Iddew-Sbaeneg

iaith

Iaith Iddewig sydd yn tarddu o'r Hen Sbaeneg yw Iddew-Sbaeneg (Iddew-Sbaeneg: גֿודיאו-איספאנייול ; Sbaeneg: judeoespañol), a elwir hefyd yn Ladino[1] neu Judezmo.[2] Iaith Romáwns a ysgrifennir yn yr wyddor Hebraeg ydyw, gyda chryn dylanwad gan y Hebraeg a'r Aramaeg.

Datblygodd yr Iddew-Sbaeneg yn Sbaen yn y 14g a'r 15g, fel tafodiaith yr Iddewon Seffardig ar yr Hen Sbaeneg gyda nifer o eiriau Hebraeg. Yn sgil alltudiaeth yr Iddewon o Sbaen yn 1492, dylanwadwyd arni gan yr ieithoedd yn y gwledydd a ymsefydlasant yr Iddewon ynddynt, yn enwedig Arabeg, Tyrceg, Groeg, Ffrangeg, Portiwgaleg, ac Eidaleg. Mae'r enw Ladino yn cyfeirio at wreiddiau Lladin yr iaith. Cafodd y Beibl Hebraeg ei gyfieithu i'r Iddew-Sbaeneg yn y 1740au a'i gyhoeddi dan olygyddiaeth Abraham Assa yng Nghaergystennin.[3]

Cafodd y mwyafrif o gymunedau Iddew-Sbaeneg y Balcanau eu difa gan y Natsïaid yn ystod yr Holocost. Amcangyfrifir bod 80,000–200,000 o Iddewon yn siarad yr iaith yn yr 21g, y mwyafrif ohonynt yn hen ac yn byw yn Israel. Gan nad ydynt yn magu eu plant yn yr iaith, mae'r Iddew-Sbaeneg, fel yr Iddew-Almaeneg, mewn perygl o farw.[3]

Gweler hefyd

  • Iddew-Bortiwgaleg

Cyfeiriadau