Giorgia Meloni

Gwleidydd Eidalaidd yw Giorgia Meloni (Ynganiad Eidaleg: [ˈdʒordʒa meˈloːni]; ganed 15 Ionawr 1977) a wasanaetha yn Brif Weinidog yr Eidal ers 22 Hydref 2022, y fenyw gyntaf yn bennaeth ar lywodraeth yr Eidal yn hanes y wlad.[1] Hi yw arweinydd ac un o sefydlwyr y blaid Fratelli d'Italia (Brodyr yr Eidal; FdI), a chanddi ideoleg geidwadol-genedlaetholgar a phoblyddol.

Giorgia Meloni
Y Prif Weinidog Giorgia Meloni (Hydref 2022).
Ganwyd15 Ionawr 1977 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Italian Minister for Youth Policies, Italian Minister for Youth Policies, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolItalian Social Movement - National Right, National Alliance, Pobl dros Ryddid, Brothers of Italy Edit this on Wikidata
TadFrancesco Meloni Edit this on Wikidata
PartnerAndrea Giambruno Edit this on Wikidata
PerthnasauFrancesco Lollobrigida, Nino Meloni, Zoe Incrocci Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir, Urdd Rhosyn Wen y Ffindir Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.giorgiameloni.it/ Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed hi yn Rhufain, prifddinas yr Eidal, i deulu dosbarth-gweithiol. Yn ei harddegau, ym 1992, ymaelododd â Ffrynt Ieuenctid y Movimento Sociale Italiano (Mudiad Cymdeithasol Eidalaidd; MSI), y brif blaid neo-ffasgaidd yn yr hanner can mlynedd ers sefydlu Gweriniaeth yr Eidal. Wedi i'r MSI drawsnewid yn blaid ôl-ffasgaidd, ar ffurf yr Alleanza Nazionale (Cynghrair Genedlaethol; AN) ym 1995, daeth Meloni yn arweinydd cenedlaethol yr adain fyfyrwyr. Etholwyd hi yn gynghorydd yn Nhalaith Rhufain ym 1998, ac wedi diwedd ei thymor yn 2002 fe'i penodwyd yn llywydd adain ieuenctid yr AN.[2]

Etholwyd Meloni i Siambr y Dirprwyon am y tro cyntaf yn 2006. Fe'i penodwyd yn Weinidog Ieuenctid ym mhedwerydd cabinet y Prif Weinidog Silvio Berlusconi yn 2008, a daliai'r swydd honno nes 2011. Daeth yr AN i ben yn 2009, pan gyfunodd â Forza Italia (Yr Eidal Ymlaen, FI), plaid Berlusconi, i ffurfio Il Popolo della Libertà (Y Bobl Ryddid; PdL).

Sefydlwyd Fratelli d'Italia gan Giorgia Meloni, Ignazio La Russa, a Guido Crosetto yn 2012, gan ymrannu oddi ar PdL. Penodwyd Meloni yn llywydd y blaid yn 2014. Ymgyrchodd yn etholiad Senedd Ewrop yn 2014 ac etholiad dinesig Rhufain yn 2016, ond heb ennill. Yn sgil etholiad cyffredinol 2018, arweiniodd Meloni FdI drwy gydol y 18fed ddeddfwrfa, o Fawrth 2018 i Hydref 2022, yn wrthblaid i lywodraeth glymblaid Giuseppe Conte a llywodraeth undod cenedlaethol Mario Draghi.

Wedi cwymp llywodraeth Draghi yng Ngorffennaf 2022, cynhaliwyd etholiad cyffredinol ym Medi, ac enillodd y glymblaid ganol-dde—gan gynnwys FdI—fwyafrif llwyr o'r seddi yn y senedd. FdI oedd y blaid unigol a enillodd y gyfran fwyaf o'r bleidlais boblogaidd (26 y cant) ac felly, yn ôl cytundeb a wnaed cyn yr etholiad, enwebwyd Meloni i fod yn brif weinidog, gyda chefnogaeth yr holl glymblaid.[3]

Cyfeiriadau