Delhi

metropolis enfawr yn India, sy'n cynnwys Delhi Newydd, y brifddinas

Ardal fetropolitaidd yng ngogledd India yw Delhi, yn swyddogol Tiriogaeth y Brifddinas Genedlaethol (NCT), sydd hefyd yn 'diriogaeth undeb India' sy'n cynnwys Delhi Newydd, prifddinas India, Hen Ddelhi, a'u maestrefi.[1] Mae arwynebedd yr NCT yn 1,484 cilomedr sgwâr (573 metr sgwâr). Lleolir Delhi ar lannau Afon Yamuna rhwng talaith Uttar Pradesh i'r dwyrain a thalaith Haryana ar y tair ochr arall. Mae ganddi boblogaeth o tua 26,495,000 (2016)[2].[3] Bellach ystyrir bod ardal drefol Delhi yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau NCT, ac yn cynnwys dinasoedd-lloeren cyfagos Ghaziabad, Faridabad, Gurgaon a Noida mewn ardal o'r enw'r Brifddinas-Ranbarth Cenedlaethol (NCR), gan ei gwneud yn ardal drefol ail-fwyaf y byd (yn 2021) yn ôl y Cenhedloedd Unedig.[4]

Delhi
Mathmega-ddinas, metropolis, y ddinas fwyaf, national capital Edit this on Wikidata
Poblogaeth26,495,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Pennaeth llywodraethShelly Oberoi Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolIndo-Gangetic Plain, Yamuna-Ganga Doab Edit this on Wikidata
SirNational Capital Territory of Delhi Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd1,484 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr200 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.7°N 77.2°E Edit this on Wikidata
Cod post110000–110999 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethShelly Oberoi Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd: Delhi (gwahaniaethu)

Delhi yw'r ddinas ail gyfoethocaf yn India ar ôl Mumbai ac mae'n gartref i 18 biliwnydd a 23,000 miliwnydd.[5] Delhi yw'r pumed talaith a thiriogaethau undeb yn India, o ran mynegai datblygiad dynol, ac mae ganddi’r CMC y pen (neu 'GDP per capita') ail uchaf yn India.[6]

Mae hi o arwyddocâd hanesyddol mawr fel dinas fasnachol, o ran trafnidiaeth ac yn ddiwylliannol, yn ogystal â bod yn ganolfan wleidyddol India.[7] Mae Delhi yn un o'r dinasoedd hynaf yn y byd, ac mae pobl wedi byw yno'n barhaus ers y 6g CC.[8] Trwy'r rhan fwyaf o'i hanes, mae Delhi wedi gwasanaethu fel prifddinas amryw o deyrnasoedd ac ymerodraethau, yn fwyaf arbennig y Pandavas, Swltaniaeth Delhi a'r Ymerodraeth Mughal. Mae'r ddinas wedi cael ei chipio, ei llorio a'i hailadeiladu sawl gwaith, yn enwedig yn ystod y cyfnod canoloesol, ac mae Delhi fodern yn glwstwr o nifer o ddinasoedd sydd wedi'u gwasgaru ar draws y rhanbarth metropolitan. Am ganrifoedd lawer mae Delhi wedi bod yn brif ganolfan fasnachol yng ngogledd India, ac ar ôl 1990au mae wedi dod i'r amlwg fel canolfan bwysig yn y rhwydwaith corfforaethol ac ariannol rhyngwladol.[9]

Fel 'tiriogaeth undeb', caiff ei rheoli'n ffederal gan Lywodraeth ganol India. Mae gweinyddiaeth wleidyddol NCT Delhi heddiw'n debyg i wladwriaeth India, gyda'i deddfwrfa ei hun, yr uchel lys a chyngor gweithredol gweinidogion dan arweiniad Prif Weinidog. Gweinyddir Delhi Newydd ar y cyd gan lywodraeth ffederal India a llywodraeth leol Delhi, ac mae'n gwasanaethu fel prifddinas y genedl yn ogystal â NCT Delhi. Cynhaliodd Delhi y Gemau Asiaidd cyntaf 1951, Gemau Asiaidd 1982, Uwchgynhadledd NAM 1983, Cwpan y Byd Hoci Dynion 2010, Gemau'r Gymanwlad 2010, Uwchgynhadledd BRICS 2012 ac roedd yn un o brif ddinasoedd cynnal Cwpan y Byd Criced 2011.

Geirdarddiad

Mae'r enw 'Delhi' yn ôl y chwedl yn deillio o Dhillu neu Dilu, brenin a adeiladodd ddinas yn y lleoliad hwn yn 50 BCE a'i enwi ar ei ôl ei hun.[10][11][12] Mae chwedl arall yn mynnu bod enw'r ddinas wedi'i seilio ar y gair Hindi / Prakrit 'dhili' ("rhydd") a'i bod wedi'i defnyddio gan y Tomaras i gyfeirio at y ddinas oherwydd bod gan biler haearn Delhi sylfaen wan a bod yn rhaid ei symud.[12] Enw'r ddinas ar adeg y Brenin Prithviraj oedd "Dilpat", ac mae’n debyg bod 'dilpat' a 'dilli' yn deillio o’r hen air Hindi 'dil' sy’n golygu “bryncyn” neu "godiad tir". Soniodd cyn gyfarwyddwr Arolwg Archeolegol India, Alexander Cunningham, i'r enw 'dilli', yn ddiweddarach, droi'n "Dihli / Dehli".[13]

Hanes

Cyfnodau Canoloesol Hynafol a Chynnar

Mae'n debyg bod pobl wedi byw yn yr ardal o amgylch Delhi cyn yr ail mileniwm BCE ac mae tystiolaeth o breswylio parhaus ers y 6ed ganrif BCE o leiaf.[8] Credir bod y ddinas yn safle Indraprastha, prifddinas chwedlonol y Pandavas yn yr epig Indiaidd Mahabharata. Yn ôl y Mahabharata, roedd y tir hwn i ddechrau yn fàs enfawr o goedwigoedd o'r enw 'Khandavaprastha' a losgwyd i lawr gan y Pandavas i adeiladu dinas Indraprastha.[10]

Mae'r creiriau pensaernïol cynharaf yn dyddio'n ôl i gyfnod Maurya (tua 300 BCE); ym 1966, darganfuwyd arysgrif o'r Ymerawdwr Mauryan Ashoka (273–235 BCE) ger Srinivaspuri. Gellir gweld olion sawl dinas fawr yn Delhi. Roedd y cyntaf o'r rhain yn rhan ddeheuol Delhi heddiw. Sefydlodd y Brenin Anang Pal o linach Tomara ddinas Lal Kot yn 736 CE. Gorchfygodd Prithviraj Chauhan Lal Kot ym 1178 a'i ailenwi'n Qila Rai Pithora.

Yr Oesoedd Canol

Gorchfygwyd y brenin Prithviraj Chauhan ym 1192 gan Muhammad Ghori yn ail frwydr Tarain, goresgynnwr o Affganistan, a wnaeth ymdrech ar y cyd i goncro gogledd India.[10] Erbyn 1200, roedd y pwer brodorol Hindŵaidd wedi gwanhau, ac daeth y goresgynwyr Mwslimaidd yn fuddugol. Byddai goruchafiaeth newydd Mwslimaidd Tyrcig tramor yng ngogledd India yn para am y pum canrif nesaf.[10]

Cafodd y cadfridog Qutb-ud-din Aibak, y cyfrifoldeb o lywodraethu tiriogaethau gorchfygedig India nes i Ghori ddychwelyd i'w brifddinas, Ghor. Pan fu farw Ghori heb etifedd yn 1206 CE, rhannwyd ei diriogaethau, gyda chadfridogion amrywiol yn hawlio sofraniaeth dros wahanol ardaloedd. Cymerodd Qutb-ud-din reolaeth ar eiddo Indiaidd Ghori, a gosod sylfaen Sultanate Delhi a llinach Mamluk. Dechreuodd adeiladu mosg Qutb Minar a Quwwat-al-Islam ("Cryfder Islam"), y mosg cynharaf sy'n bodoli yn India. Ei olynydd, Iltutmish (1211–1236), a gynorthwyodd yng nghoncwest y Turkic yng ngogledd India. Dilynodd Razia Sultan, sef merch Iltutmish, ef fel Sultan Delhi. Hi oedd y fenyw gyntaf a'r unig fenyw i reoli Delhi cyn y Raj Prydeinig.[18]

Am y tri chan mlynedd nesaf, rheolwyd Delhi gan olyniaeth o Turkic ac linach Afghanistan, Lodi. Fe wnaethant adeiladu sawl cae a threfgordd sy'n rhan o saith dinas Delhi. Roedd Delhi yn brif ganolfan Sufism yn ystod y cyfnod hwn.

Cafodd Delhi ei gipio a’i chwalu gan Timur ym 1398, a laddodd 100,000 o garcharorion.[19][20] Parhaodd dirywiad Delhi o dan linach Sayyid (1414–1451), nes i'r swltanad gael ei leihau i Delhi'n unig. O dan linach Lodi Afghanistan (1451–1526), fe adferodd swltanad Delhi reolaeth ar y Punjab a’r gwastadedd Gangetig i sicrhau goruchafiaeth unwaith eto dros Ogledd India. Fodd bynnag, byrhoedlog oedd yr adferiad a dinistriwyd y swltanad ym 1526 gan Babur, sylfaenydd llinach Mughal.

Cyfnod y British Raj

Yn 1803, yn ystod yr Ail Ryfel Eingl-Maratha, trechodd lluoedd Cwmni Dwyrain India Prydain (neu'r East India Company) luoedd Maratha ym Mrwydr Delhi.[21]

Yn ystod Gwrthryfel India ym 1857, cwympodd Delhi i luoedd y 'British East India Company ar ôl ymladd gwaedlyd "Brwydr Gwarchae Delhi". Daeth y ddinas dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Prydain ym 1858. Fe'i gwnaed yn dalaith ardal y Punjab. Ym 1911, cyhoeddwyd bod prifddinas tiriogaethau Prydain yn India i gael ei throsglwyddo o Calcutta i Delhi.[22]

Bathwyd yr enw "New Delhi" ym 1927, a chafodd y brifddinas newydd ei sefydlu ar 13 Chwefror 1931. Cyhoeddwyd Delhi Newydd, a elwir hefyd yn "Lutyens 'Delhi", yn swyddogol fel prifddinas Undeb India ar ôl i'r wlad ennill annibyniaeth ar 15 Awst 1947.[23][24]

Yn ystod rhaniad India gan Brydain (a ranwyd y wlad yn India a Phacistan[25]), ffodd miloedd o ffoaduriaid Hindŵaidd a Sikhaidd, yn bennaf o Orllewin Punjab i Delhi, tra ymfudodd llawer o drigolion Mwslimaidd y ddinas i Bacistan. Mae'r ymfudo i Delhi o weddill India yn parhau (yn 2021), gan gyfrannu mwy at gynnydd poblogaeth Delhi na'r gyfradd genedigaethau, sy'n gostwng.[26]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol


Taleithiau a thiriogaethau India
TaleithiauAndhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
TiriogaethauYnysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • DelhiJammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry