Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru

Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru (Saesneg: Wales national football team) yw'r tîm sy'n cynrychioli Cymru mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Cymru
Shirt badge/Association crest
Conffederasiwn UEFA (Ewrop)
Hyfforddwr Robert Page[a]
Capten Aaron Ramsey
Mwyaf o Gapiau Gareth Bale (111)
Prif sgoriwr Gareth Bale (41)
Cod FIFA WAL
Safle FIFA 24 (24 Hydref 2019)[4]
Safle FIFA uchaf 8 (Hydref 2015)
Safle FIFA isaf 117 (Awst 2011)
Safle Elo 30 (18 Hydref 2019) [5]
Safle Elo uchaf 3 (1876~1885)
Safle Elo isaf 88 (Mawrth 2011)
Lliwiau Cartref
Lliwiau
Oddi Cartref
Gêm ryngwladol gynaf
 yr Alban 4–0  Cymru
(Glasgow; 26 Mawrth 1876)
Y fuddugoliaeth fwyaf
 Cymru 11–0  Iwerddon
(Wrecsam; 3 Mawrth 1888)
Colled fwyaf
 yr Alban 9–0  Cymru
(Glasgow; 23 Mawrth 1878)
Cwpan FIFA y Byd
Ymddangosiadau 2 (Cyntaf yn 1958)
Canlyniad gorau Rownd Go-gynderfynol, 1958
Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop
Ymddangosiadau 2 (Cyntaf yn 2016)
Canlyniad gorau Rownd Gyn-derfynol, 2016
Gwefan faw.cymru/cy/


Cymru yn erbyn Gwlad Belg, Stadiwm Dinas Caerdydd, 12 Mehefin 2015

Tîm Cymru yw'r trydydd hynaf o holl dimau pêl-droed cenedlaethol y byd. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn yr Alban ar 25 Mawrth 1876 yn Glasgow. Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru ar y Cae Ras, Wrecsam ar 5 Mawrth 1877, eto yn erbyn yr Alban.

Mae Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol prif bencampwriaethau'r byd pêl-droed ddwywaith, sef Cwpan y Byd Pêl-droed 1958 a phencampwriaeth Ewro 2016. Llwyddodd Cymru hefyd i gyrraedd rownd yr wyth olaf o Bencampwriaethau Ewrop 1976, sef y flwyddyn olaf y cafodd y gystadleuaeth honno ei chynnal dros ddau gymal. Yn 2022, curodd Cymru dîm Wcráin, gan gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, cyfnod o 64 o flynyddoedd.

Yn Ebrill 2013, agorodd Parc y Ddraig, Canolfan Datblygu Pêl-droed Cenedlaethol Cymru, yng Nghasnewydd.

Hanes

Y Blynyddoedd Cynnar

Chwaraeodd Cymru ei gêm gystadleuol gyntaf ar 25 Mawrth 1876 yn erbyn yr Alban yn Glasgow gan ei gwneud y trydydd tîm pêl-droed rhyngwladol hyna'n y byd. Yr Alban enillodd y gêm gyntaf 4-0. Trefnwyd gêm gyfatebol yng Nghymru y flwyddyn ganlynol ac felly y cafwyd y gêm bêl-droed ryngwladol gyntaf ar dir Cymru, ar Gae Ras Wrecsam ar 5 Mawrth 1882. Enillodd yr Alban eto, 2-0 y tro hwn. Roedd y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr yn 1879 pan welwyd Cymru'n colli 2-1 yn Kennington Oval, Llundain ac yn 1882 wynebodd Cymru Iwerddon am y tro cyntaf gan ennill 7-1 yn Wrecsam.

Cyfarfu cynrychiolwyr y pedair gwlad ym Manceinion ar 6 Ragfyr 1882 i greu rheolau a thrwy hyn sefydlwyd Bwrdd y Cymdeithasau Pêl-droed Rhyngwladol. Yn 1883-84 ffurfiwyd Pencampwriaeth Cartref Prydain, twrnameint a chwaraewyd yn flynyddol rhwng Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Chymru hyd 1983-84. Bu Cymru'n bencampwr 12 gwaith.

Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2014

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp A ar gyfer gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ynghyd â Croatia, Serbia, Gwlad Belg, yr Alban a Macedonia. Ni lwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd, gan orffen yn bumed yn y grŵp rhagbrofol.

Gemau Rhagbrofol Ewro 2016

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp B ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2016 ynghyd ag Andorra, Gwlad Belg, Bosnia-Hertsegofina, Cyprus ac Israel. Ar 10 Hydref 2015, er colli yn erbyn Bosnia-Hertsegofina, llwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016, gan fod Cyprus wedi curo Israel. Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol ers Cwpan y Byd Pêl-droed 1958.[6] Gorffennodd Cymru yn ail yn y grŵp ar ôl curo Andorra o 2-0 yng Nghaerdydd ar 13 Hydref 2015.[7]

TîmChECyfCollDrosY/e+/-P
 Gwlad Belg10721245+1923
 Cymru10631114+721
 Bosnia-Hertsegofina105231712+517
 Israel104151614+213
 Cyprus104061617-112
 Andorra100010436-320
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2016
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle

Rowndiau Terfynol Ewro 2016

Ar 12 Rhagfyr 2015, tynnwyd enwau y timau i chwarae yn rowndiau terfynol Ewro 2016. Gosodwyd Cymru yng ngrŵp B, ynghyd â Lloegr, Rwsia a Slofacia.[8]

Ar 20 Mehefin 2016, llwyddodd Cymru i ennill Grŵp B, a chyrraedd rownd yr 16 olaf yng nghystadleuaeth Ewro 2016 wedi iddynt guro Rwsia o dair gôl i ddim.[9]

TîmChECyfCollDrosY/E+/-P
 Cymru320163+36
 Lloegr312032+15
 Slofacia31113304
 Rwsia301226-41
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i'r 16 olaf
Posibilrwydd o gyrraedd yr 16 olaf (os yn un o'r pedwar tîm trydydd safle gorau)
Ar ôl cyrraedd rownd gyn-derfynol pencampwriaeth UEFA Euro 2016, dychwelodd Tîm Pêl-droed Cymru i Gymru gan fynd ar daith bws agored drwy ganol dinas Caerdydd.

Ar 22 Mehefin, cyhoeddwyd y byddai Cymru yn wynebu Gogledd Iwerddon ym Mharis ar 25 Mehefin 2016 yn rownd yr 16 olaf. Enillodd Cymru y gêm 1-0, gan sicrhau eu lle yn y rownd go-gynderfynol.[10] Enillodd Cymru'r rownd honno o 3-1 yn erbyn Gwlad Belg[11], gan sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol cystadleuaeth bêl-droed ryngwladol am y tro cyntaf erioed. Portiwgal oedd gwrthwynebwyr Cymru yn y rownd gynderfynol. Nid oedd Ben Davies nac Aaron Ramsey yn gallu chwarae oherwydd gwaharddiad, wedi iddynt dderbyn dau gerdyn melyn yr un yn ystod y gystadleuaeth. Cafwyd gêm agos, ond colli 2-0 fu hanes Cymru, gan roi terfyn ar y freuddwyd o gyrraedd y rownd derfynol.[12]

Dychwelodd carfan Cymru a'r tîm hyfforddi i Gymru ar 8 Gorffennaf 2016. Ar ôl glanio ym Maes Awyr Caerdydd, teithiodd y garfan i Gastell Caerdydd, lle roedd torfeydd o filoedd yn aros i'w croesawu. Teithiodd y chwaraewyr ar fws to agored drwy ganol y brifddinas, gan orffen yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle cynhaliwyd cyngerdd gan amrywiol artistiaid, gan gynnwys y Manic Street Preachers a Kizzy Crawford.[13]

Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2018

Yn dilyn eu llwyddiant yng Ngemau Rhagbrofol Ewro 2016, gosodwyd Cymru ymhlith y deg tîm gorau yn y Byd yn rhestr safleoedd FIFA am y tro cyntaf erioed ym mis Gorffennaf 2015. Golygodd hynny fod Cymru ymhlith y detholion uchaf ar gyfer dewis y grwpiau ar gyfer Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2018. Fe dynnwyd enwau'r timau ar 25 Gorffennaf 2015 yn St Petersburg, Rwsia. Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp D ynghyd ag Awstria, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon, Moldofa a Georgia.[14]

TîmChECyfCollDrosY/E+/-P
 Serbia106312010+1021
 Iwerddon10541126+619
 Cymru10451136+717
 Awstria104331412+215
 Georgia10055814-65
 Moldofa10028423-192
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i brif gemau Cwpan y Byd Pêl-droed 2018
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle

Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2018-19

Fe osodwyd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yng Ngrŵp 4, Cynghrair B y gystadleuaeth gychwynnol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yn 2018-19. Ynghyd ag Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc.[15]

TîmChECyfCollDrosY/E+/-P
 Denmarc422041+38
 Cymru420265+16
 Iwerddon402215-42
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Dyrchafiad i Gynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd UEFA
Gostwng i Gynghrair C Cynghrair y Cenhedloedd UEFA

Gemau Rhagbrofol Ewro 2020

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp E ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2020 ynghyd ag Aserbaijan, Croatia, Hwngari a Slofacia. Fe fydd y ddau dîm fydd ar frîg y tabl ar ddiwedd y rowndiau rhagbrofol yn symud yn uniongyrchol i rowndiau terfynol Ewro 2020.

TîmChECyfCollDrosY/e+/-P
 Croasia8521177+1017
 Cymru8422106+414
 Slofacia84131311+213
 Hwngari8404811-312
 Aserbaijan8017518-131

Cywir ar 19 Tachwedd 2019

Allwedd i liwiau'r tabl
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2020

Canlyniadau Diweddar a Gornestau'r Dyfodol

DyddiadCystadleuaethCanlyniad
15 Hydref 2013Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014  Gwlad Belg1 - 1  Cymru
16 Tachwedd 2013Cyfeillgar  Cymru1 - 1  Y Ffindir
5 Mawrth 2014Cyfeillgar  Cymru3 - 1  Gwlad yr Iâ
4 Mehefin 2014Cyfeillgar  Yr Iseldiroedd2 - 0  Cymru
9 Medi 2014Rhagbrofol Ewro 2016  Andorra1 - 2  Cymru
10 Hydref 2014Rhagbrofol Ewro 2016  Cymru0 - 0  Bosnia-Hertsegofina
13 Hydref 2014Rhagbrofol Ewro 2016  Cymru2 - 1  Cyprus
16 Tachwedd 2014Rhagbrofol Ewro 2016  Gwlad Belg0 - 0  Cymru
28 Mawrth 2015Rhagbrofol Ewro 2016  Israel0 - 3  Cymru
12 Mehefin 2015Rhagbrofol Ewro 2016  Cymru1 - 0  Gwlad Belg
3 Medi 2015Rhagbrofol Ewro 2016  Cyprus0 - 1  Cymru
6 Medi 2015Rhagbrofol Ewro 2016  Cymru0 - 0  Israel
10 Hydref 2015Rhagbrofol Ewro 2016  Bosnia-Hertsegofina2 - 0  Cymru
13 Hydref 2015Rhagbrofol Ewro 2016  Cymru2 - 0  Andorra
13 Tachwedd 2015Cyfeillgar  Cymru2 - 3  Yr Iseldiroedd
24 Mawrth 2016Cyfeillgar  Cymru1 - 1  Gogledd Iwerddon
28 Mawrth 2016Cyfeillgar  Wcrain1 - 0  Cymru
5 Mehefin 2016Cyfeillgar  Sweden3 - 0  Cymru
11 Mehefin 2016Ewro 2016  Cymru2 - 1  Slofacia
16 Mehefin 2016Ewro 2016  Lloegr2 - 1  Cymru
20 Mehefin 2016Ewro 2016  Rwsia0 - 3  Cymru
25 Mehefin 2016Ewro 2016 (Rownd yr 16 Olaf)  Cymru1 - 0  Gogledd Iwerddon
1 Gorffennaf 2016Ewro 2016 (Rownd Gogynderfynol)  Cymru3 - 1  Gwlad Belg
6 Gorffennaf 2016Ewro 2016 (Rownd Gynderfynol)  Portiwgal2 - 0  Cymru
5 Medi 2016Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018  Cymru4 - 0  Moldofa
6 Hydref 2016Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018  Awstria2 - 2  Cymru
9 Hydref 2016Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018  Cymru1 - 1  Georgia
12 Tachwedd 2016Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018  Cymru1 - 1  Serbia
24 Mawrth 2017Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018  Iwerddon0 - 0  Cymru
11 Mehefin 2017Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018  Serbia1 - 1  Cymru
2 Medi 2017Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018  Cymru1 - 0  Awstria
5 Medi 2017Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018  Moldofa0 - 2  Cymru
6 Hydref 2017Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018  Georgia0 - 1  Cymru
9 Hydref 2017Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018  Cymru0 - 1  Iwerddon
10 Tachwedd 2017Cyfeillgar  Ffrainc2 - 0  Cymru
14 Tachwedd 2017Cyfeillgar  Cymru1 - 1  Panama
22 Mawrth 2018Cwpan Tsiena 2018  Gweriniaeth Pobl Tsieina0 - 6  Cymru
26 Mawrth 2018Cwpan Tsiena 2018  Wrwgwái1 - 0  Cymru
29 Mai 2018Cyfeillgar  Mecsico0 - 0  Cymru
6 Medi 2018Cynghrair y Cenhedloedd UEFA  Cymru4 - 1  Iwerddon
9 Medi 2018Cynghrair y Cenhedloedd UEFA  Denmarc2 - 0  Cymru
11 Hydref 2018Cyfeillgar  Cymru1 - 4  Sbaen
16 Hydref 2018Cynghrair y Cenhedloedd UEFA  Iwerddon0 - 1  Cymru
16 Tachwedd 2018Cynghrair y Cenhedloedd UEFA  Cymru1 - 2  Denmarc
20 Tachwedd 2018Cyfeillgar  Albania1 - 0  Cymru
20 Mawrth 2019Cyfeillgar  Cymru1 - 0  Trinidad a Thobago
24 Mawrth 2019Rhagbrofol Ewro 2020  Cymru1 - 0  Slofacia
8 Mehefin 2019Rhagbrofol Ewro 2020  Croasia2 - 1  Cymru
11 Mehefin 2019Rhagbrofol Ewro 2020  Hwngari1 - 0  Cymru
6 Medi 2019Rhagbrofol Ewro 2020  Cymru2 - 1  Aserbaijan
10 Medi 2019Cyfeillgar  Cymru1 - 0  Belarws
10 Hydref 2019Rhagbrofol Ewro 2020  Slofacia1 - 1  Cymru
13 Hydref 2019Rhagbrofol Ewro 2020  Cymru1 - 1  Croasia
16 Tachwedd 2019Rhagbrofol Ewro 2020  Aserbaijan0 - 2  Cymru
19 Tachwedd 2019Rhagbrofol Ewro 2020  Cymru2 - 0  Hwngari

Chwaraewyr

Carfan ddiweddaraf

Enwodd Rob Page y tîm 26-dyn ar y gêmau yn erbyn De Corea a Latfia ym mis Medi 2023.

Capiau a goliau yn dilyn 3 Medi 2023

0#0SafleChwaraewrDyddiad geni (oed)CapiauGoliauClybiau
1GWayne Hennessey (1987-01-24) 24 Ionawr 1987 (37 oed)1080 Nottingham Forest
1GDanny Ward (1993-06-22) 22 Mehefin 1993 (30 oed)320 Leicester City
1GAdam Davies (1992-07-17) 17 Gorffennaf 1992 (31 oed)40 Sheffield United
1GTom King (1995-03-09) 9 Mawrth 1995 (29 oed)00 Wolverhampton Wanderers
2AMBen Davies (1993-04-24) 24 Ebrill 1993 (30 oed)781 Tottenham Hotspur
2AMConnor Roberts (1995-09-23) 23 Medi 1995 (28 oed)483 Burnley
2AMChris Mepham (1997-11-05) 5 Tachwedd 1997 (26 oed)400 Bournemouth
2AMJoe Rodon (1997-10-22) 22 Hydref 1997 (26 oed)370 Leeds United
2AMNeco Williams (2001-04-13) 13 Ebrill 2001 (23 oed)302 Nottingham Forest
2AMTom Lockyer (1994-12-03) 3 Rhagfyr 1994 (29 oed)140 Luton Town
2AMBen Cabango (2000-05-30) 30 Mai 2000 (23 oed)70 Dinas Abertawe
2AMMorgan Fox (1993-09-21) 21 Medi 1993 (30 oed)00 Queens Park Rangers
3CCAaron Ramsey (capten) (1990-12-26) 26 Rhagfyr 1990 (33 oed)8220 Dinas Caerdydd
3CCHarry Wilson (1997-03-22) 22 Mawrth 1997 (27 oed)466 Fulham
3CCEthan Ampadu (2000-09-14) 14 Medi 2000 (23 oed)440 Leeds United
3CCJoe Morrell (1997-01-03) 3 Ionawr 1997 (27 oed)360 Portsmouth
3CCDavid Brooks (1997-07-08) 8 Gorffennaf 1997 (26 oed)222 Bournemouth
3CCWes Burns (1994-11-23) 23 Tachwedd 1994 (29 oed)40 Ipswich Town
3CCJosh Sheehan (1995-03-30) 30 Mawrth 1995 (29 oed)30 Bolton Wanderers
3CCJordan James (2004-07-02) 2 Gorffennaf 2004 (19 oed)20 Birmingham City
4YMKieffer Moore (1992-08-08) 8 Awst 1992 (31 oed)3410 Bournemouth
4YMBrennan Johnson (2001-05-23) 23 Mai 2001 (22 oed)202 Tottenham Hotspur
4YMRabbi Matondo (2000-09-09) 9 Medi 2000 (23 oed)11 Rangers
4YMTom Bradshaw (1992-07-27) 27 Gorffennaf 1992 (31 oed)60 Millwall
4YMNathan Broadhead (1998-04-05) 5 Ebrill 1998 (26 oed)41 Ipswich Town F.C.
4YMLiam Cullen (1999-04-03) 3 Ebrill 1999 (25 oed)00 Dinas Abertawe

Chwaraewyr eraill a alwyd i'r garfan yn ddiweddar

0#0SafleChwaraewrDyddiad geni (oed)CapiauGoliauClybiau
2AMAdam Henley (1994-06-14) 14 Mehefin 1994 (29 oed)20 Blackburn Rovers
2AMAdam Matthews (1992-01-13) 13 Ionawr 1992 (32 oed)130 Sunderland
2AMMorgan Fox (1993-09-21) 21 Medi 1993 (30 oed)00 Charlton Athletic
2AMSam Ricketts (1981-10-11) 11 Hydref 1981 (42 oed)520 Coventry City
2AMJames Lawrence (1992-08-22) 22 Awst 1992 (31 oed)30 Anderlecht
2AMPaul Dummett (1991-09-26) 26 Medi 1991 (32 oed)50 Newcastle United
2AMDeclan John (1995-06-30) 30 Mehefin 1995 (28 oed)70 Dinas Abertawe
2AMJazz Richards (1991-04-12) 12 Ebrill 1991 (33 oed)140 Dinas Caerdydd
2AMJames Chester (1989-01-23) 23 Ionawr 1989 (35 oed)340 Aston Villa F.C.
32AMNeil Taylor (1989-02-07) 7 Chwefror 1989 (35 oed)391 Aston Villa
62AMJoe Walsh (1989-05-13) 13 Mai 1989 (34 oed)00 MK Dons
143CCDavid Edwards (1986-02-03) 3 Chwefror 1986 (38 oed)383 Wolverhampton Wanderers
3CCEmyr Huws (1993-09-30) 30 Medi 1993 (30 oed)91 Dinas Caerdydd
163CCJoe Ledley (1987-01-23) 23 Ionawr 1987 (37 oed)724 Crystal Palace
83CCAndy King (1988-10-29) 29 Hydref 1988 (35 oed)492 Caerlyr
3CCDavid Brooks (1997-07-08) 8 Gorffennaf 1997 (26 oed)100 Bournemouth
3CCShaun MacDonald (1988-06-17) 17 Mehefin 1988 (35 oed)40 Wigan Athletic
3CCLloyd Isgrove (1993-12-01) 1 Rhagfyr 1993 (30 oed)10 Barnsley
223CCDavid Vaughan (1983-02-18) 18 Chwefror 1983 (41 oed)431 Nottingham Forest
3CCJordan Williams (1995-11-06) 6 Tachwedd 1995 (28 oed)00 Swindon Town
4YMTom Bradshaw (1992-07-27) 27 Gorffennaf 1992 (31 oed)10 Walsall
4YMWes Burns (1994-11-23) 23 Tachwedd 1994 (29 oed)00 Fleetwood Town
234YMSimon Church (1988-12-10) 10 Rhagfyr 1988 (35 oed)383 MK Dons
173CCDavid Cotterill (1987-12-04) 4 Rhagfyr 1987 (36 oed)232 Birmingham City
94YMHal Robson-Kanu (1989-05-21) 21 Mai 1989 (34 oed)404 West Bromwich Albion
4YMTom Lawrence (1994-01-13) 13 Ionawr 1994 (30 oed)173 Derby County
4YMSam Vokes (1989-10-21) 21 Hydref 1989 (34 oed)6011 Burnley F.C.
134YMGeorge Williams (1995-09-07) 7 Medi 1995 (28 oed)70 MK Dons
203CCJonathan Williams (1993-10-09) 9 Hydref 1993 (30 oed)170 Crystal Palace

Prif sgorwyr

Cywir ar 19 Tachwedd 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n dal i chwarae mewn print trwm):

#EnwGoliauCapiauCyfartaledd
1Gareth Bale33830.4
2Ian Rush28730.38
3Trevor Ford23380.61
Ivor Allchurch23680.34
5Dean Saunders22750.29
6Craig Bellamy19780.24
7Robert Earnshaw16590.27
Cliff Jones16590.27
Mark Hughes16720.22
Aaron Ramsey16600.27


Mwyaf o Gapiau

Cywir ar 19 Tachwedd 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):

#NameFirst/Latest CapCapsGoals
1Chris Gunter2007–960
2Neville Southall1982–1997920
3Wayne Hennessey2007–890
4Ashley Williams2007–862
5Gary Speed1990–2004857
6Gareth Bale2006–8333
7Craig Bellamy1998–20137819
8Joe Ledley2007–774
9Dean Saunders1986–20017522
10Peter Nicholas1979–1991732
Ian Rush1980–19967328

Chwaraewyr Eraill gyda 50 neu fwy o gapiau

Cywir ar 19 Tachwedd 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):

Rheolwyr

Rhestrir rheolwyr dros dro yn italig.

Cyn 1954 roedd tîm Cymru yn cael ei ddewis gan banel o ddewiswyr, gyda'r capten yn chwarae rôl hyforddwr.

Nodiadau

Gweler hefyd

  • Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 21 Cymru
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 20 Cymru
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 19 Cymru
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 18 Cymru
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 17 Cymru
  • Tîm futsal cenedlaethol Cymru

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.