Fred Keenor
Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd Frederick Charles "Fred" Keenor (31 Gorffennaf 1894 – 19 Hydref 1972) oedd yn gapten Dinas Caerdydd pan enillodd yr Adar Gleision Gwpan FA Lloegr ym 1927, yr unig glwb y tu allan i Loegr i wneud hynny.[1] Llwyddodd hefyd i ennill 32 o gapiau dros Gymru rhwng 1920 a 1932.
Fred Keenor | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 31 Gorffennaf 1894 ![]() Caerdydd ![]() |
Bu farw | Tachwedd 1972 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | pêl-droediwr ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tunbridge Wells F.C., C.P.D. Dinas Caerdydd, Crewe Alexandra F.C., Oswestry Town F.C., Brentford F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ![]() |
Safle | amddiffynnwr ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Taldra | 5 tr 7 modf | ||
Safle | Amddiffynnwr | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1912–1931 | Dinas Caerdydd | 432 | (17) |
1931–1934 | Crewe Alexandra | 123 | (5) |
1934-1935 | Oswestry Town | ||
1935-1937 | Tunbridge Wells | ||
Tîm Cenedlaethol | |||
1920–1932 | Cymru | 32 | (2) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Yn 2012 dadorchuddiwyd cofeb iddo tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd.[1]
Bywyd cynnar
Mab i saer maen oedd Fred Keenor a chafodd ei addusg yn Ysgol Gynradd Stacey Road, Waunadda.[2]
Gyrfa clwb
Chwaraeodd Keenor yn y gêm ysgolion rhyngwladol cyntaf rhwng Cymru a Lloegr ym 1907 cyn ymuno â Chaerdydd fel chwaraewr amatur ym 1912.[2] Ar ôl troi'n broffesiynol ym mis Tachwedd 1912 cafodd ei gyfle cyntaf gyda thîm cyntaf Caerdydd ym mis Rhagfyr 1913 ond cyn sefydlu ei hun yn y tîm, torrodd y Rhyfel Mawr.[2] Ymunodd Keenor â 17eg Bataliwn Middlesex, bataliwn enwog y pêl-droedwyr a bu'n brwydro ym Mrwydr y Somme lle cafodd anaf cas i'w glun.[3]
Ar ôl gwella o'r anaf, treuliodd Keenor weddill y rhyfel yn Chatham fel Hyfforddwr Ffitrwydd gan chwarae i Gaerdydd yn y Southern League ac i Brentford yn y London Combination.
Ym 1920 ymunodd Caerdydd â'r Gynghrair Bêl-droed gan ennill dyrchafiad o'r Ail Adran i'r Adran Gyntaf yn eu tymor cyntaf. Ym 1925 roedd Keenor yn gapten ar dîm Caerdydd gollodd yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn erbyn Sheffield United [4] Ar ôl y golled, dywedodd Keenor "Just because we lost in our very first Cup Final, I don't think there is any cause to get down in the mouth. I can say here and now that one day soon our followers can be sure that Cardiff City will bring that cup to Wales."[5]
Dychwelodd Caerdydd i Stadiwm Wembley ym 1927 ond bu bron i Keenor golli ei awr fawr ar ôl gofyn am drosglwyddiad yn gynharach yn y flwyddyn[6] ond dychwelodd Keenor i'r tîm ar gyfer y rownd derfynol gan arwain Caerdydd i fuddugoliaeth 1-0 dros Arsenal er mwyn cipio'r gwpan.[7]
Parhaodd Keenor gyda Chaerdydd hyd nes 1931 pan symudodd i Crewe Alexandra cyn gorffen ei yrfa gyda Chroesoswallt.
Gyrfa ryngwladol
Llwyddodd Keenor i ennill 32 o gapiau dros Gymru rhwng 1920 a 1932 gan wneud ei ymddangosiad cyntaf mewn gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Gogledd Iwerddon.[8]. Roedd yn aelod o'r tîm lwyddodd i ennill Pencampwriaeth y Pedair Gwlad ym 1920, 1924 a 1928.
Cofeb
Ar 4 Rhagfyr 2009 cafodd y ffordd tuag at Stadiwm Dinas Caerdydd ei enwi yn Ffordd Fred Keenor [9] ac ar 10 Tachwedd 2012 dadorchuddiwyd cofeb o Keenor yn dal Cwpan FA Lloegr tu allan i'r Stadiwm.[10]