Gwyneth Paltrow

actores

Actores a chantores yw Gwyneth Kate Paltrow (ganwyd 27 Medi 1972) o Los Angeles, Califfornia. Yn ferch i Brice Paltrow a Blythe Danner, gadawodd Paltrow ei chwrs prifysgol er mwyn dilyn gyrfa ym myd actio. Dechreuodd ei gyrfa yn perfformio mewn theatrau ym 1990, a chafodd ei rhan gyntaf mewn ffilm y flwyddyn ganlynol. Mae ei ffilmiau cynharaf yn cynnwys y ffilmiau llwyddiannus Se7en (1995), Emma (1996), lle chwaraeodd y prif ran, a Sliding Doors (1998). Derbyniodd feirniadaethau clodwiw am ei pherfformiad yn Shakespeare in Love (1998); enillodd Wobr yr Academi am yr Actores Gorau, Gwobr Golden Globe a dau o wobrau'r Chymdeithas yr Actorion Sgrîn am Brif Actores Eithriadol ac fel aelod o Gast Eithriadol, ynghyd â nifer o wobrau ac enwebiadau eraill.

Gwyneth Paltrow
GanwydGwyneth Kate Paltrow Edit this on Wikidata
27 Medi 1972 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Spence School
  • Prifysgol Califfornia, Santa Barbara
  • Crossroads School
  • Crossroads School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, canwr, cerddor, actor llwyfan, actor teledu, cyfansoddwr caneuon, person busnes, sgriptiwr, cynhyrchydd teledu, actor Edit this on Wikidata
Swyddprif weithredwr Edit this on Wikidata
Taldra175 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
MudiadTime's Up Edit this on Wikidata
TadBruce Paltrow Edit this on Wikidata
MamBlythe Danner Edit this on Wikidata
PriodChris Martin, Brad Falchuk Edit this on Wikidata
PartnerBrad Pitt, Ben Affleck, Robert Sean Leonard, Donovan Leitch, Luke Wilson Edit this on Wikidata
PlantMoses Martin, Apple Martin Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am yr Actores Orau, Q41043454, Gwobr Crystal, Primetime Emmy Award for Outstanding Guest Actress in a Comedy Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau'r Academi, Golden Globes, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr Emmy 'Primetime' Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://gwynethpaltrow.com/ Edit this on Wikidata

Parhaodd ei llwyddiant gyda rôlau mewn ffilmiau fel The Talented Mr. Ripley (1999) a Shallow Hal (2001). Serennodd hefyd yn y ffilm Duets (2000), a gynhyrchwyd ac a gyfarwyddwyd gan ei thad Bruce Paltrow. Canodd Gwyneth Paltrow ddwy gân ar y trac sain a bu'r caneuon yn llwyddiannus mewn rhai gwledydd. Derbyniodd enwebiad am Wobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn Ffilm am Proof (2005). Yn fwy diweddar, ymddangosodd yn y ffilm Iron Man (2008).

Yn aml, mae ei bywyd personol wedi derbyn llawer o sylw gan y wasg; bu'n canlyn â Brad Pitt o 1995 tan 1997, a phriododd Chris Martin, prif leisydd y band roc Seisnig Coldplay, yn 2003. Maent yn rhieni i ddau o blant, Apple Blythe Alison Martin (g. 2004) a Bruce Anthony Martin (g. 2006). Dywedodd Paltrow iddi leihau ei baich gwaith ar ôl genedigaeth ei phlentyn cyntaf. Ym mis Mawrth 2014, cyhoeddwyd y byddai'r cwpl yn gwahanu ar ôl bod yn briod am ddeng mlynedd.

Ffilmiau

BlwyddynFfilmRôlNodiadau
1991ShoutRebecca
HookWendy Darling Ifanc
1993Deadly RelationsCarol Ann Fagot
MalicePaula Bell
Flesh and BoneGinny
1994Mrs. Parker and the Vicious CirclePaula Hunt
1995Higher LearningMyfyriwrDi-enw
Jefferson in ParisPatsy Jefferson
Se7enTracy MillsEnwebwyd am - Gwobr Saturn am yr Actores Gefnogol Orau
Moonlight and ValentinoLucy Trager
1996Hard EightClementine
The PallbearerJulie DeMarco
EmmaEmma WoodhouseGwobr Satellite Award am yr Actores Orau - Ffilm, Comedi neu Sioe Gerdd
1998Out of the PastSarah Orne Jewettllais
Sliding DoorsHelen QuilleyCymdeithas y Beirniaid Ffilm Rwsiaidd - Actores Orau o Dramor
Gwobr am yr Actores Orau Hefyd am Shakespeare in Love
Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm San Diego Hefyd am Shakespeare in Love
Great ExpectationsEstella
HushHelen Baring
A Perfect MurderEmily Bradford Taylor
Shakespeare in LoveViola De LessepsGwobr yr Academi am yr Actores Orau
Gwobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn ffilm sioe gerdd neu gomedi
Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Actores mewn prif ran
Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn am y Cast Gorau - Ffilm
Gwobr Empire am yr Actores Orau
Gwobr Ffilm MTV am y Gusan Orau Rhannwyd gyda Joseph Fiennes
Enwebwyd - Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Prif Ran
Enwebwyd - Gwobr Satellite am yr Actores Orau mewn Ffilm, Comedi neu Sioe Gerdd
Enwebwyd - Gwobr Ffilm MTV am y Perfformiad Benywaidd Gorau
1999The Talented Mr. RipleyMarge Sherwood
2000The InternEi hunHeb gydnabyddiaeth
DuetsLiv
BounceAbby JanelloEnwebwyd - Gwobr Ffilm MTV am y Gusan Orau Rhannwyd gyda Ben Affleck
2001The Anniversary PartySkye Davidson
The Royal TenenbaumsMargot TenenbaumEnwebwyd - Gwobr Satellite am y Ffilm Gomedi neu Sioe Gerdd Orau
Enwebwyd - Cymdeithas y Beirniaid Ffilm Phoenix am y Cast Gorau
Shallow HalRosemary Shanahan
2002Searching for Debra WingerEi hunFfilm ddogfen
Austin Powers in GoldmemberGwyneth Paltrow fel Dixie Normous yn 'Austinpussy'
PossessionMaud Bailey
2003View from the TopDonna Jensen
SylviaSylvia Plath
2004Sky Captain and the World of TomorrowPolly PerkinsEnwebwyd - Gwobr Ffilm MTV am y Gusan Orau Rhannwyd gyda Jude Law
2005ProofCatherineEnwebwyd - Gwobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn ffilm
2006InfamousKitty Dean
Love and Other DisastersHollywood Jacks
Running with ScissorsHope Finch
2007The Good NightDora
2008Iron ManVirginia "Pepper" Potts
Two LoversMichelle
Spain... on the road AgainEi hunCyfres deithio am fwyd 13 rhaglen gyda Mario Batali, Mark Bittman, a Claudia Bassols
2009King LearRegan
2010Iron Man 2Virginia "Pepper" Potts
2010Country StrongKelly Canter
2011Glee: The 3D Concert MovieHolly HollidayHeb gydnabyddiaeth[1]
2011ContagionBeth Emhoff
2012Thanks for SharingPhoebe
2012The AvengersPepper Potts
2013Iron Man 3Pepper Potts
2015MortdecaiJohanna Mortdecai

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.