Cwpan Tsieina

Pencampwriaeth pêl-droed, China Cup

Mae Cwpan Tsieina neu China Cup International Football Championship (Tsieineeg: 中国杯国际足球锦标赛) yn dwrnament pêl-droed a drefnir yn Tsieina gan Gymdeithas Bêl-droed Tsieina a'r Wanda Group.[1]

Cwpan Tsieina
Founded2017
RegionRyngwladol
Number of teams4
Current champions Wrwgwái (teitl 1af)
Most successful team(s) Chile
 Wrwgwái
(1 teitl yr un)
WebsiteChina-Cup.com.cn
2018 China Cup

Sefydlwyd y bencampwriaeth yn 2017 ar sail twrnament dileu-sengl rhwng pedwar tîm cenedlaethol. Cynhaliwyd rhan gyntaf y bencampwriaeth yng Nghanolfan Chwaraeon Guangxi yn ninas Nanning sydd tua 2000 km o ddinas Shanghai, rhwng 10 - 15 Ionawr 2017. Roedd 4 tîm yn cystadlu, GP Tsieina, Gwlad yr Iâ, Chile a Croasia. Chile fu'n fuddugol. Cyhoeddwyd y bydd cyfrolau nesaf y twrnament yn cynnwys wyth tîm cenedlaethol yn y dyfodol.[1].

Cymerodd tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ran yn y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 2018. Talwyd £1m i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am gymryd rhan yn y digwyddiad dim ond ar yr amod bod y seren pêl-droed, Gareth Bale yn chwarae.[2]. Y timau eraill i gystadlu oedd tîm cenedlaethol GP Tsieina, Wrwgwái a'r Weriniaeth Tsiec.

Yn ei gêm ar yn Nanning ar 22 Mawrth 2018, curodd Gymru tîm Tsieina 0-6. Collodd Cymru y gêm derfynol ar 26 Mawrth 2018 yn erbyn Wrwgwái o 0-1. Sgoriodd Bale hatric gan guro record Ian Rush o ran sgorio mwyaf o goliau i'w wlad.

Pencampwriaethau

BlwyddynCynhalwyrEnillyddAil SafleTrydydd SaflePedwerydd Safle
2017
Details
Nanning
Chile

Gwlad yr Iâ

China PR

Croasia
2018
Details
Nanning
Wrwgwái

Cymru

Y Weriniaeth Tsiec

China PR

Gweler hefyd

  • Four Nations Tournament (China)

Cyfeiriadau

Dolenni