Teyrnas Glywysing

(Ailgyfeiriad o Glywysing)

Roedd Teyrnas Glywysing yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Roedd ei phobl yn ddisgynyddion i'r Silwriaid, llwyth Brythonaidd a drigai yn ne-ddwyrain Cymru yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ychydig iawn a wyddys amdani.

Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Hanes

Yn ôl traddodiad, enwyd Glywysing ar ôl Glywys, y brenin a'i sefydlodd. Diau y symudai ffiniau'r deyrnas o bryd i'w gilydd, ond credir fod calon y deyrnas yn gorwedd yn yr ardal rhwng afonydd Wysg a Tawe. Ar adegau roedd ffiniau'r deyrnas yn ymestyn i gynnwys Gwent ac Ergyng, ond rhywbryd cyn yr 8g collwyd Cydweli a Gŵyr i deyrnas Dyfed.[1]

Gwyddys enwau rhai o'r brenhinoedd cynnar, fel Ithel (c.715-145). Ymranodd y deyrnas yn fuan ar ôl ei deyrnasiad.[1]

Yn hwyr yn y 10g, daeth teyrnas Glwysing yn rhan o deyrnas Morgannwg neu Gwlad Morgan, a enwyd felly ar ôl ei brenin Morgan Hen.[1]

Brenhinoedd Glywysing

  • Owain Finddu ap Rhun? - Owain fab Macsen Wledig?
  • Mor ap Owain
  • Solor ap Mor
  • Glywys ap Solor
  • Gwynllyw ap Glywys (-523)
  • Cadog ap Gwynllyw (523-581?)
  • Frioc ap Meurig
  • Ithel ap Athrwys (VII)
  • Morgan Mawr ap Athrwys (VII)
  • Morgan Mwynfawr (-654)
  • Athrwys ap Morgan (-663)
  • Ithel ap Morgan Mawr (VII)
  • Morgan Hael ap Ithel (710/715)
  • Ithel ap Morgan Hael (745?)
  • Brochfael ap Rhys (-755), gor-ŵyr Morgan Mawr
  • Rhys ap Ithel (755-765/785?)
  • Rhodri ap Ithel
  • Arthfael ap Rhys (765/785?-810/825?)
  • Rhys ab Arthfael Hen (825-856)
  • Hywel ap Rhys (856-886/894)
  • Owain ap Hywel ap Rhys (886-930)
  • Morgan Hen ab Owain (930-974)
  • Idwallon ap Morgan Hen (974-990)
  • Rhys ab Owain ap Morgan Hen (990-1000?)
  • Iestyn ab Owain ap Morgan Hen (-1015/1043?)
  • Hywel ab Owain ap Morgan Hen (1015-1043)
  • Rhydderch ap Iestyn (1015-1033)
  • Gwrgant ap Ithel Ddu (1033-1042/1055?)
  • Gruffudd ap Rhydderch (1033-1055)
  • Gruffudd ap Llywelyn (1055-1063)
  • Gwrgant ap Ithel Ddu (1063-1070)
  • Cadwgan ap Meurig (1070-1074)
  • Caradog ap Gruffudd (1074-1081)
  • Iestyn ap Gwrgant (1081-1093)

Cyfeiriadau

   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.