Effaith tŷ gwydr

Mae'r effaith tŷ gwydr yn cyfeirio at newid yn nhymheredd ecwilibriwm thermol planed neu leuad gan bresenoldeb atmosffer sy'n cynnwys nwy sy'n amsugno ymbelydredd is-goch.[1] Mae nwyon tŷ gwydr yn cynhesu'r atmosffer drwy amsugno'n effeithlon yr ymbelydredd is-goch sy'n cael ei allyrru gan wyneb y ddaear, gan yr atmosffer ei hunan, a gan gymylau. Yn 2014 disgynodd y ganran o garbon deuocsid a oedd yn cael ei allyru i'r atmosffer 9% yng ngwledydd Prydain - gan y defnyddiwyd 20% yn llai o lo. Dyma'r defnydd lleiaf o lo ers y 1850au.[2]

O ganlyniad i'r gwres mae'r atmosffer hefyd yn pelydru is-goch thermol i bob cyfeiriad, gan gynnwys i lawr at wyneb y ddaear. Ac felly, mae'n dal gwres rhwng y system troposffer-arwynebol.[3].Mae'r mecanwaith yn elfennol, yn wahanol i fecanwaith tŷ gwydr go iawn, sydd yn hytrach yn arunigo'r awyr tu mewn i'r strwythr fel nad yw gwres yn cael ei golli trwy ddarfudiad na dargludiad.

Dyma ddiagram yr effaith tŷ gwydr.

Darganfyddwyd yr effaith tŷ gwydr gan Joseph Fourier yn 1824, a gwnaed arbrofion dibynadwy am y tro cyntaf gan John Tyndall yn 1858; adroddwyd yn feintiol am y tro cyntaf gan Svante Arrhenius yn ei bapur yn 1896.[4]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau