Enghraifft o'r canlynol | rhanbarth |
---|---|
Mae De Schleswig (Daneg:Sydslesvig; Almaeneg: Landesteil Schleswig, Südschleswig, mewn lleferydd llafar yn aml dim ond Schleswig) yn diriogaeth ar benrhyn Jylland sydd bellach yn rhan o'r Almaen ac yn gorwedd rhwng yr Eider yn y de a Fjord Flensburg yn y gogledd.[1] a'r ffin Daneg-Almaeneg. Roedd yn hanesyddol yn rhan o Dugaeth Schleswig. Mae'n rhan o dalaith (Land) Almaenig Schleswig-Holstein. Dyma, yn hanesyddol, oedd rhan ddeuheuol Dugaeth Schleswig.[2] Dinas fwyaf y rhanbarth yw Flensburg ("Flensborg" yn Daneg). Ar yr arfordir gorllewinol mae Nordfriesland, ar yr arfordir dwyreiniol Angeln (Angel) a Schwansen (Svans).
Roedd y tiriogaeth yn perthyn i ddugaeth Sønderjylland Goron Denmarc nes i Prwsia ac Awstria ddatgan rhyfel ar Ddenmarc yn 1864. Roedd Denmarc eisiau rhoi talaith Holsten oedd yn siarad Almaeneg i ffwrdd a gosod y ffin newydd wrth yr afon fechan Ejderen. Daeth canghellor Prwsia Otto von Bismarck i’r casgliad bod hyn yn cyfiawnhau rhyfel, a hyd yn oed ei gyhoeddi’n “ryfel sanctaidd”. Trodd hefyd at Ymerawdwr Awstria, Franz Joseph I, Ymerawdwr Awstria am gymorth. Roedd rhyfel tebyg yn 1848 wedi mynd yn wael i'r Prwsiaid. Gydag arfau modern Prwsia a chymorth yr Awstriaid a'r Cadfridog Moltke, cafodd byddin Denmarc ei dinistrio neu ei gorfodi i encilio afreolus. Yna symudwyd y ffin rhwng Prwsia a Denmarc o'r Elbe i fyny yn Jutland i gilfach Kongeåen.
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, penderfynodd dau refferendwm ar ffin newydd.[3][4] Dychwelodd y rhan ogleddol i Ddenmarc fel Nordslesvig (Gogledd Slesvig). Ond arhosodd y rhan ganol a deheuol, gan gynnwys unig ddinas Schleswig, Flensburg, yn yr hyn a ddaeth yn ddwylo'r Almaen ers uno'r Almaen. Yn Nenmarc, achosodd colli Flensborg argyfwng gwleidyddol, y Påskekrisen neu 'Argyfwng y Pasg', fel y digwyddodd yn ystod Pasg 1920.[5][6]
Parth | o blaid Denmarc | qo blaid yr Almaen | ||
Pleidlais | Caran | Pleidlais | Canran | |
I | 75.431 | 74,9 | 25.329 | 25,1 |
II | 12.800 | 19,8 | 51.742 | 80,2 |
Cyfanswm | 88.231 | 53,4 | 77.071 | 46,6 |
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd arhosodd yr ardal yn diriogaeth yr Almaen a, gyda Holstein, ffurfiodd dalaith Almaenig newydd Schleswig-Holstein fel rhan o Weriniaeth Ffederal yr Almaen (Gorllewin yr Almaen) yn 1948.
Bellach, ceir lleiafrif sy'n siarad Daneg gyda thua 50,000 o aelodau yn byw yn Sydslesvig heddiw. Mae gan y lleiafrif eu hysgolion eu hunain, llyfrgelloedd, eglwysi ac ati. Maent yn siarad ffurf ar wahân o Riksdansk a elwir yn Sydslesvigsk. Mae rhai yn dal i siarad yr hen dafodiaith De Jylland. Mae ganddyn nhw hefyd eu papur newydd eu hunain, Flensborg Avis, ac mae gan dîm pêl fas sy'n chwarae yng nghyfres pêl fas Denmarc gae hyfforddi ar Mikkelberg ger Husum. Cynrychiolir y gymuned Daneg gan Sydslesvigsk Forening a sefydlwyd yn wreiddiol wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ac yna dan ei henw bresennol wedi'r Ail Ryfel Byd.
Yn ogystal â lleiafrif Daneg ei hiaith ceir hefyd iaith (neu dafodiaith) Gogledd Ffrisieg yn y gorllewin.[7] Mae Daneg a Gogledd Ffrisieg yn ieithoedd lleiafrifol swyddogol.
Un nodwedd hynod o'r dalaith yw plaid yw Cymdeithas Pleidleiswyr De Schleswig (Almaeneg: Südschleswigscher Wählerverband; SSW, Daneg: Sydslesvigsk Vælgerforening; SSV) ar gyfer lleiafrif cenedlaethol Daneg a Gogledd Ffrisieg yn Ne Schleswig, nid yw'r SSW yn ddarostyngedig i'r gofyniad cyffredinol o basio trothwy pleidlais o 5% i ennill seddi cymesurol naill ai yn senedd y dalaith (Landtag) na senedd ffederal yr Almaen (Bundestag).[8] Yn etholiad talaith 2022, derbyniodd y SSW 5.7% o'r pleidleisiau a phedair sedd. Yn etholiadau ffederal 2021, safodd y SSW mewn etholiad ffederal am y tro cyntaf ers 1961; rhoddodd y canlyniad terfynol swyddogol un sedd iddynt, gan wneud Stefan Seidler yn Aelod Seneddol, yr aelod cyntaf o'i fath ers etholiadau ffederal 1953.[9]