Kolkata

prifddinas Gorllewin Bengal, India

Dinas anferth yng ngogledd-ddwyrain India, a phrifddinas talaith Gorllewin Bengal, yw Kolkata (("Cymorth – Sain" ynganiad ) hen enw tan 2001: Calcutta). Yn ôl cyfrifiad India 2011, Kolkata yw'r seithfed ddinas fwyaf poblog India, gyda phoblogaeth o 4,496,694 (2011)[1] miliwn o drigolion o fewn terfynau'r ddinas, a phoblogaeth o dros 14,112,536 (2011)[2] miliwn o drigolion yn Ardal Fetropolitan Kolkata, sy'n golygu mai hi yw'r drydedd fwyaf yn India. Wedi'i lleoli ar lan ddwyreiniol Afon Hooghly, mae'r ddinas oddeutu 80 cilomedr (50 milltir) i'r gorllewin o'r ffin â Bangladesh.[3] Dyma brif ganolbwynt busnes, masnachol ac ariannol Dwyrain India a phrif borthladd Gogledd-ddwyrain India, yn ogystal â bod ag economi drefol trydydd-fwyaf India.

Kolkata
Mathmunicipal corporation of West Bengal, mega-ddinas, prifddinas y dalaith, metropolis Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlKalikata Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,496,694 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethFirhad Hakim Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirKolkata district Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd206.08 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr9 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Hooghly Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau22.572672°N 88.363882°E Edit this on Wikidata
Cod post700001 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethFirhad Hakim Edit this on Wikidata
Map
Map yn dangos lleoliad Kolkata yn India

Ymhlith Cymry enwog y ddinas mae'r ieithydd William Jones (28 Medi 1746 – 27 Ebrill 1794), mab y mathemategydd bydenwog William Jones (mathemategydd).

Mae Kolkata yn gartref i 9,600 miliwnydd a 4 biliwnydd gyda chyfoeth o dros $ 290 biliwn yn 2017.[4][5]

Yn ôl cyfrifiad India 2011, Kolkata yw'r seithfed ddinas fwyaf poblog India, gyda phoblogaeth o XXX miliwn o drigolion o fewn terfynau'r ddinas, a phoblogaeth o dros 14,112,536 (2011)[2] miliwn o drigolion yn Ardal Fetropolitan Kolkata, sy'n golygu mai hi yw'r drydedd fwyaf yn India. Porthladd Kolkata yw porthladd hynaf India a'i hunig borthladd safonol mawr. Gelwir Kolkata yn "brifddinas ddiwylliannol India" oherwydd pensaerniaeth hynafol ac unigryw y ddinas.[6]

Daearyddiaeth

Mae'r ddinas yn gorwedd ar lan ddwyreiniol Afon Hooghly (yn swyddogol, nid yw tref anferth Howrah â'i slymiau, ar y lan orllewinol, yn rhan o ddinas Kolkata ei hun).

Drychiad y ddinas yw 1.5–9 m (5-30 tr).[7] Gwlyptir oedd llawer o'r ddinas yn wreiddiol a gafodd ei adennill dros ddegawdau i ddarparu ar gyfer poblogaeth gynyddol.[8] Dynodwyd yr ardaloedd heb eu datblygu, sy'n weddill, a elwir yn Wlyptiroedd Dwyrain Kolkata, yn "wlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol" gan Gonfensiwn Ramsar (1975).[9] Yn yr un modd â'r rhan fwyaf o'r Gwastadedd Indo-Gangetig, mae'r pridd a'r dŵr o darddiad llifwaddodol yn bennaf. Mae Kolkata wedi'i lleoli dros "fasn Bengal", basn trydyddol pericratonig.[10]

Hinsawdd

Hinsawdd wlyb a sych drofannol sydd gan Kolkata, ac mae wedi'i dynodi'n 'Aw' o dan ddosbarthiad hinsawdd Köppen. Yn ôl adroddiad Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig, mae ei barth gwynt a seiclon yn "risg difrod uchel iawn".[11]

Y tymheredd cymedrig blynyddol yw 26.8 °C (80.2 °F) a'r tymeredd cymedrig misol yw 19-30 °C (66-86 °F). Mae hafau (Mawrth - Mehefin) yn boeth a llaith, gyda thymheredd yn y 30au isel Celsius; yn ystod cyfnodau sych, mae'r tymeredd uchaf weithiau'n uwch na 40 °C (104 °F) ym Mai a Mehefin.[12] Mae'r gaeaf yn para am oddeutu dau fis a hanner, gydag isafbwyntiau tymhorol yn gostwng i 9–11 °C (48-52 °F) yn Rhagfyr a Ionawr. Mai yw'r mis poethaf, gyda'r tymereddau dyddiol yn amrywio rhwng 27-37 °C (81-99 °F); Mae gan Ionawr, y mis oeraf, dymheredd sy'n amrywio o 12-23 °C (54-73 °F). Y tymheredd uchaf a gofnodwyd yw 43.9 °C (111.0 °F), a'r isaf yw 5 °C (41 °F).[12] Mae'r gaeaf yn dywydd ysgafn a chyffyrddus iawn dros y ddinas trwy gydol y tymor hwn. Yn aml, ym mis Ebrill - Mehefin, bydd y ddinas yn cael ei tharo gan law trwm neu sgoliau llychlyd sy'n cael eu dilyn gan stormydd mellt a tharanau neu stormydd gwair, gan ddod â rhyddhad oeri o'r lleithder cyffredinol. Mae'r stormydd taranau hyn yn ddarfudol eu natur, ac fe'u gelwir yn lleol fel kal bôishakhi (কালবৈশাখী), neu "Nor'westers" yn Saesneg.[13]

Glawiad

Ym Mehefin a Medi mae'r Monswn yn chwipio gryfaf gan arllwys y rhan fwyaf o'i lawiad blynyddol o tua 1,850 mm (73 i modfedd). Mae'r cyfanswm glawiad misol uchaf yn digwydd yng Ngorffennaf ac Awst.[14] Yn ystod y misoedd hyn yn aml mae glaw yngoblyn o drwm, am ddyddiau, ac yn dod â rhuthr bywyd i ben, i drigolion y ddinas. Mae'r ddinas yn derbyn 2,107 awr o heulwen y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf o olau haul yn digwydd yn Ebrill.[15] Mae Kolkata wedi cael ei daro gan sawl seiclon; mae'r gwaethaf o'r rhain yn cynnwys seiclonau 1737 a 1864 a laddodd filoedd o bobl.[16] Yn fwy diweddar, achosodd Seiclon Aila yn 2009 a Seiclon Amphan yn 2020 ddifrod eang i Kolkata trwy ddod â gwyntoedd trychinebus a glawiad cenllif.[17]

Llygredd

Mae llygredd yn bryder mawr yn Kolkata. O 2008 ymlaen, roedd crynodiad blynyddol sylffwr deuocsid a nitrogen deuocsid o fewn safonau ansawdd aer amgylchynol cenedlaethol India, ond roedd lefelau deunydd gronynnol crog yn uchel, gangynyddu am bum mlynedd yn olynol, gan achosi mwrllwch a smog.[18][19] Mae llygredd aer difrifol yn y ddinas wedi achosi cynnydd mewn anhwylderau anadlol sy'n gysylltiedig â llygredd, fel canser yr ysgyfaint.[20]

Hanes

Beddrod William Jones, ieithegwr

Yn ôl safonau India, nid yw Kolkata'n ddinas hen iawn. Cafodd ei sefydlu tua 300 mlynedd yn ôl gan y Prydeinwyr. Hyd 1911 Calcutta oedd prifddinas yr India Brydeinig. Yn 1686 rhoddodd y Prydeinwyr y gorau i fyw yn ei bost masnachu yn Hooghly, 36 km i fyny'r afon, a symudasant i dri phentref bach - Sutanati, Govindpur a Kalikata. Y pentref olaf a roddodd ei enw i'r ddinas. Yn 1696 codwyd caer fach ar safle BBD Bagh ac yn 1698 rhoddodd ŵyr Aurangzeb ganiatâd swyddogol i'r Prydeinwyr fyw yno.

Tyfodd y pentrefi'n dref bur sylweddol fesul dipyn. Yn 1756 ymosododd Nawab Murshidabad ar y dref. Dihangodd y mwyafrif o'r trigolion Prydeinig ond daliwyd rhai ohonynt a'u carcharu mewn selar ddanddaear lle bu farw nifer dros nos; dyma'r Twll Du Calcutta enwog. Yn 1757 cipiodd Clive o India y dref yn ôl a threfniwyd heddwch â'r nawab. Yn ddiweddarqch yn yr un flwyddyn cododd Siraj-ud-daula yn erbyn y Prydeinwyr ond gorchfygwyd ef a'i gynghreiriaid Ffrengig ym mrwydr dynghedfennol Plassey. Mewn canlyniad codwy caer newydd, gryfach o lawer, a gwnaethpwyd Calcutta'n brifddinas India.

Tyfodd yn gyflym yn hanner cyntaf y 19g. Ym mlynyddoedd olaf y Raj roedd Calcutta yn ganolfan bwysig i ymyrchwyr dros annibyniaeth i India ac felly symudwyd y brifddinas i Ddelhi. Ar ôl annibyniaeth daeth nifer o ffoadurion o ddwyrain Bengal (Bangladesh heddiw) i Galcutta. Mae nifer o bobl o'r cefn gwlad yn symud i'r ddinas bob blwyddyn hefyd ac mae'r boblogaeth yn cynyddu mewn canlyniad. Erbyn heddiw mae gor-boblogaeth yn broblem anferth yn y ddinas.

"Kolkata" fu'r enw mewn Bengaleg erioed, ond yn 2001 newidiwyd yr enw yn swyddogol o "Calcutta" i "Kolkata".

Atyniadau

Parc y Maidan yn Chowringhi, yng nghanol Kolkata

Ymhlith atyniadau Kolkata gellid crybwyll Amgueddfa India a Teml Kalighat, Pont Howrah, y Maidan (parc), y Gerddi Botanegol a'r Farchnad Newydd. Yng nghanol y ddinas rhan o'r awyrgylch yw'r hen adeiladau crand o gyfnod y Raj, er enghraifft swyddfeydd llywodraeth Gorllewin Bengal ar sgwâr hanesyddol BBD Bagh (Sgwâr Dalhousie).

Enwogion

Dolenni allanol