Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1970

Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1970 oedd y nawfed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Caeredin, Yr Alban oedd cartref y Gemau rhwng 16-25 Gorffennaf. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yng Nghaeredin yn ystod Gemau Olympaidd Tokyo ym 1964 gyda Caeredin yn sicrhau 18 pleidlais a Christchurch, Seland Newydd 11.

Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1970
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1970 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd16 Gorffennaf 1970 Edit this on Wikidata
Daeth i ben25 Gorffennaf 1970 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadCaeredin Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbadminton at the 1970 British Commonwealth Games Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
9fed Gemau'r Gymanwlad Brydeinig
Campau121
Seremoni agoriadol16 Gorffennaf
Seremoni cau25 Gorffennaf
VIII X  >

Dyma oedd y Gemau cyntaf i ddefnyddio'r system fesur metric a'r Gemau cyntaf i ddefnyddio'r system camera i benderfynnu canlyniad rasys yn hytrach na'i gael fel cymorth i'r swyddogion. Dyma hefyd oedd y Gemau cyntaf i Frenhines Elizabeth II ei mynychu yn ei rôl fel pennaeth y Gymanwlad.

Ar ôl colli Gemau 1966, daeth bowlio lawnt yn ôl i'r Gemau yn lle saethu a daeth Ved Prakash o India y person ieuengaf erioed i ennill medal aur yn y Gemau wrth gipio medal aur yn y reslo yn 14 mlwydd oed.

Chwaraeon

Timau yn cystadlu

Cafwyd 42 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad Brydeinig, 1970 gyda'r Gambia, Guernsey, Grenada, Malawi a Gwlad Swasi yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau

 Safle CenedlAurArianEfyddCyfanswm
1 Awstralia36242282
2 Lloegr27253284
3 Canada18242466
4 Yr Alban681125
5 Cenia53614
6 India53412
7 Pacistan4329
8 Jamaica4217
9 Wganda3317
10 Gogledd Iwerddon3159
11 Seland Newydd26614
12 Cymru26412
13Ghana2327
14 Nigeria2002
15 Maleisia1113
16 Hong Cong1001
17 Trinidad a Tobago0437
18 Sambia0224
19 Singapôr0112
20 Barbados0101
Tansanïa0101
22 Ffiji0011
Gambia0011
Gaiana0011
Ynys Manaw0011
Malawi0011
St Vincent0011
Cyfanswm121121133375

Medalau'r Cymry

Roedd 118 aelod yn nhîm Cymru.

Daeth Lynn Davies y Cymro cyntaf i ennill dwy fedal aur yn y Gemau wrth ennill y naid hir am yr ail Gemau yn olynol.

MedalEnwCystadleuaeth
AurLynn DaviesAthletauNaid hir
AurMike RichardsNofio200m ar ei gefn
ArianMike RichardsNofio100m ar ei gefn
ArianMartyn WoodruffeNofio200m pili pala
ArianDavid DaviesBocsioPwysau is-welter
ArianAnthony DaviesBocsioPwysau is-bry
ArianIeuan OwenCodi PwysauPwysau ysgafn
ArianTerry PerdueCodi PwysauPwysau uwch-drwm
EfyddPeter ArthurCodi PwysauPwysau is-drwm
EfyddMartyn WoodruffeNofio200m medley unigol
EfyddKevin Moran
Martin Richards
Martyn Woodruffe
a Nigel Johnson
Nofio4 x100m medley
EfyddJohn Hatfield
a John Beswick
Beicio2000m tandem

Dolenni allanol

Rhagflaenydd:
Kingston
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Christchurch