Eingl-Indiaid

Pobl o dras gymysg Indiaidd a Phrydeinig yw'r Eingl-Indiaid.[6] Yn hanesyddol, ystyr y term oedd pobl o dras Brydeinig yn byw yn isgyfandir India yn ystod y Raj (sydd heddiw yn India, Pacistan, Bangladesh, a Byrma). Heddiw defnyddir y term yn aml i ddisgrifio pobl o ethnigrwydd cymysg Indiaidd a Phrydeinig.[7][8][9][10]

Eingl-Indiaid
Anglo-Indians
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Baner India India 80,000 - 125,000[1][2] yn bennaf Kolkata, Delhi, Mumbai, Lucknow, Hyderabad, Secunderabad, a Bangalore.[2]

Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig ~80,000[3]
Baner Myanmar Myanmar 19,200[2]
Baner Awstralia Awstralia 22,000
Baner Canada Canada 22,000
Baner Pacistan Pacistan ~11,000[4]

Baner De Affrica De Affrica
Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Baner Seland Newydd Seland Newydd
Baner Bangladesh Bangladesh
Baner Maleisia Maleisia
Baner Singapôr Singapôr
Ieithoedd
Saesneg[2]
Crefydd
Protestaniaeth (yn bennaf Anglicaniaeth, Presbyteriaeth, Methodistiaeth a Bedyddiaeth),[5] lleiafrif o Babyddion.
Grwpiau ethnig perthynol
Indo-Ariaid, Drafidiaid, Prydeinwyr, Eingl-Fyrmaniaid, Burgheriaid, Kristangiaid, Indo, Ewrasiaid Singaporaidd, Macanesiaid

Yn ôl Erthygl 366(2) yng Nghyfansoddiad India, mae Eingl-Indiad yn berson, o dras Ewropeaidd yn ei linach wrywaidd (h.y. tad, tad ei dad, ayyb), a anwyd neu sy'n byw yn India.[11][12][13] Sylwer mae'r diffiniad hwn yn cynnwys unigolion o dras Ewropeaidd ac nid Prydeinig yn unig.

Gostyngodd y boblogaeth Eingl-Indiaidd yn India o tua 500,000 ym 1947 i lai na 150,000 yn 2010. Ymfudodd nifer ohonynt i'r Deyrnas Unedig, Awstralia, Canada, De Affrica, Seland Newydd, a'r Unol Daleithiau.[14]

Cyfeiriadau

Darllen pellach

  • Anthony F "Britain's Betrayal in India: The Story Of The Anglo Indian Community" Simon Wallenberg Press, Amazon Books.
  • Chapman, Pat "Taste of the Raj", Hodder & Stoughton, Llundain — ISBN 0-340-68035-0 (1997)
  • Dady D S "Scattered Seeds: The Diaspora of the Anglo-Indians" Pagoda Press
  • Gabb A "1600-1947 Anglo-Indian Legacy"
  • Hawes C "Poor Relations: The Making of a Eurasian Community "
  • Moore G J "The Anglo Indian Vision"
  • Stark H A "Hostages To India: Or The Life Story of the Anglo Indian Race" Simon Wallenberg Press.
  • Maher, Reginald "These Are The Anglo-Indians" - (An Anglo-Indian Heritage Book) Simon Wallenberg Press
  • Phillips Z "The Anglo-Indian Australian Story: My Experience. A collection of Anglo-Indian Migration Heritage Stories"
  • Bridget White-Kumar "The best of Anglo-Indian Cuisine - A Legacy", "Flavours of the Past", "Anglo-Indian Delicacies", "The Anglo-Indian festive Hamper", "A Collection of Anglo-Indian Roasts, Casseroles and Bakes"
  • Thorpe, O "Paper Boats in the Monsoon: Life in the Lost World of Anglo-India" Trafford Publishing