Dyniaethau

disgyblaethau academaidd sy'n astudio diwylliant dynol

Disgyblaethau academaidd sy'n astudio diwylliant dynol yw'r dyniaethau neu'r pynciau dyneiddiol.[1] Yn yr Oesoedd Canol roedd y dyniaethau yn gyfystyr â'r clasuron, a chafodd ei cyferbynnu â diwinyddiaeth. Yn yr oes fodern, cyferbynnir y dyniaethau â'r gwyddorau naturiol, ac weithiau gwyddorau cymdeithas, yn ogystal ag hyfforddiant galwedigaethol.

Defnyddir methodoleg feirniadol a damcaniaethol yn y dyniaethau yn ogystal â'r dull cymharol, a cheir pwyslais sylweddol ar hanes. Mae'r dyniaethau'n cynnwys astudiaeth ieithoedd, llenyddiaeth, athroniaeth, crefydd, celfyddyd, cerddoleg, hanesyddiaeth ac anthropoleg ddiwylliannol.

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato