Birmingham

Dinas yn Lloegr

Dinas fawr yn sir Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Birmingham.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Birmingham.

Birmingham
Mathmetropolis, dinas, ardal ddi-blwyf, tref goleg, city of United Kingdom Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Birmingham, Swydd Warwick
Poblogaeth1,137,100 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 7 g Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethYvonne Mosquito Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGorllewin Canolbarth Lloegr
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd267.77 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr140 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawTame Valley Canal, Afon Tame, Afon Rea Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.48°N 1.9025°W Edit this on Wikidata
Cod postEdit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethYvonne Mosquito Edit this on Wikidata
Map

Datblygodd yn y Chwyldro Diwydiannol, ond mae ganddi gwreiddiau yn yr Oesoedd Canol. Rhoddwyd statws dinesig swyddogol iddi yn 1889. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Birmingham boblogaeth o 1,085,810.[2] Birmingham yw dinas ail fwyaf y Deyrnas Unedig ar ôl Llundain, ac mae hi'n ffurfio rhan sylweddol o ardal ddinesig Gorllewin Canolbarth Lloegr, a oedd â chyfanswm o 2,736,460 o bobl yn byw yno yn 2011[3] ac chynhwysa nifer o drefi a dinasoedd cyfagos megis Solihull, Wolverhampton a threfi'r Black Country. Ceir nifer o barciau a chamlesi yn y ddinas. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, hi oedd y ddinas Seisnig a effeithwyd yn fwyaf gan yr ymgyrch bomio Almeinig.

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol roedd y ddinas yn ganolbwynt y chwyldro yn Lloegr, ac o ganlyniad gelwir Birmingham yn "weithdy'r byd" a "dinas o fil o grefftau".[4] Er i bwysigrwydd Birmingham fel dinas ddiwydiannol leihau, mae wedi datblygu i fod yn ganolfan fasnachol genedlaethol, ac fe'i henwyd yr ail le gorau yn yr Deyrnas Unedig i leoli busnes a'r 14eg yn Ewrop gan Cushman & Wakefield yn 2009.[5] Hyhi yw'r ddinas bedwaredd fwyaf o ran y nifer o ymwelwyr o dramor sy'n mynd yno hefyd.[6]

Yn 2007, rhoddwyd Birmingham yn ddinas 55ed hawsaf i fyw ynddi yn y byd a'r ail ddinas hawsaf i fyw ynddi yn y Deyrnas Unedig, yn ôl Rhestr Mercer o safonau byw rhyngwladol.[7] Mae gan Birmingham yr economi dinesig ail fwyaf yn y Deyrnas Unedig, a chyrhaeddodd rif 72nd yn y byd yn 2008.[8]

Gelwir pobl o Birmingham yn 'Brummies', term sy'n tarddu o ffugenw'r ddinas - 'Brum'. Daw hyn o enw tafodieithol y ddinas, Brummagem,[9] a allai fod wedi dod o un o enwau blaenorol y ddinas, 'Bromwicham'. Mae yna dafodiaith ac acen Brummie unigryw gan drigolion y ddinas, sy'n wahanol i'r hyn a geir yn y Black Country cyfagos. Mae'n bosib fod yr enw'n cyfeirio at lwyth Celtaidd a drigai yma yn amser y Rhufeiniaid gan iddyn nodi'r ystyr fel "cartref llwyth y Beorma" ("homestead/village of Beorma's people'")[10]

Enwogion

  • Jeffery Farnol (1878-1952), nofelydd
  • Tony Hancock (1924-1968), comediwr
  • Jenny Joseph (g. 1932), bardd
  • Jasper Carrott (g. 1945), comediwr a cherddor
  • Robin Nedwell (1946-1999), actor
  • Carl Palmer (g. 1954), cerddor


Cyfeiriadau

Dolen allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Gorllewin Canolbarth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.