Haider al-Abadi

Prif Weinidog Irac ers 8 Medi, 2014 yw Haider Jawad Kadhim Al-Abadi (Arabeg: حيدر جواد كاظم العبادي) ac ef yw arweinydd y Blaid Dawa Islamaidd. Ganed 25 Ebrill 1952 yn Baghdad, Irac ac mae'n Shïa o ran ei grefydd. Cyn 2012 ef oedd Gweinidog dros y Cyfryngau (2003-2004, yn Llywodraeth cyntaf wedi oes Saddam Hussein.

Haider al-Abadi
Haider al-Abadi


75fed Brif Weinidog Irac
Deiliad
Cymryd y swydd
8 Medi, 2014
RhagflaenyddNouri al-Maliki

Geni (1952-04-25) Ebrill 25, 1952 (72 oed)
Plaid wleidyddolBlaid Dawa Islamaidd
Plant3
Alma materPrifysgol Technoleg
Prifysgol Manceinion
Galwedigaethgwleidydd
CrefyddMwslim Shia

Ymunodd Al-Abadi â'r Blaid Dawa anghyfreithlon ym 1967. Mynychodd Brifysgol Manceinion a graddiodd gyda PhD mewn Peirianneg Drydanol ym 1993.[1] Dychwelodd i Irac yn ystod y Goresgyniad Irac 2003. Ar 8 Medi 2014, olynodd Nouri al-Maliki fel Prif Weinidog Irac.[2]

Un o'i ddyletswydda pennaf tra'n Brif Weinidog oedd wynebu'r Wladwriaeth Islamaidd (ISIL). Bu'n hynod o feirniadol o'r Unol Daleithiau America (UDA) am iddynt, yn ei farn ef, orwedd ar eu rhwyfau yn htrach na'u hymladd.[3] Trodd ei olygon tuag at Rwsia ac Iran am gymorth, gan annog cydweithrediad milwrol gyda'r ddau bartner newydd yma.[4]

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: