Gibraltar

Penrhyn yn Iberia

Tiriogaeth dramor y Deyrnas Unedig sy'n cael ei hawlio gan y Deyrnas Gyfunol yw Gibraltar. Fe'i lleolir yn ne Penrhyn Iberia. Mae'n ffinio â Sbaen i'r gogledd, gyda'r ffin yn 1.2-kilometr (0.75 milltir), ac mae Culfor Gibraltar i'r de.[1] Ei arwynebedd yw 6.7 km2 (2.6 milltir sgwâr) a'i boblogaeth yw 34,003.[2] Mae Craig Gibraltar yn dominyddu'r olygfa, o bob cyfeiriad.

Gibraltar
ArwyddairBathodyn Craig Gibraltar Edit this on Wikidata
MathTiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig, dinas â phorthladd, United Nations list of non-self-governing territories, tiriogaeth ddadleuol, tref ar y ffin, un o wledydd môr y canoldir, cyrchfan i dwristiaid, dinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTariq ibn Ziyad Edit this on Wikidata
PrifddinasGibraltar Edit this on Wikidata
Poblogaeth34,003 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1704 Edit this on Wikidata
AnthemGod Save the King, Gibraltar Anthem Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethFabian Picardo Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iFunchal, Ballymena, Singapôr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Arwynebedd6.843 ±0.001 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr11 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Alboran, Bae Gibraltar, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSbaen, Andalucía, yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.14°N 5.35°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholParliament of Gibraltar Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSiarl III Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Gibraltar Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethFabian Picardo Edit this on Wikidata
Map
Arianpunt Gibraltar Edit this on Wikidata

Yn strategol, mae Gibraltar yn bwysig iawn i Luoedd Arfog Prydain a cheir safle môrlu yno.

Hanes

Ceir olion pwysig o'r Neanderthal yn Gibraltar, sy'n dyddio i rhwng 40,000 i 50,000 o flynyddoedd yn ôl ac ystyrir Ogof Gorham yn hynod o bwysig.[3]

Ym 1704, cymerwyd Gibraltar o Sbaen gan luoedd Prydeinig ac Iseldiraidd yn ystod 'Rhyfel Olyniaeth Sbaen'. Ildiwyd y diriogaeth i’r Deyrnas Unedig "am byth" pan arwyddwyd Cytundeb Utrecht ym 1713. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd e’n sylfaen bwysig i’r Llynges Frenhinol, gan fod y penrhyn yn rheoli’r mynediad i Fôr y Canoldir, sydd yn ddim ond 8 milltir o led yn y man culaf.

Mae'n parhau i fod yn strategol bwysig heddiw, gyda hanner llongau masnach y byd yn pasio drwy'r culfor yma.

Heddiw, mae economi Gibraltar yn seiliedig ar dwristiaeth, gamblo ar-lein, gwasanaethau ariannol a darparu tanwydd i longau cargo.[4][5][6]

Yr enw

Daw enw'r diriogaeth o'r enw Arabeg gwreiddiol Jabal Ţāriq (جبل طارق), sef "mynydd Tariq". Cyfeiria at y cadfridog Berber Umayyad Cadfridog Tariq ibn-Ziyad, a arweiniodd oresgyniad rhan o Iberia yn 711 gan filwyr o'r Maghreb. Cyn hynny fe'i hadnabuwyd fel Mons Calpe, un o Bileri Hercules. Heddiw gelwir Gibraltar yn "Gib" neu "y Graig" ar lafar gwlad.

Sofraniaeth

Un o brif faterion llosg yn y berthynas rhwng Prydain a Sbaen yw sofraniaeth Gibraltar. Mae Sbaen yn gofyn am ddychwelyd yr ardal i'w gwlad wedi i sofraniaeth Sbaen drosti gael ei hildio yn 1713. Fodd bynnag, mae rhan fwyaf trigolion Gibraltar (Saeson, neu ddisgynyddion i Saeson) wedi gwrthod hyn.[7] Gwrthododd y pobl Gibraltar cynigion sofraniaeth sbaeneg mewn refferendwm ym 1967, a gwrthodon nhw rannu sofraniaeth rhwng y ddwy wlad mewn refferendwm arall yn 2002.


Cyfeiriadau