Llesmair

Mae llesmair, llewygu neu basio allan, yn golled fer o ymwybyddiaeth a chryfder y cyhyrau sy'n ddechrau'n sydyn, yn para am gyfnod byr cyn adferiad digymell[1].

Llesmair
Enghraifft o'r canlynolsymptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathshort loss of consciousness, alteration of consciousness Edit this on Wikidata
Rhan otermau seicoleg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darlun olew gan Pietro Longhi 1744 yn dangos dynes yn llesmeirio

Symptomau

Mae llesmair yn digwydd o ganlyniad i ostyngiad yn llif y gwaed i'r ymennydd cyfan, fel arfer o ganlyniad i bwysedd gwaed isel. Mae gan rai achosion symptomau rhagarwyddol cyn i'r colli ymwybyddiaeth ddigwydd. Gallai'r symptomau hyn gynnwys pendro, chwysu, croen golau, golwg aneglur, teimlo'n gyfoglyd, chwydu, a theimlo'n gynnes ymhlith eraill[2]. Efallai y bydd llesmair hefyd yn gysylltiedig â phennod fer o blycio'r cyhyrau.

Achosion

Mae achosion yn amrywio o heb fod yn ddifrifol i fod yn angheuol. Mae yna dri chategori eang o achosion:

Cyflyrau yn ymwneud a'r galon a'r pibellau gwaed yw'r achos mewn tua 10% o achosion. Fel arfer y rhain yw'r rhai mwyaf difrifol. Llesmair gyda deilliant niwral yw'r mwyaf cyffredin. Gall achosion sy'n gysylltiedig â'r galon gynnwys rhythm calon annormal, problemau gyda falfiau neu gyhyrau'r galon a rhwystrau o bibellau gwaed o embolism ysgyfeiniol neu ddyraniad aortig ymhlith eraill[1].

Mae llesmair a deilliant niwral yn digwydd pan fydd pibellau gwaed yn ehangu ac mae cyfraddau curiad y galon yn gostwng yn amhriodol. Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i weithred sy'n ei sbarduno fel braw, gweld gwaed, teimlo poen, ofn neu gael teimladau cryf. Gall cael ei achosi trwy gyflawni gweithgaredd penodol fel pasio dŵr, chwydu neu beswch. Gallai'r math hwn o lesmair digwydd hefyd pan fydd ardal yn y gwddf a elwir yn sinws carotid yn cael ei wasgu.

Mae llesmair o isbwysedd ystumiol yn digwydd pan fo pwysedd gwaed yn gostwng wrth sefyll. Mae hyn yn aml oherwydd sgil effeithiau meddyginiaethau ond fe all bod yn gysylltiedig â dadhydradu, gwaedu sylweddol neu haint.

Diagnosis a rheolaeth

Hanes meddygol, archwiliad corfforol, ac electrocardiogram (ECG) yw'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ganfod achos sylfaenol y llesmair. Mae'r ECG yn ddefnyddiol i ganfod rhythm calon anarferol, llif gwaed gwael i gyhyr y galon, a phroblem drydanol eraill megis syndrom QT hir a syndrom Brugada. Gall pwysedd gwaed isel a chyfradd curiad y galon gyflym ar ôl y digwyddiad nodi colli gwaed neu ddadhydradu, a gellir gweld lefelau ocsigen gwaed isel yn dilyn y digwyddiad yn y rhai sydd ag embolism ysgyfeiniol.

Dylid ystyried cyflyrau eraill sydd yn creu symptomau tebyg, gan gynnwys epilepsi, strôc, cyfergyd, ocsigen gwaed isel, siwgr gwaed isel, effeithiau cyffuriau a rhai anhwylderau seiciatrig ac ati. Mae triniaeth yn dibynnu ar yr achos sylfaenol. Mae'n bosibl y bydd y rhai sy'n cael eu hystyried eu bod mewn risg uchel yn dilyn ymchwiliad yn cael eu derbyn i'r ysbyty i fonitro'r galon ymhellach[1].

Cyffredinoled

Mae llesmair yn effeithio ar tua 3 person allan o bob mil o bobl pob blwyddyn. Mae'n fwy cyffredin ymhlith pobl hŷn a menywod. Dyma'r rheswm dros un i dri'r cant o ymweliadau ag adrannau brys a derbyniadau i'r ysbyty. Mae hyd at hanner menywod dros 80 oed a thraean o fyfyrwyr meddygol yn disgrifio o leiaf un digwyddiad ar ryw adeg yn eu bywyd[3]. O'r rhai sydd yn llesmeirio bydd tua 4% yn marw yn ystod y 30 diwrnod canlynol[1]. Fodd bynnag, mae'r risg o brognosis gwael yn dibynnu'n fawr ar yr achos sylfaenol[4].


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Cyfeiriadau