Hadeaidd

Israniad y linell-amser ddaearegol yw'r Hadeaidd sy'n gorwedd o ran amser cyn yr Archeaidd. Ceir 4 eon, gyda phob un yn ymestyn am ysbaid o dros 500 miliwn o flynyddoedd. Mae'r eon yma'n cychwyn gyda'r Ddaear yn cael ei greu, tua 4.6 biliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[1]

Hadeaidd
Enghraifft o'r canlynoleon, eonothem Edit this on Wikidata
Rhan oCyn-Gambriaidd, Graddfa Cronostratigraffig Fyd-eang Safonol (Daeargronolegol) ICS Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 4601. CC Edit this on Wikidata
Daeth i benc. Mileniwm 4001. CC Edit this on Wikidata
Olynwyd ganArcheaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cyn-Gambriaidd 
HadeaiddArcheaiddProterosöigFfanerosöig

Geirdarddiad

Daw'r gair Hadeaidd (a'r Saesneg "Hadean") o "Hades", sef enw un o dduwiau'r isfyd, yn ôl Mytholeg Roeg. Mae'n cyfeirio at ystâd y Ddaear yr adeg hon: tân a brwmsatn, digon tebyg i uffern yr isfyd, oherwydd y llosgfynyddoedd byw a'r tymheredd uchel. Roedd llawer o grwst y Ddaear hefyd yn dal yn garreg tawdd. Bathwyd y term gan Preston Cloud yn 1972. Y term a ddefnyddiwyd cyn 1972 oedd 'Cyn-Archean'.

Bywyd

Yn 2015 darganfuwyd mwynau carbon mewn creigiau 4.1 biliwn CP yng Ngorllewin Awstralia, a disgrifiwyd nhw fel "gweddillion bywyd biotig".[2][3]

Darlun o'r Hadeaidd gan arlunydd.

Israniadau

Gan mai ychydig iawn o olion sydd o'r amser hwn, ni cheir israniadau. Defnyddir llinell-amser daearegol y Lleuad, fodd bynnag]] yn answyddogol. Dyma nhw:

Cyfeiriadau