Gareth Bale

pêl-droediwr Cymreig

Cyn bêl-droediwr proffesiynol o Gymro yw Gareth Frank Bale (ganwyd 16 Gorffennaf 1989). Fe'i ystyrir yn un o asgellwyr gorau ei genhedlaeth ac un o'r chwaraewyr Cymreig gorau erioed.[1][2][3][4][5]

Gareth Bale
MBE

Bale gyda tim Cymru yng Nghwpan y Byd Pêl-droed 2022
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni (1989-07-16) 16 Gorffennaf 1989 (34 oed)
Man geniCaerdydd
Taldra1.86
SafleAsgellwr
Gyrfa Ieuenctid
Gwasanaeth Sifil Caerdydd
1999–2006Southampton
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2006–2007Southampton40(5)
2007–2013Tottenham Hotspur146(42)
2013–2022Real Madrid176(81)
2020–2021Tottenham Hotspur (ar fenthyg)20(11)
2022Los Angeles FC12(2)
Cyfanswm394(141)
Tîm Cenedlaethol
2005–2006Cymru dan 177(1)
2006Cymru dan 191(1)
2006–2008Cymru dan 214(2)
2006–2022Cymru111(41)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Gyrfa clwb

Southampton

Dechreuodd Bale ei yrfa broffesiynol gyda Southampton fel cefnwr chwith ac ar 17 Ebrill 2006, daeth yr ail ieuengaf erioed i chwarae dros y clwb wrth wneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Millwall pan yn 16 mlwydd a 275 diwrnod oed. Ar 6 Awst sgoriodd Bale ei gôl gynghrair gyntaf i'r clwb yn erbyn Derby County.[6]

Tottenham Hotspur

Symudodd i Tottenham Hotspur yn 2007 am ffi o £7 miliwn. Yn ystod ei gyfnod gyda Spurs, cafodd ei ddefnyddio'n fwy fwy fel chwaraewr ymosodol gan symud i chwarae yng nghanol y cae.Cafodd ei urddo'n Chwaraewr y Flwyddyn gan y PFA yn 2011 ac yn 2013 enillodd Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y PFA, Chwaraewr y Flwyddyn y PFA a Chwaraewr y Flwyddyn yr FAW. Cafodd ei gynnwys yn Nhîm y Flwyddyn UEFA yn 2011 a 2013.

Real Madrid

Ar 1 Medi 2013, ymunodd â Real Madrid yn Sbaen am ffi na chafodd ei ddatgelu. Yn ôl adroddiadau yn y wasg yn Sbaen ac ar orsaf deledu Real Madrid TV, roedd y ffi yn £77 miliwn (€91 miliwn), tra bo'r wasg ym Mhrydain yn awgrymu bod y ffi yn record byd newydd o £85.3 miliwn (€100 miliwn).[7]

Ar 16 Ebrill, sgoriodd Bale y gôl fuddugol wrth i Real Madrid drechu Barcelona yn rownd derfynol y Copa del Rey.[8] Hon oedd 20fed gôl y tymor i Bale, a'r gyntaf mewn gornest El Clásico.[9]

Ar 24 Mai 2014, sgoriodd Bale ei ail gôl yn erbyn Atlético Madrid yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn y 110fed munud o amser ychwanegol - ef yw'r Cymro cyntaf i sgorio yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Gorffennodd ei dymor cyntaf gyda Real Madrid gyda 22 gôl a 16 cynorthwy ym mhob cystadleuaeth.[10]

Ar 30 Hydref 2016, cadarnhawyd fod Gareth Bale wedi arwyddo cytundeb newydd i barhau i chwarae gyda Real Madrid hyd nes 2022.[11]

Yn ystod ei yrfa gyda Real Madrid helpodd y clwb i ennill Cynghrair y Pencampwyr UEFA bedair gwaith, yn 2014, 2016, 2017 a 2018. Yn nhymor 2016-17, er iddo gael anafiadau, roedd yn rhan o fuddugoliaeth y clwb yn La Liga.

Roedd 2019-2020 yn gyfnod rhwystredig iddo yn y clwb ar ôl gorfod eistedd ar y fainc am gyfnodau hir. Ar 19 Medi 2020, cyhoeddwyd ei fod wedi dychwelyd i glwb Tottenham Hotspur ar fenthyg am flwyddyn.[12]

Gyrfa ryngwladol

Fideo o Gareth Bale yn 2016

Gwnaeth Bale ei ymddangosiad cyntaf i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Trinidad a Tobago ar 27 Mai 2006[13] gan ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros Gymru hyd nes i Harry Wilson dorri'r record yn Nhachwedd 2012.[14]. Roedd Bale yn 16 mlwydd a 315 diwrnod.

Ar 12 Mehefin 2015, sgoriodd Bale unig gôl y gêm ar achlysur ei 50fed cap wrth i Gymru drechu Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd[15].

Ar 11 Mehefin 2016 sgoriodd gôl agoriadol Cymru yn erbyn Slofacia ym Mhencampwriaeth Euro 2016 - y gôl gyntaf erioed gan Gymro ym Mhencampwriaethau Ewrop. Gyda goliau yn erbyn Lloegr a Rwsia llwyddodd Bale i ddod yn brif sgoriwr Cymru ym mhrif bencampwriaethau pêl-droed y byd gan dorri record Ivor Allchurch a rwydodd ddwy gôl yng Nghwpan y Byd 1958 [16][17] Helpodd Gareth Cymru fynd i rownd gyn-derfynol yr Ewros ond collodd Cymru yn erbyn Portiwgal o ddau gôl i ddim.

Ar 22 Mawrth 2018 curodd record Ian Rush am y nifer o goliau a sgoriwyd mewn gemau rhyngwladol, drwy sgorio tair gôl yn erbyn Tsieina, gan ddod a'i gyfanswm goliau i 29.[18]

Enillodd ei ganfed cap dros Gymru ar 13 Tachwedd 2021.[19]

Chwaraeodd ran allweddol yn llwyddiant Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed 2022 am y tro cyntaf ers 1958. Yn Ionawr 2023, cyhoeddodd y byddai'n ymddeol o bêl-droed proffesiynol.[20]

Anrhydeddau

Real Madrid

Gwobrau

Yn 2006, casglodd Bale Wobr Carwyn James BBC Cymru ar gyfer athletwyr ifanc[21]. Enillodd prif Wobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn Rhagfyr 2010[22] ac mae wedi ei enwi'n Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2010, 2011, 2013, 2014, 2015 a 2016.[23][24][25][26].

Bywyd personol

Cafodd Bale ei eni yng Nghaerdydd, Cymru, i'w rieni Frank, gofalwr ysgol, a Debbie, rheolwr gweithrediadau. Mae yn nai i'r cyn-bêl-droediwr, Chris Pike, a oedd yn chwarae i Ddinas Caerdydd. Tra'n tyfu i fyny, ei arwr pêl-droed oedd ei gyd-chwaraewr i Gymru, a seren Manchester United, Ryan Giggs.

Mynychodd Bale Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Roedd yn athletwr brwd ac yn chwarae pêl-droed ochr yn ochr â chapten rygbi Cymru yn y dyfodol, Sam Warburton, rygbi, hoci tra hefyd yn rhagori mewn athletau. [26] Fel bachgen 14-mlwydd-oed, dywedir ei fod yn gallu rhedeg y ras 100 metr mewn 11.4 eiliad. Oherwydd ei sgiliau pêl-droed, roedd yn rhaid i athro AG yr ysgol, Gwyn Morris, ysgrifennu rheolau arbennig oedd yn ei gyfyngu i chwarae pêl-droed un-cyffyrddiad a pheidio â defnyddio ei droed chwith. Tra yn yr Eglwys Newydd, hyfforddwyd Bale yn academi lloeren Southampton yng Nghaerfaddon, er bod peth amheuaeth a fyddai Southampton yn rhoi ysgoloriaeth iddo oherwydd ei daldra.

Er ei fod ar y pryd ddim ond yn 16, bu'n helpu tîm dan 18 yr ysgol i ennill Uwch Gwpan Caerdydd a'r Fro. Gadawodd yr ysgol yn haf 2005 gyda Gradd A mewn Addysg Gorfforol ymhlith ei ganlyniadau TGAU eraill. Yn ei flwyddyn olaf yn yr ysgol, dyfarnwyd iddo wobr yr adran Addysg Gorfforol ar gyfer gwasanaethau i chwaraeon.

Mae Bale yn llwyrymwrthodwr.[27]

Cyfeiriadau