Crëyr

teulu o adar
Crehyrod
Amrediad amseryddol:
Paleosen-Presennol,
55–0 Miliwn o fl. CP
Crëyr glas ym Mhorthmadog, Gwynedd; 2021.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Aves
Is-ddosbarth:Neornithes
Inffradosbarth:Neognathae
Uwchurdd:Neoaves
Urdd:Pelecaniformes
Teulu:Ardeidae
Leach, 1820
Dosbarthiad y Crehyrod
Cyfystyron

Cochlearidae

Grŵp a theulu o adar dyfrol ydy'r Crehyrod (enw gwyddonol neu Ladin: Ardeidae).[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Pelecaniformes.[2][3]

Mae coesau aelodau'r teulu hwn o adar yn fain ac yn hir iawn. Gallant fyw ar arfordiroedd morol neu lynnoedd a phyllau o ddŵr croyw. Ceir 64 rhywogaeth. Gallant hefyd ymddangos yn hynod o debyg i nifer o deuluoedd eraill e.e. y Ciconiad a'r Ibisiaid, y Llwybig a'r Garannod, ond tra'n hedfan, ceir cryn gwahaniaeth rhyngddynt gan fod eu gyddfau wedi'u tynnu yn ôl, a'r lleill yn syth ymlaen. Mae rhai rhywogaethau'n byw mewn coed ac eraill mewn corsydd o frwyn.

Rhestr Wicidata:

teuluenw tacsondelwedd
Crëyr agamiAgamia agami
Crëyr capanogPilherodius pileatus
Crëyr chwibanogSyrigma sibilatrix
Crëyr gylfinbraffCochlearius cochlearius
Crëyr pyllau IndiaArdeola grayii
Crëyr pyllau JafaArdeola speciosa
Crëyr rhesog cribwynTigriornis leucolopha
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: