitro ac asesu tueddiadau iechyd.[1] Gyda'i bencadlys yn Genefa, y Swistir, mae ganddo chwe swyddfa ranbarthol a 150 o swyddfeydd maes ledled y byd.[2][3]
Enghraifft o'r canlynol | asiantaeth arbenigol y Cenhedloedd Unedigl, cyhoeddwr mynediad agored, sefydliad rhyngwladol, academic publisher |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 7 Ebrill 1948 |
Yn cynnwys | Grŵp Cynghori Sefydliad Iechyd y Byd |
Pennaeth y sefydliad | Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd |
Rhagflaenydd | Office international d'hygiène publique |
Aelod o'r canlynol | International Association of Scientific, Technical, and Medical Publishers |
Gweithwyr | 7,000 |
Rhiant sefydliad | Cyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig, Y Cenhedloedd Unedig |
Pencadlys | Genefa |
Gwladwriaeth | Y Swistir, y Philipinau, Yr Aifft, Unol Daleithiau America, Denmarc, India, Gweriniaeth y Congo |
Gwefan | https://www.who.int |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd Sefydliad Iechyd y Byd ar 7 Ebrill 1948.[4][5] Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cynulliad Iechyd y Byd (WHA), corff llywodraethu’r asiantaeth, ar 24 Gorffennaf y flwyddyn honno. Ymgorfforodd Sefydliad Iechyd y Byd asedau, personél, a dyletswyddau Sefydliad Iechyd Cynghrair y Cenhedloedd a'r Office International d'Hygiène Publique, gan gynnwys y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD).[6] Dechreuodd ei waith o ddifrif yn 1951 ar ôl chwistrelliad sylweddol o adnoddau ariannol a thechnegol.[7]
Mae mandad Sefydliad Iechyd y Byd yn ceisio ac yn cynnwys: gweithio ledled y byd i hybu iechyd, cadw'r byd yn ddiogel, a gwasanaethu'r rhai sy'n agored i niwed. Mae’n argymell y dylai biliwn yn fwy o bobl gael:
- cwmpas gofal iechyd cyffredinol,
- ymgysylltu â monitro risgiau iechyd y cyhoedd,
- cydlynu ymatebion i argyfyngau iechyd, a hybu iechyd a llesiant. [8]
Mae'n darparu cymorth technegol i wledydd, yn gosod safonau iechyd rhyngwladol, ac yn casglu data ar faterion iechyd byd-eang. Mae ei gyhoeddiad, Adroddiad Iechyd y Byd, yn darparu asesiadau o bynciau iechyd byd-eang.[9] Mae Sefydliad Iechyd y Byd hefyd yn gweithredu fel fforwm ar gyfer trafodaethau ar faterion iechyd.[2]
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi chwarae rhan flaenllaw mewn sawl maes, yn fwyaf nodedig, drwy gynorthwyo i ddileu’r frech wen, ar fin dileu polio, ac mae'n prysur ddatblygu brechlyn yn erbyn Ebola . Mae ei flaenoriaethau presennol yn cynnwys heintiau trosglwyddadwy, yn enwedig HIV/AIDS, COVID-19, malaria a'r Diciâu (twbercwlosis); clefydau anhrosglwyddadwy megis clefyd y galon a chanser; diet iach, maeth, a diogelwch bwyd; iechyd galwedigaethol; a chamddefnyddio sylweddau. Mae ei chwaer brosiect, Cynulliad Iechyd y Byd, corff gwneud penderfyniadau'r asiantaeth, yn ethol ac yn cynghori bwrdd gweithredol sy'n cynnwys 34 o arbenigwyr iechyd. Mae'n dewis y cyfarwyddwr cyffredinol, yn gosod nodau a blaenoriaethau, ac yn cymeradwyo'r gyllideb a'r gweithgareddau. Y cyfarwyddwr cyffredinol yn 2022 oedd Tedros Adhanom Ghebreyesus o Ethiopia.[10]
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dibynnu ar gyfraniadau gan aelod-wladwriaethau (asesedig a gwirfoddol) a rhoddwyr preifat am gyllid. Roedd cyfanswm ei gyllideb yn 2020-2021 dros $7.2 biliwn, gyda’r mwyafrif ohono'n gyfraniadau gwirfoddol gan aelod-wladwriaethau.[2][11] Asesir y cyfraniadau gan fformiwla sy'n cynnwys CMC y pen. Ymhlith y cyfranwyr mwyaf roedd yr Almaen (a gyfrannodd 12.18% o'r gyllideb), Sefydliad Bill & Melinda Gates (11.65%), a'r Unol Daleithiau (7.85%).[12]
Ers diwedd yr 20g, mae'r cynnydd mewn actorion newydd sy'n ymwneud ag iechyd byd-eang megis Banc y Byd, y Bill a Melinda Gates Foundation, Cynllun Argyfwng Llywydd yr UD ar gyfer Rhyddhad AIDS (PEPFAR) a dwsinau o bartneriaethau cyhoeddus-preifat ar gyfer iechyd byd-eang wedi gwanhau rôl Sefydliad Iechyd y Byd fel cydlynydd ac arweinydd polisi yn y maes.[13]
Hanes
Tarddiad
Roedd y Cynadleddau Glanweithdra Rhyngwladol (ISC), y cynhaliwyd y cyntaf ohonynt ar 23 Mehefin 1851, yn gyfres o gynadleddau a gymerodd le hyd at 1938, cyfnod o tua 87 mlynedd.[14] Roedd y gynhadledd gyntaf, ym Mharis, yn ymwneud bron yn gyfan gwbl â cholera, a fyddai'n parhau i fod yn glefyd o bryder mawr i'r ISC am y rhan fwyaf o'r 19g. Gydag etioleg, hyd yn oed trosglwyddedd, llawer o glefydau epidemig yn dal yn ansicr ac yn fater o ddadl wyddonol, roedd yn anodd dod i gytundeb rhyngwladol ar fesurau priodol.[14] Cynullwyd saith o'r cynadleddau rhyngwladol hyn, yn ymestyn dros 41 mlynedd, cyn i unrhyw un arwain at gytundeb rhyngwladol aml-wladwriaethol. Arweiniodd y seithfed gynhadledd, yn Fenis ym 1892, at gonfensiwn. Roedd yn ymwneud yn unig â rheolaeth lanweithiol llongau ar draws Camlas Suez, ac roedd yn ymdrech i atal mewnforio colera.[15]
Bum mlynedd yn ddiweddarach, ym 1897, llofnodwyd confensiwn ynghylch y pla bubonig gan un ar bymtheg o'r 19 talaith a fynychodd y gynhadledd yn Fenis. Er na lofnododd Denmarc, Sweden-Norwy, na'r UDA mo'r confensiwn hwn, cytunwyd yn unfrydol y dylid codeiddio gwaith y cynadleddau blaenorol a'i weithredu.[16] Ehangodd cynadleddau dilynol, o 1902 hyd yr un olaf yn 1938, yr afiechydon a oedd yn peri pryder i'r ISC, a chafwyd trafodaeth ar ymatebion i'r dwymyn felen, brwselosis, gwahanglwyf, twbercwlosis, a theiffoid.[17] Yn rhannol o ganlyniad i lwyddiannau'r Cynadleddau, sefydlwyd y Biwro Glanweithdra Pan-Americanaidd (1902), a'r Office International d'Hygiène Publique (1907) yn fuan wedyn. Pan ffurfiwyd Cynghrair y Cenhedloedd ym 1920, sefydlo' nhw Sefydliad Iechyd Cynghrair y Cenhedloedd. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, amsugnodd y Cenhedloedd Unedig yr holl sefydliadau iechyd eraill, i ffurfio Sefydliad Iechyd y Byd.[18]
Sefydliad
Yn ystod Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Sefydliad Rhyngwladol ym 1945, bu Szeming Sze, cynrychiolydd o Tsieina, yn ymgynghori â chynadleddwyr o Norwy a Brasil ar y syniad o greu sefydliad iechyd rhyngwladol o dan adain y Cenhedloedd Unedig newydd. Ar ôl methu â chael penderfyniad ar y pwnc, argymhellodd Alger Hiss, ysgrifennydd cyffredinol y gynhadledd, ddefnyddio datganiad i sefydlu sefydliad o'r fath. Bu Sze a chynrychiolwyr eraill yn lobïo dros hyn a phasiwyd datganiad yn galw am gynhadledd ryngwladol ar iechyd. Roedd y defnydd o'r gair "byd", yn hytrach na "rhyngwladol", yn pwysleisio natur wirioneddol fyd-eang yr hyn yr oedd y sefydliad yn ceisio ei gyflawni.[19] Arwyddwyd cyfansoddiad Sefydliad Iechyd y Byd gan bob un o 51 gwlad y Cenhedloedd Unedig, a chan 10 gwlad arall, ar 22 Gorffennaf 1946.[20] Dyma felly oedd asiantaeth arbenigol gyntaf y Cenhedloedd Unedig y tanysgrifiodd pob aelod iddi.[21] Daeth ei gyfansoddiad i rym yn ffurfiol ar Ddiwrnod Iechyd y Byd cyntaf ar 7 Ebrill 1948, pan gafodd ei gadarnhau gan y 26ain aelod-wladwriaeth.[20]
Daeth cyfarfod cyntaf Cynulliad Iechyd y Byd i ben ar 24 Gorffennaf 1948, ar ôl sicrhau cyllideb o US$5 miliwn (£1.25 miliwn) ar gyfer y flwyddyn 1949. Andrija Štampar oedd llywydd cyntaf y Cynulliad, a phenodwyd G. Brock Chisholm yn gyfarwyddwr cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd, ar ôl gwasanaethu fel ysgrifennydd gweithredol yn ystod y camau cynllunio.[22] Ei flaenoriaethau cyntaf oedd rheoli lledaeniad malaria, twbercwlosis a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, a gwella iechyd mamau a phlant, maeth a hylendid amgylcheddol.[23] Roedd ei ddeddf ddeddfwriaethol gyntaf yn ymwneud â chasglu ystadegau cywir ar ledaeniad a morbidrwydd afiechyd.[22] Mae logo Sefydliad Iechyd y Byd yn cynnwys gwialen Asclepius fel symbol iachâd.[24]
Y prif adeilad
- Grisiau tro, 1969
- Y buarth mewnol, 1969
- Pwll, 1969
- Tu allan, 1969
- Yr olygfa o'r De-orllewin, 2013
- Cyntedd, 2013
- Y prif stafell gynadledda, 2013
Gweithgareddau
IAEA – Cytundeb WHA 12–40
Ym 1959, llofnododd Sefydliad Iechyd y Byd Gytundeb WHA 12-40 gyda'r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA), sy'n dweud:[25]
“ | pryd bynnag y bydd y naill sefydliad neu'r llall yn bwriadu cychwyn rhaglen neu weithio ar bwnc y mae gan y sefydliad arall fuddiant sylweddol ynddo, 'rhaid i'r parti cyntaf ymgynghori â'r llall gyda golwg ar addasu'r mater trwy gytundeb ar y cyd. | ” |
Mae natur y datganiad hwn wedi arwain rhai grwpiau ac actifyddion gan gynnwys Merched yn Ewrop ar gyfer Dyfodol Cyffredin i honni bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi'i gyfyngu yn ei allu i ymchwilio i effeithiau ymbelydredd a achosir gan y defnydd o ynni niwclear ac effeithiau parhaus yr ymbelydredd ar iechyd pobol. trychinebau niwclear yn Chernobyl a Fukushima. Maen nhw'n credu bod yn rhaid i WHO adennill yr hyn maen nhw'n ei weld fel annibyniaeth.[26][27][28] Cynhaliodd "WHO Annibynnol" wylnos wythnosol rhwng 2007 a 2017 o flaen pencadlys Sefydliad Iechyd y Byd.[29] Fodd bynnag, fel y nodwyd gan Foreman yng nghymal 2 mae’n rhoi'r hawl i WHO weithredu'n annibynnol.
Hanes gweithredol Sefydliad Iechyd y Byd
1947: Sefydlodd Sefydliad Iechyd y Byd wasanaeth gwybodaeth epidemiolegol trwy telex.[30]
1950: Cychwyn ymgyrch brechu twbercwlosis torfol gan ddefnyddio'r brechlyn BCG.[31]: 8
1955: Lansiwyd y rhaglen dileu malaria, er bod amcanion wedi'u haddasu'n ddiweddarach. (Yn y rhan fwyaf o feysydd, daeth nodau'r rhaglen yn reolaeth yn hytrach na'u dileu.)[32]: 9
1958: Galwodd Viktor Zhdanov, Dirprwy Weinidog Iechyd yr Undeb Sofietaidd ar Gynulliad Iechyd y Byd i ymgymryd â menter fyd-eang i ddileu’r frech wen, gan arwain at Benderfyniad WHA11.54.[33][34]: 366–371, 393, 399, 419
1965: Yr adroddiad cyntaf ar ddiabetes a chreu'r Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil i Ganser.[35]: 10–11
1966: Symudodd Sefydliad Iechyd y Byd ei bencadlys o adain Ariana ym Mhalas y Cenhedloedd i bencadlys newydd ei adeiladu mewn man arall yng Ngenefa.[36][37]:12
1967: Dwyshaodd Sefydliad Iechyd y Byd yr ymgyrch i ddileu’r frech wen yn fyd-eang trwy gyfrannu $2.4 miliwn yn flynyddol i'r ymdrech a mabwysiadu dull cadw golwg am afiechydon newydd,[38][39] ar adeg pan oedd 2 filiwn o bobl yn marw o'r frech wen y flwyddyn.[40] Y broblem gychwynnol a wynebodd tîm WHO oedd diffyg adroddiadau am yr achosion o'r frech wen. Sefydlodd WHO rwydwaith o ymgynghorwyr a gynorthwyodd wledydd i sefydlu gweithgareddau gwyliadwriaeth a chyfyngiant.[41] Helpodd Sefydliad Iechyd y Byd hefyd i gynnwys yr achosion Ewropeaidd diwethaf yn Iwgoslafia ym 1972.[42] Ar ôl dros ddau ddegawd o frwydro yn erbyn y frech wen, datganodd Comisiwn Byd-eang ym 1979 fod y clefyd wedi'i ddileu - y clefyd cyntaf mewn hanes i gael ei ddileu gan yr hil ddynol.[43]
1974: Cychwynwyd dwy raglen: Rhaglen Ehangu ar Imiwneiddio[44]: 13 a rhaglen reoli onchocerciasis, fel partneriaeth bwysig rhwng y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth (FAO), Rhaglen Datblygu'r Cenhedloedd Unedig (UNDP), a Banc y Byd.
1975: Lansiodd Sefydliad Iechyd y Byd y Rhaglen Arbennig ar gyfer Ymchwil a Hyfforddiant mewn Clefydau Trofannol (y TDR).[45]: 15 Roedd y rhaglen hwn wedi'i gyd-noddi gan UNICEF, UNDP, a Banc y Byd, ac fe'i sefydlwyd mewn ymateb i gais 1974 gan y WHA am ymdrech ddwys i ddatblygu rheolaeth well ar glefydau trofannol. Prif nodau'r TDR, yn gyntaf, oedd cefnogi a chydlynu ymchwil rhyngwladol i ddiagnosis, triniaeth a rheolaeth ar glefydau trofannol; ac, yn ail, cryfhau galluoedd ymchwil o fewn gwledydd endemig.[46]
1976: Deddfodd y WHA benderfyniad ar atal anabledd ac adsefydlu (rehabilitation) gyda ffocws ar ofal gan y gymuned[47]: 16
1977 a 1978: Lluniwyd y rhestr gyntaf o feddyginiaethau hanfodol,[48]: 17 a blwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddwyd y nod uchelgeisiol “Iechyd i Bawb”.
1986: Dechreuodd Sefydliad Iechyd y Byd ei raglen fyd-eang ar HIV/AIDS.[49]: 20 Ddwy flynedd yn ddiweddarach rhoddwyd sylw i atal gwahaniaethu yn erbyn dioddefwyr, ac ym 1996 ffurfiwyd Rhaglen ar y Cyd y Cenhedloedd Unedig ar HIV/AIDS (UNAIDS).
1988: Sefydlwyd y Fenter Dileu Polio Fyd-eang.[50]: 22
1995: Sefydlodd WHO Gomisiwn Rhyngwladol annibynnol ar gyfer Dileu Dracunculiasis (dileu clefyd llyngyr Guinea; ICCDE).[51]: 23 Mae'r ICCDE yn argymell i WHO pa wledydd sy'n bodloni gofynion yr ardystio (certification). Mae gan WHO hefyd rôl o ran cynghori ar y cynnydd a wnaed tuag at ddileu trosglwyddiad a phrosesau ar gyfer dilysu.[52]
1998: Amlygodd Cyfarwyddwr Cyffredinol WHO gamau bras mewn goroesiad plant, llai o farwolaethau babanod, cynnydd mewn disgwyliad oes a chyfraddau is o “blaod” fel y frech wen a pholio - ar hanner can mlynedd ers sefydlu WHO. Roedd, fodd bynnag, yn derbyn bod yn rhaid gwneud mwy i gynorthwyo iechyd mamau a bod y cynnydd yn y maes hwn wedi bod yn araf. [53]
2000: Crëwyd y Bartneriaeth Atal TB ynghyd â llunio Nodau Datblygu'r Mileniwm gan y Cenhedloedd Unedig.[54]: 24
2001: Ffurfiwyd menter y frech goch, a chafodd WHO y clod am leihau marwolaethau byd-eang o'r clefyd 68% erbyn 2007.[55]: 26
2002: Lluniwyd y Gronfa Fyd-eang i Ymladd AIDS, Twbercwlosis a Malaria i wella'r adnoddau sydd ar gael.[56]: 27
2005: Diwygiwyd y Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol (IHR) yn sgil bygythiadau iechyd a ddaeth i'r amlwg o'r epidemig SARS 2002/3, gan awdurdodi WHO i ddatgan bygythiad iechyd yn Argyfwng Iechyd Cyhoeddus o Bryder Rhyngwladol.[57]
2016: Yn dilyn methiant canfyddedig yr ymateb i’r achosion o Ebola yng Ngorllewin Affrica, ffurfiwyd rhaglen Argyfyngau Iechyd y Byd, gan newid Sefydliad Iechyd y Byd o fod yn asiantaeth “normative” i un sy’n ymateb yn weithredol i argyfyngau iechyd.[58]
2020 : Cynorthwyodd WHO i reoli'r achosion byd-eang o firws corona (covid-19)
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- (Ffrangeg) (Saesneg) Gwefan swyddogol CIB
- (Saesneg) Adroddiad CIB ar Iechyd yng Nghymru (2004) (ffeil PDF)