Charles Edward Breese

gwleidydd (1867-1932)

Roedd yr Uwchgapten Charles Edward Breese (26 Mawrth 186715 Awst 1932) yn gyfreithiwr, yn hynafiaethydd ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaeth Sir Gaernarfon o 1918 i 1922[1]

Charles Edward Breese
Ganwyd1867 Edit this on Wikidata
Porthmadog Edit this on Wikidata
Bu farw15 Awst 1932 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Cefndir

Ganwyd Breese ym Mhorthmadog yn fab i'r hynafiaethydd Edward Breese a Margaret Jane Williams ei wraig.

Bu ei ewyrth David Williams, Castell Deudraeth a'i gefnder Osmond Williams yn Aelodau Seneddol Rhyddfrydol Sir Feirionydd a bu ei dad yn drefnydd y Rhyddfrydwyr ym Meirion a Chaernarfon.

Ar 1 Chwefror, 1894 priododd Janet, merch y Parchedig Paul Methuen Stedman;[2] bu iddynt un ferch.

Gyrfa

Cymhwysodd Breese yn gyfreithiwr ym 1889 ac, fel Lloyd George, aeth i weithio fel cyfreithiwr yng nghwmni ei dad Breese, Jones a Casson ym Mhorthmadog, newidiwyd enw’r cwmni i Charles Breese & Co.

Gwasanaethodd Breese fel Capten ar Gorfflu o Wirfoddolwyr cyn y Rhyfel Byd Cyntaf pan dorrodd y rhyfel galwyd ar y gwirfoddolwyr i wasanaethu yn y theatr Ewropeaidd; cafodd ei ddyrchafu yn uwchgapten.

Hynafiaethau

Fel ei dad, roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hynafiaethau, archaeoleg a herodraeth. Roedd yn gadeirydd pwyllgor gwaith Cymdeithas Hynafiaethau Cymru ac roedd yn un o'i is-lywyddion ym 1930. Ym 1908 fe fu Breese a'r Athro Anwyl o Brifysgol Aberystwyth yn gyfrifol am ganfod olion Rhufeinig o gryn ddiddordeb ar dir y Glaslyn Porthmadog.[3]

Roedd Breese hefyd yn Saer Rydd brwdfrydig a wasanaethodd fel ysgrifennydd cyfrinfa Gogledd Cymru o'r urdd.[4]

Gyrfa wleidyddol

Bu tri dyn yn ceisio am enwebiad y Blaid Ryddfrydol yn Sir Gaernarfon ar gyfer etholiad 1918 Breese, Ellis William Davies, cyn AS Eifion (etholaeth a chafodd ei ddiddymu ar gyfer yr etholiad) a Robert Thomas Jones arweinydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Dewiswyd Breese fel yr ymgeisydd ond pan alwyd yr etholiad safodd y tri; Breese fel Rhyddfrydwr swyddogol gyda thocyn y glymblaid, Davies fel Rhyddfrydwr Annibynnol a Jones fel Llafur Annibynnol etholwyd Breese yn weddol gyffyrddus.[5]

Etholiad cyffredinol 1918

Nifer yr etholwyr 36,460

PlaidYmgeisyddPleidleisiau%±%
RhyddfrydolCharles Edward Breese10,48844.5
Llafur AnnibynnolRobert Thomas Jones8,14534.6
Rhyddfrydwr AnnibynnolEllis William Davies4,93720.9
Mwyafrif2,3439.9
Y nifer a bleidleisiodd64.6
Rhyddfrydol yn cadwGogwydd

Ym 1921 cafodd Breese ei benodi gan y Gweinidog Pensiynau, Ian Macpherson, i wasanaethu ar y Pwyllgor Ymgynghorol ar Bensiynau i benderfynu ar y dyfarniadau terfynol oedd i'w derbyn gan ymgeiswyr oedd yn ceisio tal dan Ddeddf Pensiynau Rhyfel, 1921. Ym 1922 fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i HAL Fisher Llywydd y Bwrdd Addysg.

Yn etholiad cyffredinol 1922 safodd Breese yn Sir Gaernarfon fel Rhyddfrydwr Cenedlaethol. Oherwydd cytundeb rhwng y Rhyddfrydwyr Cenedlaethol a'r Ceidwadwyr doedd dim ymgeisydd Torïaidd, ond fe safodd R T Jones eto fel ymgeisydd y Blaid Lafur gan gipio'r sedd oddi wrth Breese. Ni safodd ar gyfer y Senedd eto.

Bu Breese yn gwasanaethu ar Gyngor Sir Gaernarfon ac fe'i gwnaed yn Henadur y sir. Roedd hefyd yn gwasanaethu fel ysgrifennydd Cyngor Rhyddfrydol Cenedlaethol Cymru.

Marwolaeth

Bu farw Breese yn sydyn o drawiad ar y galon wrth hela grugieir ar fynydd yr Arenig Fawr ger y Bala[6] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Penrhyndeudraeth[7].

Cyfeiriadau

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol Sir Gaernarfon
19181922
Olynydd:
Robert Thomas Jones