Ffwtsal

pê-droed 5 bob ochr dan do

Mae ffwtsal[1][2][3] yn fath o bêl-droed sy'n cael ei chwarae ar lain yr un maint â chwrt pêl-law ac sydd fel rheol o dan do ac ar lawr caled. Mae'n debyg i gêm pêl-droed pump-bob-ochr, pêl-droed dan-do, pêl-droed y traeth, pêl-droed chwech neu saith-bob-ochr, a phêl-droed SUB.

Gêm futsal, Brasil v Ariannin, 2007

Daw'r enw futsal (Saesneg: [fʊtsal]) fel gair cyfansawdd o'r Portiwgaleg futbol de salão[a] a Sbaeneg fútbol sala[b] (neu fútbol de salón) sy'n golygu "pêl-droed dan do".

Hanes

Dyfeisiwyd ffwtsal yn strydoedd Montevideo yn y 1930au yn dilyn llwyddiant Wrwgwái yng Nghwpan y Byd y flwyddyn honno. Roedd Juan Carlos Ceriani, a oedd yn athro, a oedd am addasu pêl-droed ar gyfer chwarae dan do mewn clybiau YMCA. Yn y degawdau dilynol, ymledodd y gêm i weddill America Ladin ac yna i Ewrop.

Ym 1989, cynhaliwyd pencampwriaeth cyntaf y byd gan FIFA, ac ers 1992 cynhaliwyd pencampwriaethau'r byd bob pedair blynedd. Yn ogystal, ceir cynghreiriau proffesiynol mewn gwahanol fannau yn y byd, gan gynnwys Sbaen a'r Eidal.

Rheolau

Cae futsal ar ben to, Tokyo, Japan.

Fel arfer mae ffwtsal yn cael ei chwarae dan do ar gwrt neu faes sydd yr un maint â pêl-law. Lleiafswm y maint yw 25m × 16m, mwyafswm yw 42m × 25m. Os yw'r bêl yn mynd allan o chwarae, mae'r gêm yn ail-dechrau gyda chic ail-gychwyn o'r ochr. Nid oes rheol cam sefyll. Mae maint y gôl yr un maint â gôl mewn gêm pêl-law.

Mae'r bêl a ddefnyddir yn ffwtsal yn bêl arbennig i'r gêm nad sydd yn bownsio cymaint â phêl bêl-droed arferol. Mae'r bêl yn pwyso'r un fath â phêl pêl-droed rheolaidd, ond mae ganddo bêl fewnol feddalach sy'n cynyddu rheolaeth y bêl.

Mae tîm ffwtsal yn cynnwys un gôl-geidwad a phedwar chwaraewr maes. Ceir dwy hanner i bob gêm, sy'n para 20 munud yr un gydag egwyl o 15 munud.

Ffwtsal yng Nghymru

Mae ffwtsal yn gêm gymharol newydd i Gymru (a Phrydain). Mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru dîm ffwtsal genedlaethol. Enillodd y tîm Gwpan gyntaf Ffwtsal Gwledydd Prydain ac Iwerddon ('Home Nations') yn 2016.[4]

Bu gêm gyntaf tîm ffwtsal cenedelaethol Cymru yn erbyn Andorra ar 2 Medi 2012. Yn anffodus collodd Cymru 2-1.

Ceir hefyd Cwpan Ffwtsal CBDC. Enillwyd y Gwpan gyntaf yn 2011 gan dîm ffwtsal C.P.D. Y Seintiau Newydd[5] Er hynny mae timau Prifysgol Caerdydd, C.P.D. Dinas Caerdydd a C.P.D. Wrecsam wedi ennill y gwpan.

Tîm ffwtsal Prifysgol Caerdydd oedd unig gynrychiolwyr Cymru ym Mhencampwriaeth Cynghrair Ffwtsal UEFA a gynhaliwyd yn 2018-19.[6]

Enillwyr Pencampwriaeth Byd Ffwtsal

Pencampwriaeth Ffwtsal y Byd (Cwpan y Byd Ffwtsal) yw'r bencampwriaeth tîm pwysicaf i unrhyw dîm cenedlaethol. Cynhaliwyd y bencampwriaeth gyntaf yn 1980 ac yna yn 1992 ac wedi hynny, pob pedair mlynedd.

Canlyniadau

Cwpan y BydGwlad CynnalAurArianEfydd
CyB Ffwstal Dynion 1989Yr Iseldiroedd Brasil Yr Iseldiroedd UDA
CyB Ffwtsal Dynion 1992Hong Cong Brasil UDA Sbaen
CyB Ffwtsal Dynion 1996Sbaen Brasil Sbaen Rwsia
CyB Ffwtsal Dynion 2000Gwatemala Sbaen Brasil Portiwgal
CyB Ffwtsal Dynion 2004Taiwan Sbaen Yr Eidal Brasil
CyB Ffwtsal Dynion 2008Brasil Brasil Sbaen Yr Eidal
CyB Ffwtsal Dynion 2012Gwlad Tai Brasil Sbaen Yr Eidal
CyB Ffwtsal Dynion 2016Colombia Yr Ariannin Rwsia Iran

Nodynau

Cyfeiriadau