Taiwan
Gwlad yn Nwyrain Asia ydy Taiwan, a gaiff ei adnabod yn swyddogol fel Gweriniaeth Tsieina (Tsieineeg traddodiadol: 台灣), Pescadores, Quemoy, Matsu, Pratas. Prifddinas y wladwriaeth yw Taipei, ar ynys Taiwan. Yn ffinio â'r weriniaeth mae Gweriniaeth Pobl Tsieina i'r gorllewin, Japan i'r dwyrain a'r gogledd-ddwyrain a Gweriniaeth Y Philipinau (neu'r Philipinau) i'r de. Taipei ydy'r brifddinas swyddogol yn ogystal â chanolbwynt diwylliant ac economeg y wlad.
Math | gwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd, ynys-genedl, gweriniaeth ddemocrataidd, gwlad, gwladwriaeth sofran |
---|---|
Prifddinas | Taipei |
Poblogaeth | 23,593,794 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Anthem Genedlaethol Gweriniaeth Tsieina |
Pennaeth llywodraeth | Chen Chien-jen |
Cylchfa amser | UTC+08:00, Asia/Taipei, amser yn Taiwan |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Iaith Genedlaethol Gweriniaeth Tsieina, Taiwanese Hakka, Hokkien Taiwan, Amis, Paiwan, Kinmen dialect, O-ku-uā, Matsu dialect, Taiwanese Sign Language, Saisiyat, Puyuma, Atayal, Tsou, Bunun, Rukai, Truku, Seediq, Sakizaya, Yami, Kavalan, Kanakanavu, Saaroa |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Asia |
Gwlad | Gweriniaeth Tsieina |
Arwynebedd | 36,193 km² |
Gerllaw | Môr Dwyrain Tsieina, Culfor Taiwan, Culfor Bashi, Y Cefnfor Tawel |
Yn ffinio gyda | Japan, y Philipinau, Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Cyfesurynnau | 24°N 121°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Y Gweithredwr Yuan |
Corff deddfwriaethol | Yr Yuan Deddfwriaethol |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Gweriniaeth Tsieina |
Pennaeth y wladwriaeth | Tsai Ing-wen |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Gweithredwr yr Yuan |
Pennaeth y Llywodraeth | Chen Chien-jen |
Crefydd/Enwad | Bwdhaeth, Taoaeth, crefydd gwerin Tsieina |
Arian | Doler Newydd Taiwan |
Cyfartaledd plant | 1.07 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.911 |
Hanes
Hyd at 10,000 o flynyddoedd yn ôl, pan gododd lefel y môr, roedd yr ynys yn sownd yn y tir mawr.Cafwyd hyd i olion dyn ar yr ynys sy'n dyddio'n ôl i rhwng 20,000 a 30,000 o flynyddoedd.[1]Ychydig dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl ymfudodd ffermwyr o dir mawr Tsieina i'r ynys; credir mai'r rhain yw cyndeidiau Brodorion Taiwan. Roedd eu hiaith yn perthyn i ieithoedd Awstralaidd. Yn y 13g setlodd Tsieiniaid Han ar ynysoedd Penghu ond roedd brodorion Taiwan yn anghroesawgar tuag atynt. Dim ond ychydig bysgotwyr fedrai sefydlu yno, tan yr 16g.[2]
Gwladychwyd rhannau o'r ynys gan Iseldirwyr (Vereenigde Oost-Indische Compagnie) a Sbaenwyr yn 1626. Roeddent ill dau'n awyddus i ddefnyddio'r ynys fel troedle i farchnata. Yn dilyn cwymp Brenhinllin Ming daeth unoliaethwr Mingaidd i'r ynys, sef dyn o'r enw Koxinga gan hel yr Iseldirwyr (1662) ac ymosod ar dir mawr Tsieina. Lladdwyd ei ŵyr yn 1683 gan Shi Lang o dde Fujian, fe unwyd Taiwan gyda Qing.
Yn rhyfeloedd Sino-Japan 1894-1895, gorchfygwyd yr Ymerodraeth Qing gan Japan a chychwynwyd ar unwaith ar y gwaith o ddiwydiannu'r ynys e.e. porthladdoedd a rheilffyrdd. Erbyn 1938 roedd dros 309,000 o Japaniaid yn byw yn Taiwan.
Daearyddiaeth
Saif ynys Taiwan tua 180 kilometr i'r de-ddwyrain o Tsieina, ar draws Culfor Taiwan ac mae ganddo arwynebedd o 35,883 km2 (13,855 mi sgw). Mae cryn wahaniaeth rhwng dau draean dwyreiniol yr ynys a'r traean gorllewinol. Mae'r ochr ddwyreiniol yn bum rhes o fynyddoedd geirwon sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de. Mynydd uchaf Taiwan ydyYu Shan sy'n 3,952 m o uchder. Ceir pum copa arall sydd dros 3,500 metr ar yr ynys. Dyma, felly bedwaredd ynys uchaf ar y Ddaear.[3]