Ben Affleck

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Berkeley yn 1972

Mae Ben Affleck (ganed Benjamin Géza Affleck-Boldt; 15 Awst 1972) yn actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilmiau Americanaidd. Daeth yn enwog yng nghanol y 1990au ar ôl cymryd rhan yn y ffilm Mallrats (1995). Ers hynny mae ef wedi ennill Gwobr yr Academi am ei addasiad ffilm o Good Will Hunting (1997). Mae ef wedi sefydlu ei hun fel un o brif ser Hollywood drwy serennu mewn nifer o ffilmiau cyllid cyllid uchel, fel Armageddon, Pearl Harbor (2001), Changing Lanes (2002), The Sum of All Fears (2002) a Daredevil (2003).

Ben Affleck
Affleck yn Comic-Con San Diego 2017
GanwydBenjamin Geza Affleck Edit this on Wikidata
15 Awst 1972 Edit this on Wikidata
Berkeley, Califfornia Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Occidental College, LA
  • Prifysgol Vermont
  • Cambridge Rindge and Latin School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, sgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor teledu, actor ffilm, chwaraewr pocer, ysgrifennwr, actor llais, cynhyrchydd gweithredol, cynhyrchydd, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Taldra192 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadTimothy Byers Affleck Edit this on Wikidata
MamChristine Anne Boldt Edit this on Wikidata
PriodJennifer Garner, Jennifer Lopez Edit this on Wikidata
PartnerGwyneth Paltrow, Jennifer Garner, Ana de Armas, Lindsay Shookus, Shauna Sexton, Jennifer Lopez Edit this on Wikidata
PlantViolet Affleck, Seraphina Affleck, Sam Affleck Edit this on Wikidata
PerthnasauSummer Phoenix Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Wreiddiol, Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Golden Globe Award for Best Screenplay, Volpi Cup for Best Actor, Gwobr César, Gwobr BAFTA am Gyfarwyddo Gorau, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr Saturn Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Cafodd berthynas gyda'r actores Gwyneth Paltrow ym 1998, ac yna bu'n canlyn yr actores/cantores Jennifer Lopez. Pan ddaeth y berthynas i ben yn 2004, dechreuodd Affleck ganlyn Jennifer Garner, Priododd y ddau ym mis Mehefin 2005 a chawsant ddwy ferch, Violet, a anwyd ym mis Rhagfyr 2005 a Seraphina, a anwyd ym mis Ionawr 2009. Mae Affleck yn berson gwleidyddol, ac mae wedi bod ynghlwm ag elusen o'r enw'r A-T Children's Project. Ar y cyd â'i gyfaill Matt Damon, sefydlodd y ddau gwmni cynhyrchu o'r enw LivePlanet.

Ffilmograffiaeth

BlwyddynFfilmRôlNodiadau eraill
1984The Voyage of the MimiC.T. Granville
1992School TiesChesty Smith
Buffy the Vampire SlayerPlayer 10Rôl cameo
1993Dazed and ConfusedFred O'Bannion
1995MallratsShannon Hamilton
1996Glory DazeJack
1997Good Will HuntingChuckie SullivanGwobrau'r Academi am y Sgript Wreiddiol Orauy]]
Gwobr Golden Globe am y Sgript Orau
Chasing AmyHolden McNeil
Going All the WayTom "Gunner" Casselman
1998Shakespeare in LoveNed AlleynGwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Gast mewn Ffilm
ArmageddonA.J. Frost
PhantomsSheriff Bryce Hammond
1999DogmaBartleby
Forces of NatureBen Holmes
200 CigarettesBartender
2000BounceBuddy Amaral
Reindeer GamesRudy Duncan
Boiler RoomJim Young
2001Jay and Silent Bob Strike BackHolden McNeil/Himself
Pearl Harbor1st Lt/Captain Rafe McCawley
2002The Sum of All FearsJack Ryan
Changing LanesGavin Banek
2003PaycheckMichael Jennings
GigliLarry Gigli
DaredevilMatt Murdock/Daredevil
2004Surviving ChristmasDrew Latham
Jersey GirlOllie Trinke
2005ElektraMatt Murdock/Daredevil(Dilewyd yr olygfa)
2006Clerks IIRhythwr
HollywoodlandGeorge ReevesGwobr Saturn am yr Actor Cefnogol Gorau mewn Ffilm
Gŵyl Ffilm Fenis - Cwpan Volpi am yr Actor Gorau
Nominated – Gwobr Golden Globe am yr Actor Cefnogol Gorau Mewn Ffilm]]
Man About TownJack Giamoro
2007Gone Baby GoneCyfarwyddwr, cyd-ysgrifennwr, cynhyrchydd
Smokin' AcesJack Dupree
2009He's Just Not That Into YouNeil
State of PlayStephen Collins
ExtractDeanÔl-gynhyrchu


Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.