BMW
Talfyriad ydy BMW am Bayerische Motoren Werke AG (ynganiad Almaeneg: [baˈjɛɐ̯ɪʃə mɔˈtɔʁn̩ ˈvɛɐ̯kə] (gwrando); yr Almaeneg am Bavarian Motor Works), sy'n gwmni ceir a beiciau modur sydd a'i bencadlys yn München, Bafaria, yr Almaen. Mae BMW hefyd yn berchen ac yn gyfrifol am gynhyrchu mathau o geir o dan yr enwau Mini a BMW hefyd yw rhiant gwmni Rolls-Royce Motor Cars. Mae'n cynhyrchu beiciau modur o dan yr enw 'BMW Motorrad' a cheir trydan dan yr is-frand BMW i e.e. BMW i3.
Math o fusnes | Aktiengesellschaft (AG) (cwmni corfforaethol wedi'i gyfyngu gan gyfranddaliadau) |
---|---|
Byrfodd stoc | FWB: BMW |
Diwydiant | Ceir |
Rhagflaenydd | Rapp Motorenwerke Bayerische Flugzeugwerke AG (BFW)[1] Automobilwerk Eisenach |
Sefydlwyd | Mawrth 1916 |
Sefydlydd | Franz Josef Popp, Karl Rapp, Camillo Castiglioni |
Pencadlys | München, Bafaria, Yr Almaen |
Ardal gwerthiant | Bydeang |
Pobl allweddol | Norbert Reithofer (Cadeirydd y Bwrdd Cynghori) Harald Krüger (Cadeirydd y Bwrdd Rheoli) |
Cynnyrch | Ceir moethus, ceir cyflym, beiciau modur |
Cynhyrchiad | 2,117,965 car (2014) tua 120,000 beic modur (2014) |
Cyllid | €80.401 biliwn (2014)[2] |
Enillion cyn llog | €8.707 biliwn (2014)[2] |
Elw | €5.817 biliwn (2014)[2] |
Cyfanswm yr asedau | €182.72 biliwn (2015)[2] |
Cyfalaf | €3.839 biliwn (2014)[2] |
Perchennog/ion | Stefan Quandt: 25.8% Susanne Klatten: 20.9% Y cyhoedd: 53.3% |
Gweithwyr | 116,324 (2014)[2] |
Rhaniadau | Mini BMW Motorsport BMW i BMW Motorrad |
Is-gwmni/au | List
|
Slogan | "Sheer Driving Pleasure" (Bydeang) "The Ultimate Driving Machine" (UDA) "The Ultimate Driving Experience" (Canada) |
BMW Group Ceir BMW |
Mae'n un o brif gwmniau ceir moethus y byd.[3] Caiff ei restru ar yr 'Euro Stoxx 50' sef cyfnewidfa stoc.[4]
Hanes
Yn 1917, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, yn unol â thermau Cytundeb Versailles, gorfodwyd y cwmni adeiladu awyrennau 'Rapp Motorenwerke' i beidio a chynhyrchu rhagor o awyrennau, a gorfodwyd nhw i droi at feiciau modur (1923), ceir (1928–29) a cherbydau eraill.[5][6]
Y car cyntaf i BMW ei gynhyrchu oedd y Dixi, a sylfaenwyd ar yr Austin 7, ar drwyddedwyd gan Gwmni Moduron Austin a oedd wedi'i leoli yn Birmingham, Lloegr.
Erbyn y 1930au roedd y cwmni wedi ailddechrau cynhyrchu awyrennau ar gyfer y Luftwaffe; yn wir, cynhyrchwyd peiriant ar gyfer awyrennau (y BMW IIIa) mor fuan a 1918. Roedd llawer iawn o weithwyr di-dâl yn eu ffatri yn München, gan gynnwys carcharorion a sifiliaid o wledydd eraill.
Yn 1958, yn hytrach na mynd yn fethdalwyr prynnwyd yr hawl i greu modelau o'r car Eidalaidd 'Iso Isetta' ac ailwampiwyd un o'u peiriannau gyrru beiciau modur ar ei gyfer.