Ethnograffeg

Astudiaeth systematig a gwyddonol o genhedloedd, grwpiau ethnig, a phobloedd yw ethnograffeg. Gellir ei ystyried yn faes ymaferol sy'n gysylltiedig â phynciau ethnoleg, anthropoleg gymdeithasol, ac anthropoleg ddiwylliannol.[1] Gwaith yr ethnograffydd yw casglu gwybodaeth am fywyd diwylliannol, economaidd a chymdeithasol y grŵp dan sylw drwy ymchwil uniongyrchol yn y maes, gan amlaf sylwadaeth o'r tu mewn. Yna mae'n cynhyrchu llyfr neu erthygl ddisgrifiadol ac ysgolheigaidd ar sail ei astudiaeth achos.[2]

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am anthropoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.