Ymerodraeth Awstria

Gwladwriaeth amlgenhedlig yng Canolbarth Ewrop a fodolai o 1804 i 1867 oedd Ymerodraeth Awstria (Almaeneg Awstria: Kaiserthum Oesterreich; Almaeneg Modern: Kaisertum Österreich) a oedd yn un o'r pwerau mawrion yng nghyfnod Cytgord Ewrop. Sefydlwyd drwy broclamasiwn ar 11 Awst 1804 gan Ffransis II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a ddatganodd ei hun yn Ffransis I, Ymerawdwr Awstria. Fe'i crëwyd drwy uno tiriogaethau'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd, a pharhaodd Awstria yn un o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig nes 1806 pryd diddymwyd yr ymerodraeth gan Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc. Yn sgil Cynhadledd Fienna (1815), ymunodd Awstria â Chydffederasiwn yr Almaen, ac Awstria a Phrwsia oedd dwy brif aelod-wladwriaeth yr hwnnw. Ymerodraeth Awstria oedd yr ymerodraeth drydedd fwyaf yn Ewrop yn nhermau poblogaeth – ar ôl Ymerodraeth Rwsia a Theyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon – ac yn nhermau arwynebedd, ar ôl Rwsia ac Ymerodraeth Gyntaf Ffrainc.

Ymerodraeth Awstria
Kaisertum Österreich  (Almaeneg)

 

 

1804–1867
BanerArfbais ymerodrol
Anthem
Gott erhalte Franz den Kaiser
"Duw gadwo'r Ymerawdwr Ffransis"
Location of Awstria
Ymerodraeth Awstria in 1815.
Location of Awstria
Tiriogaeth Ymerodraeth Awstria ar ei hanterth (1850au).
PrifddinasFienna
IeithoeddAlmaeneg, Hwngareg, Tsieceg, Slofaceg, Pwyleg, Rwtheneg, Slofeneg, Croateg, Serbeg, Rwmaneg, Lombardeg, Feniseg, Ffriwleg, Ladineg, Eidaleg, Wcreineg
CrefyddYr Eglwys Gatholig Rufeinig
Llywodraeth
Ymerawdwr
 - 1804–35Ffransis I
 - 1835–48Ferdinand I
 - 1848–67Franz Joseph I
Gweinidog-Lywydd
 - 1821–1848Klemens von Metternich (cyntaf)
 - 1867Friedrich Ferdinand von Beust (olaf)
DeddfwrfaY Cyngor Ymerodrol
 - Upper houseTŷ'r Arglwyddi
 - Lower houseTŷ'r Dirprwyon
Cyfnod hanesyddol19eg ganrif
 - Proclamasiwn11 Awst 1804
 - Diddymu'r Ymerodraeth Lân Rufeinig6 Awst 1806
 - Cynhadledd Fienna8 Mehefin 1815
 - Mabwysiadu'r cyfansoddiad20 Hydref 1860
 - Rhyfel Awstria a Phrwsia14 Mehefin 1866
 - Cyfaddawd 186730 Mawrth 1867
Arwynebedd
 - 1804698,700 km² (269,770 sq mi)
Poblogaeth
 - 1804 amcan.21,200,000 
     Dwysedd30.3 /km²  (78.6 /sq mi)
Arian cyfred
  • Thaler (1804–57)
  • Vereinsthaler (1857–67)
1: Tiriogaethau Archddugiaeth Awstria a Choron Bohemia yn unig.

Cydnabuwyd lled-annibyniaeth Teyrnas Hwngari yn Regnum Independens, a chafodd Hwngari ei llywodraethu gan sefydliadau ar wahân. Yn sgil trechu Awstria yn Rhyfel Awstria a Phrwsia (1866), cytunwyd ar gyfaddawd (Almaeneg: Ausgleich, Hwngareg: Kiegyezés) yn 1867 i sefydlu brenhiniaeth ddeuol Awstria-Hwngari.