Goruchafiaeth y gwynion

Y gred hiliol bod pobl groenwyn yn rhagori ar hiliogaethau eraill yn naturiol, ac sydd felly'n mynnu dylai'r gwynion dra-arglwyddiaethu dros bobloedd eraill, yw goruchafiaeth y gwynion. Mae'r fath safbwyntiau yn tarddu o hiliaeth wyddonol ac yn aml yn dibynnu ar ddadleuon ffugwyddonol. Megis neo-Natsïaeth a mudiadau tebyg, mae goruchafiaethwyr croenwyn fel rheol yn gwahaniaethu yn erbyn Iddewon yn ogystal â phobloedd o liwiau eraill i'w crwyn.

Defnyddir yr ymadrodd yn aml i ddisgrifio ideoleg wleidyddol sy'n arddel goruchafiaeth y bobl wynion mewn cymdeithas a gwleidyddiaeth yn y modd buont yn hanesyddol, er enghraifft masnach gaethweision yr Iwerydd, deddfau Jim Crow ac arwahanu yn yr Unol Daleithiau, ac apartheid yn Ne Affrica.[1][2] Cynigir diffiniadau amrywiol o bwy sy'n wyn gan yr amryw ffurfiau sydd ar oruchafiaeth y gwynion, ac mae mudiadau gwahanol o oruchafiaethwyr yn cydnabod grwpiau ethnig neu ddiwylliannol gwahanol yn brif elyn yr hil wen.[3]

Yn y byd academaidd, yn enwedig damcaniaethau beirniadol o ran hil ac intersectionality, gall yr ymadrodd "goruchafiaeth y gwynion" gyfeirio at gyfundrefn wleidyddol neu economaidd-gymdeithasol sydd yn rhoi mantais strwythurol, neu fraint, i wynion ar draul grwpiau ethnig eraill.

Nid yw goruchafiaeth y gwynion yn gyfystyr â balchder croenwyn, cenedlaetholdeb croenwyn, ymwahaniaeth groenwen, nac hunaniaeth groenwen, er bod y cysyniadau a'r creodau hyn i gyd yn cydgyffwrdd yn aml.

Cyfeiriadau