Iac

Iac
Iac yn Letdar ger Annapurna, canolbarth Nepal.
Statws cadwraeth

Bregus (IUCN 3.1)[1]
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Mammalia
Urdd:Artiodactyla
Teulu:Bovidae
Genws:Bos
Rhywogaeth:B. grunniens
Enw deuenwol
Bos grunniens
Linnaeus, 1766
Cyfystyron

Poephagus grunniens

Math o fuwch blewog a welir yn yr Himalayas yng nghanol Asia ac yd at Mongolia a Rwsia yw iac (ffurfiau lluosog: iaciaid, iacod)[2] neu ych crwbi[2] (Bos grunniens am yr un wedi'i ddofi, Bos mutus am yr anifail gwyllt – gweler isod).

Iac ger Llyn Yamdrok, Tibet.

Fel yr awgrymir uchod ceir poblogaeth helaeth o'r iac wedi'i ddofi a rhyw ychydig o rai gwyllt. Yn y 1990au cafwyd sawl prosiect i geisio gwarchod y rhai gwyllt.

Yr enw

Daw'r gair Cymraeg "iac" drwy'r Saesneg yak o'r gair Tibeteg གཡག་(g.yag neu gyag) – sydd mewn Tibeteg yn cyfeirio at y gwryw o'r rhywogaeth. Eu henw ar y fenyw ydy dri neu nak. Mae'r gair Cymraeg, fel y Saesneg, yn cyfeirio at y ddau ryw.

Cyfeiriadau