Lletem

Erfyn siâp triongl a phlân ar oleddf cludadwy yw lletem. Un o'r chwe pheiriant syml clasurol yw hi. Gellir ei defnyddio i wahanu dau wrthyrch neu rannau o wrthrych, i godi gwrthrych neu i ddal gwrthrych yn ei le. Mae'n gweithio drwy drawsnewid grym a roddir ar y pen di-fin i mewn i rymoedd sy'n berbendicwlar i'w hwynebau ar oleddf. Rhoddir mantais fecanyddol lletem gan gymhareb o hyd ei holeddf i'w lled.[1][2] Er y gallai lletem fer ag ongl lydan gyflawni nod yn gynt, mae eisiau mwy o rym nag sydd ar letem hir ag ongl gul.

Lletem[dolen marw] i hollti coed

Cyfeiriadau