Charles Babbage
Mathemategydd a arloesodd yn yr hyn a adnabyddir heddiw fel cyfrifiadureg oedd Charles Babbage, FRS (26 Rhagfyr 1791 –18 Hydref 1871).[1] Roedd ganddo wybodaeth eang iawn o sawl pwnc, gan gynnwys athroniaeth, dyfeisio a pheirianneg. Mae'n fwyaf adnabyddus am ddyfeisio codio cyfrifiadurol.
Charles Babbage | |
---|---|
Ganwyd | 26 Rhagfyr 1791 Llundain, Walworth |
Bu farw | 18 Hydref 1871 Marylebone |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Addysg | Baglor yn y Celfyddydau, Meistr yn y Celfyddydau |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | mathemategydd, gwyddonydd cyfrifiadurol, dyfeisiwr, economegydd, athronydd, academydd, peiriannydd, seryddwr, ysgrifennwr |
Swydd | Athro Lucasiaidd mewn Mathemateg |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | analytical engine |
Prif ddylanwad | Ada Lovelace |
Priod | Georgiana Whitmore |
Plant | Benjamin Babbage, Henry Babbage |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Knight of the Royal Guelphic Order |
llofnod | |
Ystyrir ef gan rai fel un o'r rhai cyntaf i ragweld gallu'r cyfrifiadur ac yn "Dad y Cyfrifiadur",[2] Cynlluniodd y cyfrifiadur mecanyddol cyntaf, mae'n debyg, a arweiniodd ef i greu cynlluniau mwy cynhleth.[1] Mae rhai o'i greadigaethau i'w canfod yn Amgueddfa Gwyddoniaeth Llundain. Crewyd "peiriant gwahaniaethu" (difference engine) drwy ddefnyddio'r cynlluniau a wnaeth dros ganrif yn ôl; gweithiodd y peiriant yn union fel y breuddwydiai Babbage. Mae John Tucker yn y gyfrol Robert Recorde (gol.: Gareth Roberts a Lenny Smith) fodd bynnag, yn dadlau mai'r mathemategydd Cymreig Robert Recorde a osododd rai o'r sylfeini sydd wrth wraidd cysyniadau Babbage.[3]
Plentyndod
Ceir anghytundeb ynglŷn ag union fan geni Babbage, ond yn ôl yr Oxford Dictionary of National Biography mae'n debygol iddo gael ei eni yn 44 Crosby Row, Walworth Road, Llundain.[4] Ceir plac glas ar y mur yn nodi hynny. Roedd yn un o bedwar o blant a anwyd i Benjamin Babbage a Betsy Plumleigh Teape. Gweithio fel partner mewn banc oedd ei dad i gwmni a sefydlodd gyda William Praed, sef: Praed's & Co. yn Stryd y Fflyd, Llundain, yn 1801.[5] Yn 1808, symudodd teulu'r Babbage i dref yn Ne Dyfnaint, Teignmouth. Yn wyth oed fe'i danfonwyd i ysgol yn Alphington, yng nghanol y wlad, ger Exeter. Am gyfnod byr bu'n ddisgybl yn Ysgol King Edward VI, Totnes, ond nid oedd ei iechyd yn arbennig o dda a chafodd diwtoriaid personol i'w addysgu.[6] Yna bu yn Academi Holmwood, Middlesex, ac yn llyfrgell yr ysgol honno y disgynodd mewn cariad gyda mathemateg. Pan oedd oddeutu 16 oed dychwelodd i Totnes.[7]
Coleg
Yn Hydref 1810 cyrhaeddodd Goleg y Drindod, Caergrawnt.[8] Roedd wedi datblygu cymaint yn ei fathemateg, ceir gohebiaeth ganddo sy'n nodi ei fod yn siomedig yn safon y gwaith yno.[4] Yn 1812 trosglwyddodd i Peterhouse, Caergrawnt lle daeth i'r brig a derbyniodd radd yn 1814 heb orfod sefyll unrhyw arholiad.[8]
Cyfnod heb waith
Bu'n darlithio yn y Royal Institution mewn seryddiaeth yn 1815, ac fe'i etholwyd yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1816.[9] Ond siomedig oedd y blynyddoedd a ddilynodd hynny, a methodd a chael swydd fel athro yn 1816.[10] Yn 1819, ymwelodd Babbage a Herschel â Pharis a chymdeithas Society of Arcueil, gan gyfarfod mathemategwyr a ffisegwyr blaenllaw'r dydd.[11] Y flwyddyn honno, ymgeisiodd am swydd fel athro Prifysgol Caeredin ond heb lwyddiant.[12][13]
Ceisiodd sefydlu cwmni yswiriant, ond heb lwyddiant eto; yn ystod y cyfnod hwn, dibynai'n gyfangwbwl ar daliadau cyson gan ei dad. Gwnaeth ei nyth yn Marylebone, Llundain, a llenwodd hwnnw gyda phlant.[14] Ond yn 1827, bu farw ei dad ac etifeddodd Babbage ystâd enfawr gwerth £100,000, (sy'n gyfwerth a £7.73 miliwn heddiw), gan ei wneud yn ddyn ariannog iawn.[4]
Wedi marwolaeth ei wraig, yn yr un flwyddyn (1827) bu farw'i wraig a chymerodd y goes, gan deithio'r Eidal, tra chyflogai nyrsus i warchod ei blant a Herschel i ddatblygu ei syniadau ar y peiriant gwahaniaethu. yn Rhufain, yn Ebrill 1828 clywodd ei fod wedi'i benodi'n Athro ym Mhrifysgol Caergrawnt, ar ei bedwerydd ymgais![15]
Y Gymdeithas Seryddol
Sefydlodd ac arianodd y Gymdeithas Seryddol yn 1820 gyda'r bwriad o leihau cyfrifiadau mathemategol, gan eu gwneud yn fwy hylaw. Enillodd fedal y gymdeithas "for his invention of an engine for calculating mathematical and astronomical tables". Pwrpas creu peiriant gwahaniaethu, meddai Babbage, oedd ymgais i wella'r The Nautical Almanac.[16]
Gyda'i gyfaill Thomas Frederick Colby, ymchwiliodd i'r posibilrwydd o greu system bost drwy Brydain, a dyfeisiodd system a alwyd yn Uniform Fourpenny Post a Uniform Penny Post[17] yn 1839 a 1840.
Ada Lovelace
Bu Ada Lovelace yn gohebu gyda Babbage am beth amser, tra chynlluniodd y peiriant gwahaniaethu. Gwelir yn ei nodiadau hi yr hyn a gaiff ei ystyried i fod yr algorithm cyntaf i gael ei weithredu gan beiriant. Oherwydd hyn, ystyrir hi'r 'rhaglenydd' meddalwedd cyntaf.[18][19]
Disgynyddion
Cafodd Charles a Georgiana Babbage wyth o blant,[20] ond 4 yn unig a fu fyw'n oedolion – Benjamin Herschel Babbage, Georgiana Whitmore, Dugald Bromhead Babbage a Henry Prevost.
- Benjamin Herschel Babbage (1815-1878)
- Charles Whitmore Babbage (1817-1827)
- Georgiana Whitmore Babbage (1818-??)
- Edward Stewart Babbage (1819-1821)
- Francis Moore Babbage (1821-??)
- Dugald Bromhead (Bromheald?) Babbage (1823-1901)
- (Maj-Gen) Henry Prevost Babbage (1824–1918)
- Alexander Forbes Babbage (1827–1827)